Crynodeb

  • Cymru wedi trechu Twrci o 2-0 yn eu hail gêm yn Euro 2020

  • Aaron Ramsey'n sgorio ar ôl methu gyda dau gyfle da yn yr hanner cyntaf

  • Gareth Bale yn methu gyda chic o'r smotyn yn dilyn trosedd arno yn y cwrt cosbi

  • Connor Roberts yn selio'r fuddugoliaeth gyda gôl yn yr eiliadau olaf

  • Y fuddugoliaeth yn debygol o fod yn ddigon i gyrraedd rownd yr 16 olaf

  1. Cyfle gwych!wedi ei gyhoeddi 17:08 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2021

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru

    Pêl wych gan Bale yn rhwygo amddiffyn Twrci ac ergyd Ramsey o chwe llath yn syth at y golwr.

    Gyda phum munud wedi mynd dyna gyfle cyntaf Cymru.

    Quote Message

    Dylai fod Ramsey wedi sgorio.

    RamseyFfynhonnell y llun, Getty Images
  2. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 17:07 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2021

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru

    Quote Message

    Y ddau dîm yn mynd amdani yn gynnar yn y gêm. Twrci yn benderfynol o beidio gadael i Danny Ward chwarae y bêl allan.

  3. Cic rydd gynnarwedi ei gyhoeddi 17:06 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2021

    Cic rydd gynnar gan Gymru yn dilyn trosedd ar Connor Roberts, ond mae'r bêl i mewn gan Dan James yn siomedig.

    Mae Twrci yn syth i lawr at ben arall y cae gyda phasio slic o amgylch cwrt cosbi Cymru.

  4. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 17:03 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2021

    Gwennan Harries
    Cyn ymosodwr Cymru

    Quote Message

    Mae'n mynd i deimlo fel gêm oddi cartref gyda 30,000 o gefnogwyr Twrci, felly trio tawelu nhw a cael mewn i'r gêm sydd angen.

    TwrciFfynhonnell y llun, Getty Images
  5. Ffwrdd â niwedi ei gyhoeddi 17:01 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2021

    Aaron Ramsey yn dechrau'r gêm - ffwrdd â ni!

  6. Parch... a bwio'r anthemwedi ei gyhoeddi 17:00 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2021

    Carl Roberts
    Chwaraeon BBC Cymru yn Baku

    Cefnogwyr Twrci yn canu’n uchel ond hefyd yn cymeradwyo Hen Wlad Fy Nhadau.

    Maen nhw'n bwio tîm Cymru serch hynny!

  7. C'MON CYMRU!wedi ei gyhoeddi 16:55 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2021

    Reit, dyma ni.

    Mae'r chwaraewyr allan ar y cae ac yn barod ar gyfer yr anthemau.

    Gêm hollbwysig i dîm Rob Page yn y gystadleuaeth.

    C'MON CYMRU!

    CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. Disgwyl mwy gan Bale a Ramseywedi ei gyhoeddi 16:52 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2021

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru

    Quote Message

    Dwi'n meddwl bod ni gyd yn disgwyl mwy gan y ddau. Y ddau seren yn y tîm, yn y garfan. Mae'r chwaraewyr eraill yn edrych fyny i'r ddau yna. A da ni yn disgwyl mwy ganddyn nhw. Maen nhw wedi gosod safon ofnadwy o uchel dros y blynyddoedd, o'dd y ddau ddim yn gret p'nawn Sadwrn a chafon nhw ddim dylwanwad ar y gêm o gwbl.

  9. 'Fydd hi'n fwy corfforol'wedi ei gyhoeddi 16:49 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2021

    Mae rhai o gefnogwyr Cymru sydd wedi mentro allan i Azerbaijan wedi bod yn rhoi eu barn am yr ornest.

    10 munud sydd i fynd!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Dwi'n ofnadwy o nerfus!wedi ei gyhoeddi 16:47 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2021

    Nicky John
    Rhaglen Ewro Marc, BBC Radio Cymru

    Mae Nicky John, sy'n rhan o raglen Ewro Marc ar Radio Cymru, yn synnu nad yw Robert Page wedi gwneud unrhyw newid i'r tîm lwyddodd i gael pwynt yn erbyn Y Swistir:

    "Roeddwn wedi disgwyl gweld o’ leiaf un newid heddiw, un ai Ampadu neu Neco Williams. Dwi'n teimlo'n nerfus iawn ar hyn o bryd, mae'n rhaid i ni ennill."

    Bydd rhaglen Ewro Marc ymlaen ar BBC Radio Cymru ar ôl y gêm am 19:00.

    Cysylltwch ar 03703 500 500

    67500 ar y testun

  11. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 16:45 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2021

    'Tash' Harding
    Chwaraewr rhyngwladol Cymru

    Quote Message

    O' ni'n meddwl bod Cymru yn lwcus yn yr hanner cynta [yn erbyn Y Swistir], oedd angen pasio'r bêl yn well. Mae angen nhw gyd troi fyny heddiw. Fe gafodd Bale gêm really dawel, ac roedd e'n amddiffyn gormod, ac o' chi yn gallu gweld bod Ramsey heb chwarae ers 4 neu 5 wythnos. O ni yn lwcus i gael pwynt o'r gêm.

  12. Y nerfau'n dechrau yn nhafarn y Twthillwedi ei gyhoeddi 16:43 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2021

    Mae'r criw yn nhafarn y Twthill Vauts yng Nghaernarfon yn barod ar gyfer y gic gyntaf - lle fyddwch chi'n gwylio heddiw?

    Twthill
    Twthill
  13. Kieffer yn cadw'r rhwymynwedi ei gyhoeddi 16:40 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2021

    Y newyddion mawr yn y stadiwm wrth i'r ddau dîm fynd trwy'r paratoadau ydy bod Kieffer Moore wedi penderfynu cadw'r rhwymyn ar ei ben ar gyfer y gêm yma hefyd!

    Bu'n rhaid iddo roi rhywymyn coch ar ei ben wedi iddo daro ei ben yn y gêm yn erbyn y Swistir cyn iddo fynd ymlaen i sgorio'r gôl allweddol - ond du ydy'r rhwymyn heddiw.

    Ydy o'n ofergoelus felly, ac yn gobeithio y bydd y rhwymyn yn dod â lwc iddo heno hefyd? Croesi bysedd!

    MooreFfynhonnell y llun, Getty Images
  14. Bydd hi'n her i Gymruwedi ei gyhoeddi 16:37 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2021

    Dylan Griffiths
    Chwaraeon BBC Cymru

    Quote Message

    Awyrgylch wahanol yma heno... Wrth edrych o'r pwynt sylwebu 'da ni yn gweld rhyw 200 o gefnogwyr Cymru, ond cefnogwyr Twrci allan yn eu niferoedd pan ddaeth y tîm allan i gynhesu. Fe fydd hi yn her i Gymru.

    Disgrifiad,

    Croeso cynnes i dîm Cymru

  15. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 16:35 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2021

    'Da ni wedi clywed gan sawl un am y gwres llethol yn Baku dros y dyddiau diwethaf. Dyma un ffordd o osgoi'r gwres!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. 'Mae'r bechgyn yn gw'bod be' maen nhw'n gorfod 'neud'wedi ei gyhoeddi 16:32 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2021

    BBC Radio Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. Y dyfarnwr heddiw yw...wedi ei gyhoeddi 16:30 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2021

    Gair sydyn am y dyn yn y canol heddiw.

    Mr Artur Manuel Ribeiro Soares Dias o Bortiwgal fydd yn ceisio cadw trefn ar y chwaraewyr yn Baku.

    Artur Manuel Ribeiro Soares DiasFfynhonnell y llun, Getty Images
  18. Pob hwyl o Brestatyn!wedi ei gyhoeddi 16:26 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2021

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. 'Llawer mwy o gefnogwyr o Dwrci yma'wedi ei gyhoeddi 16:22 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2021

    Mae ein gohebydd Carl Roberts yn y Stadiwm Olympaidd yn Baku.

    Disgrifiad,

    'Llawer mwy o gefnogwyr o Dwrci yma'

  20. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 16:21 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2021

    Malcolm Allen
    Cyn ymosodwr Cymru

    Quote Message

    Hon ydy gêm pwysica' eu bywydau [i Gymru], mae hi fel gêm knockout.