CIC O'R SMOTYN!wedi ei gyhoeddi 18:17 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2021
Cic o'r smotyn
VAR i edrych ar hon... Ydy Bale yn y cwrt?
Cymru wedi trechu Twrci o 2-0 yn eu hail gêm yn Euro 2020
Aaron Ramsey'n sgorio ar ôl methu gyda dau gyfle da yn yr hanner cyntaf
Gareth Bale yn methu gyda chic o'r smotyn yn dilyn trosedd arno yn y cwrt cosbi
Connor Roberts yn selio'r fuddugoliaeth gyda gôl yn yr eiliadau olaf
Y fuddugoliaeth yn debygol o fod yn ddigon i gyrraedd rownd yr 16 olaf
Cic o'r smotyn
VAR i edrych ar hon... Ydy Bale yn y cwrt?
Gwennan Harries
Cyn ymosodwr Cymru
Quote MessageY ffordd orau i amddiffyn yw i ymosod a, gyda'r chwaraewyr sydd gynnon ni, y peth pwysig yw bod ni'n parhau gyda'r safon yna.
Cyfle arall i Ramsey yn y cwrt, gan dderbyn croesiad Connor Roberts a throi i ergydio, ond mae Cakir yng ngôl Twrci yn gadarn.
Iwan Roberts
Cyn-ymosodwr Cymru
Quote MessageO ni yn edrych yn y naw o gemau cystadleuol olaf - da wedi ennill chwech o nhw o un gôl i ddim. Mae'r tîm yma yn gadarn, maen nhw yn gwbod sut i amddiffyn.
Cyfle ENFAWR i Dwrci - a'r ymosodwr Yilmaz sydd wedi ergydio ymhell dros y trawst o du mewn i'r cwrt cosbi.
Y peniad ymlaen o'r croesiad, ond doedd ymosodwr Lille methu a chadw ei ergyd i lawr a phoeni Ward.
Rhybudd i Gymru.
Dyma farn dau arall o'r Twthill Vaults am yr hanner cyntaf.
Maen nhw'n hyderus - ydych chi?!
Mae Gareth Bale ac Aaron Ramsey yn cydweithio'n ffantastig heno, y ddau'n cysylltu unwaith eto ger cwrt cosbi Twrci yn yr ail hanner.
Dim ergyd ar y gôl y tro hwn, ond mae'n edrych yn addawol eto.
'Tash' Harding
Chwaraewr rhyngwladol Cymru
Quote MessageO ni just yn poeni bod y ddau chans oedd gan Ramsey i sgorio ddim yn dod nôl i boeni ni am weddill y gêm - gobeithio bydd Twrci ddim yn dod ymlaen at Gymru, ond os yw y bois yn gallu amddiffyn fel yr hanner cynta gobeithio bydd y canlyniad yn un da.
Eilyddio
2 eilydd i Dwrci yn ystod yr egwyl, Demiral a Yezici ymlaen yn lle Yokuslu a Tufan.
Dim newidiadau i Gymru
Ffwrdd â ni unwaith eto - Cymru 1-0 Twrci.
Nicky John
Rhaglen Ewro Marc, BBC Radio Cymru
"Nes i drydar cyn y gôl yn poeni y base ni'n talu'n ddrud am fethu'r cyfleodd yn yr hanner cyntaf, ond diolch byth am Aaron Ramsey ac am eiliad o hud a lledrith."
Mae Dylan Tegfan Llanrug yn hapus iawn gyda'r sgôr ar hanner amser, ac yn mwynhau yn nhafarn y Twthill Vaults yng Nghaernarfon.
"I love it!"
Iwan Roberts
Cyn-ymosodwr Cymru
Quote MessageDros y blynyddoedd mae cyflymder Bale wedi bod yn anhygoel, wedi ei helpu i sgorio goliau i greu goliau, yn rhan mawr o'i gêm o. Dydy o ddim cweit mor gyflym y dyddiau yma. Mae rhaid bod hynny yn rhwystredig iawn i chwarewr sydd wedi bod mor gyflym â Gareth Bale.
Iwan Roberts
Cyn-ymosodwr Cymru
Quote MessageDwi'n chwys domen, teimlo bo' fi ar y cae yn chwarae!
Carl Roberts
Chwaraeon BBC Cymru yn Baku
Aeth Ramsey syth at ei fêt Chris Gunter ar ôl sgorio - y chwaraewyr mawr yn serennu i Gymru.
Bale > Ramsey > gôl! Cefnogwyr Twrci yn dawel.
Cymru'n mynd mewn i'r egwyl ar y blaen.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Gwennan Harries
Cyn ymosodwr Cymru
Quote MessageMae 'di neud y rhediad dwy, dair gwaith, rhediad perffaith a'r cyffyrddiad cynta' sy'n neud e. Rhyddhad dwi'n siwr, amseru perffaith i Gymru.
Dylan Griffiths
Chwaraeon BBC Cymru
Quote MessageTri chynig i Gymro, Tri chynnig i Ramsey.
Fe ddywedon ni bod tri chynnig i Gymro, ac mae Ramsey wedi cymryd y cyfle y tro hwn!
Pêl dros yr amddiffyn gan Bale, a rhediad perffaith gan Ramsey, cyffyrddiad ar ei frest, cyn pwyllo i rwydo!