Euro 2020: Beth 'da ni'n wybod hyd yma
- Cyhoeddwyd
Wedi'r fuddugoliaeth yn erbyn Hwngari ar nos Fawrth, 19 Tachwedd, mae carfan Cymru wedi sicrhau eu lle yn rowndiau terfynol Euro 2020.
Ond faint ydych chi'n gwybod am yr hyn sydd yn dod nesaf? Pryd mae'r gystadleuaeth? Ble fydd y gemau'n cael eu cynnal? Pwy ydy'r timau fydd yno?
Dyma rywfaint o'r wybodaeth hollbwysig...
Pryd mae'r gystadleuaeth?
Bydd y bencampwriaeth yn cael ei chynnal rhwng Mehefin a Gorffennaf 2020.
Bydd y gêm gyntaf yn Stadio Olimpico, Rhufain ar 12 Mehefin, a'r rownd derfynol yn Stadiwm Wembley, Llundain ar 12 Gorffennaf.
Faint o dimau fydd yn cymryd rhan?
Bydd 24 o dimau yn y rowndiau terfynol. Bydd chwe grŵp i gyd, gyda phedwar tîm ym mhob grŵp.
Bydd enillwyr y grwpiau, y timau sydd yn ail ym mhob grŵp, a'r pedwar tîm sydd yn gorffen orau yn y trydydd safle yn mynd 'mlaen i rownd yr 16 olaf, ac yna bydd rownd y chwarteri, y rowndiau cynderfynol a'r rownd derfynol.
Pwy yw'r timau fydd yno?
Mae 'na 20 tîm eisoes wedi cyrraedd y rowndiau terfynol, ac mae lle i bedwar arall drwy'r gemau ail-gyfle.
Y timau sydd wedi cyrraedd yn barod: Gwlad Belg, Yr Eidal, Rwsia, Gwlad Pwyl, Wcráin, Sbaen, Ffrainc, Twrci, Lloegr, Y Weriniaeth Tsiec, Y Ffindir, Sweden, Croatia, Awstria, Yr Iseldiroedd, Yr Almaen, Portiwgal, Y Swistir, Denmarc.....ac wrth gwrs, Cymru.
Bydd 16 gwlad yn y gemau ail-gyfle, wedi eu rhannu yn bedwar grŵp (llwybrau gwahanol) o bedwar. Bydd rownd gynderfynol ac yn rownd derfynol i benderfynu ar bwy fydd y pedwar tîm fydd yn mynd ymlaen i'r bencampwriaeth.
Y timau fydd yn y gemau ail-gyfle: Gwlad yr Iâ, Bwlgaria, Israel, Hwngari, Rwmania, Bosnia a Herzegovina, Slovakia, Gweriniaeth Iwerddon, Gogledd Iwerddon, Yr Alban, Norwy, Serbia, Georgia, Gogledd Macedonia, Kosovo, Belarws.
Llwybr A
Rownd cyn-derfynol (Mawrth 26ain): Gwlad yr Iâ v Rwmania; Bwlgaria v Hwngari
Rownd derfynol (Mawrth 31eg): Bwlgaria/Hwngari v Gwlad yr Iâ/Rwmania
Llwybr B
Rownd cyn-derfynol (Mawrth 26ain): Bosnia a Herzegovina v Gogledd Iwerddon; Slovakia vs. Gwerthiniaeth Iwerddon
Rownd derfynol (Mawrth 31eg): Bosnia a Herzegovina/Gogledd Iwerddon v Slovakia/Gweriniaeth Iwerddon
Llwybr C
Rownd cyn-derfynol (Mawrth 26ain): Yr Alban v Israel; Norwy v Serbia
Rownd derfynol (Mawrth 31eg): Norwy/Serbia v Yr Alban/Israel
Llwybr D
Rownd cyn-derfynol (Mawrth 26ain): Georgia v Belarws; Gogledd Macedonia v Kosovo
Rownd derfynol (Mawrth 31eg): Georgia/Belarws v Gogledd Macedonia/Kosovo
Ym mha grŵp fydd Cymru?
Mae Cymru'n gwybod eisoes y byddan nhw un ai yng Ngrŵp A neu B pan fyddan nhw'n cael eu dewis ar 30 Tachwedd - ond pam?
Oherwydd bod 12 gwlad wahanol yn cynnal y gemau, mae UEFA wedi penderfynu y bydd pob un o'r rheiny sy'n cyrraedd y gystadleuaeth yn cael chwarae gemau grŵp yn eu stadiwm eu hunain.
Mae'n golygu nad yw'r broses o ddewis y grwpiau mor agored ag y mae fel arfer, gyda llawer o dimau eisoes yn gwybod ble byddan nhw'n chwarae.
Nid yn unig hynny, ond gan fod Cymru ymhlith y detholion isaf allen nhw ddim bod yn yr un grŵp ag un o'r pedwar tîm sy'n dod drwy'r gemau ail gyfle.
Mae'n golygu nad oes modd bod yng Ngrŵp C, D, E nac F, gan fod Gweriniaeth Iwerddon, Rwmania, Hwngari a'r Alban i gyd yn cynnal gemau yn y grwpiau hynny ond hefyd yn rhan o'r gemau ail gyfle.
Pwy allai Cymru wynebu felly? Wel, os ydyn nhw yng Ngrŵp B mae'n weddol syml - y tri thîm arall fydd Denmarc a Rwsia (ble bydd y gemau wedi'u lleoli), a Gwlad Belg.
Os ydyn nhw yng Ngrŵp A fe fyddan nhw'n wynebu'r Eidal yn Rhufain, ac fe fydd ganddyn nhw hefyd ddwy gêm yn ninas Baku yn Azerbaijan - un yn erbyn Ffrainc, Gwlad Pwyl, Swistir neu Croatia, a'r llall yn erbyn Portiwgal, Twrci, Awstria, Sweden neu'r Weriniaeth Czech.
Ble fydd y gemau?
Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal dros 12 dinas, mewn 12 gwlad wahanol. Fe wnaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru rhoi cais yn cynnig Stadiwm Principality, Caerdydd fel lleoliad i'r gemau, ond cafodd ei wrthod, ynghyd â chwe dinas arall (Minsk, Sofia, Brwsel, Jerusalem, Skopje a Stockholm)
Dyma pob stadiwm yn y dinasoedd fydd yn cynnal y gemau:
Wembley - Llundain, Lloegr
Allianz Arena - Munich, Yr Almaen
Stadio Olimpico - Rhufain, Yr Eidal
Olympic Stadium - Baku, Azerbaijan
Krestovsky Stadium - Saint Petersburg, Rwsia
Arena Nationala - Bucharest, Rwmania
Johan Cruyff Arena - Amsterdam, Yr Iseldiroedd
Aviva Stadium - Dulyn, Iwerddon
San Mames - Bilbao, Sbaen
Puskas Arena - Budapest, Hwngari
Hampden Park - Glasgow, Yr Alban
Parken Stadium - Copenhagen, Denmarc
Hefyd o ddiddordeb: