GÔL I GYMRU!wedi ei gyhoeddi 17:43 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2021

Cymru wedi trechu Twrci o 2-0 yn eu hail gêm yn Euro 2020
Aaron Ramsey'n sgorio ar ôl methu gyda dau gyfle da yn yr hanner cyntaf
Gareth Bale yn methu gyda chic o'r smotyn yn dilyn trosedd arno yn y cwrt cosbi
Connor Roberts yn selio'r fuddugoliaeth gyda gôl yn yr eiliadau olaf
Y fuddugoliaeth yn debygol o fod yn ddigon i gyrraedd rownd yr 16 olaf
Twrci'n pwyso ond Cymru'n cipio'r bêl ac mae Ramsey ar ben ei hun i fyny'r cae.
Mae'n rhaid iddo aros am gefnogaeth, sy'n dod gan Connor Roberts, ond dydy ei groesiad i'r canol ddim yn ddigon da.
Mae na bryder yma am Joe Rodon, sy'n edrych yn anghyfforddus iawn ar hyn o bryd.
Nicky John
Rhaglen Ewro Marc, BBC Radio Cymru
Gyda ychydig dros hanner awr wedi mynd dyma sylwadau Nicky John o raglen Ewro Marc.
"Mae Joe Morrell wedi profi pam ei fod wedi cadw ei le ar ôl y cliriad 'na oddi ar y llinell.
"Gobeithio na fyddwn ni'n difaru methu'r cyfleoedd y methodd Ramsey.
"Dyw hyn ddim yn gwneud dim lles i fy stress levels i."
Cofiwch gysylltu ar ôl y gêm am 1900 ar 03703 500 500 neu 67500 ar y testun.
Gwennan Harries
Cyn ymosodwr Cymru
Quote MessageAmddiffyn da gan Gymru yna, disgyblaeth o fewn y siap, o fewn eu rolau nhw. Gorfodi Twrci allan i'r asgell fel bod nhw ddim yn chwarae trwyddyn ni.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dylan Griffiths
Chwaraeon BBC Cymru
Quote MessageChwys yn diferu oddi ar dalcen Ramsey sydd wedi cael y ddau gyfle gore hyd yma.
Cyfnod gwell i Dwrci, Ünder yn fygythiad i lawr y dde, ac yna Joe Morrell yn achub Cymru wrth benio oddi ar y linell o gic gornel.
Malcolm Allen
Cyn ymosodwr Cymru
Quote MessageAmseru Ramsey'n berffaith, grêt o bêl, ond rhaid bod mwy clinigol.
'Tash' Harding
Chwaraewr rhyngwladol Cymru
Quote MessageBale a Ramsey yn barod wedi trio cysylltu o ganol y cae i'r cefn a'r blaenwyr. Cwpl o chanses yn gynnar so mae hi yn edrych yn well yn barod.
Iwan Roberts
Cyn-ymosodwr Cymru
Quote MessageY gwahaniaeth ydi chwaraewyr yn symud, chwaraewyr ddim yn sefyll yn llonydd. Pwy bynnag sydd â'r bêl mae na chwaraewr o'i flaen o yn cynnig ei hun... Cymaint gwahanol i beth welson ni yn erbyn Y Swistir. Bydd Robert Page wrth ei fodd gyda'r dechrau mae'r chwaraewyr wedi 'neud.
Ail gyfle GWYCH i Ramsey, sy'n derbyn pas wych gan Bale eto, ond yn ergydio ymhell dros y trawst.
Tri chynnig i Gymro?
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Carl Roberts
Chwaraeon BBC Cymru yn Baku
Mae'n fyddarol yma!
Yn y cyfamser, dyma Ethan Ampadu, Chris Gunter a Tyler Roberts yn 'cynhesu' ar ochr y cae.
Dylan Griffiths
Chwaraeon BBC Cymru
Quote MessageDan James yn achosi problemau lu i Dwrci... falle pwynt i brofi.
Dylan Griffiths
Chwaraeon BBC Cymru
Quote MessageSiawns bydd VAR yn edrych ar honna.
Y bêl wedi taro pen-elin Soynucu yn y cwrt, ond doedd yr amddiffynnwr ddim yn gwybod llawer amdani mae'n rhaid dweud.
Gwennan Harries
Cyn ymosodwr Cymru
Quote MessageMae 'na bartneriaeth wych yn datblygu rhwng James a Moore, mae'n gwybod yn union lle i roi'r bêl.
Croesiad gwych gan James ar ei droed chwith ond Kieffer Moore yn methu a phenio i lawr y tro hwn.
Mae Twrci'n gwrthymosod eto, does na ddim gorffwys yn y gêm!
Dylan Griffiths
Chwaraeon BBC Cymru
Quote MessageMae Gareth Bale wedi cael mwy o ddylanwad yn y 10 munud agoriadol heno na chafodd drwy gydol yr hanner cynta' ddydd Sadwrn.
Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford yn osgoi cyfarfodydd heddiw i wylio'r gêm fawr!
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cic rydd sydyn gan Dwrci, ac Under yn rhoi pêl wych ar draws y cwrt i Yilmaz sy'n ergydio heibio'r postyn. Peryglus.