Crynodeb

  • Cymru wedi trechu Twrci o 2-0 yn eu hail gêm yn Euro 2020

  • Aaron Ramsey'n sgorio ar ôl methu gyda dau gyfle da yn yr hanner cyntaf

  • Gareth Bale yn methu gyda chic o'r smotyn yn dilyn trosedd arno yn y cwrt cosbi

  • Connor Roberts yn selio'r fuddugoliaeth gyda gôl yn yr eiliadau olaf

  • Y fuddugoliaeth yn debygol o fod yn ddigon i gyrraedd rownd yr 16 olaf

  1. Moliant i Ramsey wrth gael ei eilyddiowedi ei gyhoeddi 18:46 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2021

    Gwennan Harries
    Cyn ymosodwr Cymru

    Quote Message

    Fe yw'r gwahaniaeth - yn y gemau mawr, yn erbyn Rwsia, Hwngari. Dy'n ni ddim yn edrych fel tîm sy'n creu pan dyw e ddim yn chwarae.

  2. Diolch i'r Wal Gochwedi ei gyhoeddi 18:45 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2021

    Carl Roberts
    Chwaraeon BBC Cymru

    Quote Message

    Mae Ramsey yn cerdded o amgylch y cae a chymeradwyo y Wal Goch wrth fynd heibio.

    RamseyFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Twrci'n dal i ddodwedi ei gyhoeddi 18:45 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2021

    Pob un o chwaraewyr Cymru yn ôl yn amddiffyn, mewn dwy res.

    Dal i ddod mae Twrci, gan ennill cic gornel - ac mae na arbediad ARBENNIG gan Danny Ward o beniad Demiral.

    Mae Cymru'n syth i lawr i'r pen arall, ond roedd croesiad James fodfedd yn rhy uchel i ben Harry Wilson...

  4. Wilson ymlaenwedi ei gyhoeddi 18:41 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2021

    Eilyddio

    Harry Wilson sy'n cymryd lle'r sgoriwr, Aaron Ramsey i Gymru

  5. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 18:41 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2021

    Dylan Griffiths
    Chwaraeon BBC Cymru

    Quote Message

    Mae yna ddeg munud anferth o'n blaenau ni.... a chwyslyd.

  6. Cymru dan warchaewedi ei gyhoeddi 18:40 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2021

    Saith munud o'r 90 sy'n weddill, ond mae Cymru'n wynebu ton ar ôl ton o ymosodiadau Twrci.

  7. Eilydd arall i Dwrciwedi ei gyhoeddi 18:40 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2021

    Eilyddio

    Cengiz Under yn gadael, Kahveci ymlaen.

  8. Rhaid amddiffyn yn anhygoel nawrwedi ei gyhoeddi 18:37 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2021

    'Tash' Harding
    Chwaraewr rhyngwladol Cymru

    Quote Message

    Y bois yn siomedig i Bale fethu y penalty - bydd cyfle arall iddo sgorio dwi'n siwr o hynny ond y bois yn gorfod amddiffyn nawr yn anhygoel o dda, a curo y bêl mewn i wagle a gobeithio bod Dan James yn gallu cael y bêl tu `nol i linell gefn Twrci, a cadw y bêl mas o'r rhwyd nhw.

    CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
  9. Fydd Gareth ddim isio gweld hon eto...wedi ei gyhoeddi 18:34 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2021

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Yr hen Joe Allen 'nôlwedi ei gyhoeddi 18:33 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2021

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru

    Quote Message

    Aeth o am dacl, fe wnaeth o golli y dacl ac roedd yn edrych fel pe bai ei goesau fo wedi mynd. Mae wedi bod yn anhygoel chwarae teg, 'nôl i'r hen Joe Allen

  11. Anaf i Moorewedi ei gyhoeddi 18:31 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2021

    Mae 'na waed yn llifo o drwyn Kieffer Moore, ar ôl i goes Soyuncu ei ddal yn ei wyneb wrth i'r ddau frwydro am y bêl.

    Ail anaf mewn dwy gêm i ymosodwr Cymru, ond mae o'n ôl ar ei draed.

    MooreFfynhonnell y llun, Getty Images
  12. Eilyddiowedi ei gyhoeddi 18:30 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2021

    Eilyddio

    Ethan Ampadu yn dod i'r cae yn lle Joe Allen i Gymru.

    Müldür yn dod i'r cae yn lle Meras i Dwrci. Dervisoglu hefyd ymlaen yn lle Karaman.

  13. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 18:28 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2021

    Gwennan Harries
    Cyn ymosodwr Cymru

    Quote Message

    Ma' Twrci yn gymaint fwy cystadleuol yn yr ail hanner. Ma' angen i Gymru fod ar y droed flaen yn fwy drwy ennill y bêl gyntaf er mwyn gosod y sylfaen. Ma' Twrci yn mynd i synhwyro cyfle ac mae'r dorf yn mynd i gynhyrfu. Fyswn i'n newid y siâp i gael y canol yn fwy cul.

    CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
  14. Twrci'n bloeddiowedi ei gyhoeddi 18:26 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2021

    Carl Roberts
    Chwaraeon BBC Cymru

    Mae methu'r gic o'r smotyn wedi egnio cefnogwyr Twrci. Bloedd ucha'r noson wrth i gic Bale hedfan dros y trawst.

  15. A ddylai Bale fod wedi cymryd honna?wedi ei gyhoeddi 18:24 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2021

    Nicky John
    Rhaglen Ewro Marc, BBC Radio Cymru

    "I feddwl nad yw Bale wedi sgorio mewn 12 gêm i Gymru ai fo oedd y dewis gorau i gymryd y gic o'r smotyn?"

    "Dwi ddim yn siwr!" medd Nicky John o raglen Ewro Marc.

  16. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 18:24 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2021

    Gwennan Harries
    Cyn ymosodwr Cymru

    Quote Message

    Dwi dal mewn sioc

    BaleFfynhonnell y llun, Getty Images
  17. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 18:23 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2021

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru

    Quote Message

    Y triphwynt ddim yn saff - bydden ni yn hapusach pe bai y cic gosb na wedi mynd i'r rhwyd. Mae chwaraewyr Twrci yn edrych ar ôl y bêl.

  18. Momentwm wedi troiwedi ei gyhoeddi 18:22 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2021

    Mae 'na deimlad bod y momentwm wedi troi at Dwrci ar ôl y gic o'r smotyn.

    Mae dynion Rob Page yn gorfod amddiffyn yn gadarn.

  19. Oes na newid i ddod?wedi ei gyhoeddi 18:20 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2021

    Carl Roberts
    Chwaraeon BBC Cymru

    Quote Message

    Rob Page yn ymateb drwy alw ar Neco Williams, Harry Wilson ac Ethan Ampadu i fynd i ochr y cae i ystwytho,

  20. Bale yn methuwedi ei gyhoeddi 18:19 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2021

    Mae Bale wedi taro'r gic o'r smotyn ymhell dros y trawst.

    Bydd o'n siomedig iawn hefo honno.

    BaleFfynhonnell y llun, Getty Images