Cymru mewn melynwedi ei gyhoeddi 16:18 GMT+1 16 Mehefin 2021
'Da ni newydd glywed gan Dafydd y bydd y stadiwm yn teimlo fel gêm gartref i Dwrci heddiw, ac fe fydd Cymru'n teimlo fwy fyth fel yr ymwelwyr gan y byddan nhw yn eu crysau melyn heno.

Cymru wedi trechu Twrci o 2-0 yn eu hail gêm yn Euro 2020
Aaron Ramsey'n sgorio ar ôl methu gyda dau gyfle da yn yr hanner cyntaf
Gareth Bale yn methu gyda chic o'r smotyn yn dilyn trosedd arno yn y cwrt cosbi
Connor Roberts yn selio'r fuddugoliaeth gyda gôl yn yr eiliadau olaf
Y fuddugoliaeth yn debygol o fod yn ddigon i gyrraedd rownd yr 16 olaf
'Da ni newydd glywed gan Dafydd y bydd y stadiwm yn teimlo fel gêm gartref i Dwrci heddiw, ac fe fydd Cymru'n teimlo fwy fyth fel yr ymwelwyr gan y byddan nhw yn eu crysau melyn heno.
Dafydd Pritchard
Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru yn Stadiwm Olympaidd Baku
Mae yna ambell i grys fel hyn o gwmpas Stadiwm Olympaidd Baku heno.
Mae trigolion y ddinas wir yn uniaethu gyda Thwrci.
Dafydd Pritchard
Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru yn Stadiwm Olympaidd Baku
Mae gêm heno fwy neu lai yn gêm gartref i Dwrci, sy'n gweld Azerbaijan fel 'brawd-wlad'.
Y dywediad dwi 'di clywed gan drigolion Baku dros y dyddiau diwethaf yw 'dwy wlad, un genedl'.
Mae ieithoedd y ddwy wlad yn debyg iawn ac maen nhw wedi bod yn agos yn wleidyddol ac yn ddiwylliannol ar hyd eu hoes.
Y disgwyl yw y bydd dros 30,000 o gefnogwyr yn Stadiwm Olympaidd Baku heno ac, heblaw am ychydig gannoedd o Gymru, bydd pawb yma yn cefnogi Twrci.
Carl Roberts
Chwaraeon BBC Cymru yn Baku
Newydd holi Rob Page. Dim newid i'w dîm.
Mae'n teimlo fod yr 11 yn ddigon da i ennill heno. Ennill heno ac mae o'n teimlo bydd Cymru yn sicrhau lle yn yr ail rownd.
Hefyd yn dweud fod y chwaraewyr wedi ymlacio yn yr ystafell newid.
Dwi'n falch o ddweud nad ydy'n edrych fel bod yr un o'r dynion yma'n edrych yn nerfus wrth gael golwg ar y cae rhai munudau'n ôl.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dwn i ddim amdanoch chi, ond mae fy nerfau i'n rhacs hefyd!
Awr i fynd tan y gic gynta'...
Mae ‘na lot o sôn bod Twrci ar drothwy cenhedlaeth aur newydd o chwaraewyr.
Ond mae ganddyn nhw dipyn o ffordd i fynd i efelychu tîm y 2000au – fel y gwnaeth canlyniad nos Wener ei ddangos.
Twrci sydd hefo’r garfan ieuengaf yn y gystadleuaeth, gydag oedran cyfartalog o 24.6.
Yn debyg i Gymru, mae ganddyn nhw genhedlaeth ifanc newydd o sêr, ac oni bai am y capten Burak Yilmaz, sy’n 35, does ‘na’r un o’r lleill dros 27.
Cliciwch yma am fwy o hanes ein gwrthwynebwyr heddiw.
Burak Yilmaz ydy’r dyn i wylio yn nhîm Twrci.
Fe sgoriodd o 18 o goliau’r tymor yma dros Lille wrth iddyn nhw ennill y gynghrair yn Ffrainc, ac mae ganddo fo 29 gôl mewn 67 gêm dros ei wlad – ail yn unig i’r chwedlonol Hakan Sukur.
Cafodd Twrci ddechrau anodd i'r gystadleuaeth, gan golli o 3-0 yn erbyn Yr Eidal ar y noson agoriadol.
Ond cyn hynny, dim ond tair gôl ildiodd Twrci yn eu 10 gêm ragbrofol i gyrraedd yr Ewros – wnaeth yr un tîm ildio llai na hynny.
Ydy’r amddiffyn cadarn ‘na yn dechrau cracio?
Dim ond pedair llechen lan maen nhw wedi cadw yn eu 15 gêm ers i bêl-droed rhyngwladol ailddechrau ar ôl y pandemig.
Dafydd Pritchard
Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru yn Stadiwm Olympaidd Baku
Mae Twrci wedi newid dau o'r tîm a gollodd yn erbyn yr Eidal 3-0 yn eu gêm agoriadol.
Kaan Ayhan sydd yn cymryd lle Merih Demiral o Juventus yng nghanol yr amddiffyn, tra bod yr asgellwr Cengiz Under - a dreuliodd y tymor dwethaf ar fenthyg gyda Chaerlyr - yn cymryd lle Yusuf Yazici.
Twrci: Cakir; Celik, Ayhan, Soyuncu, Meras; Yokuslu; Under, Karaman, Tufan, Calhanoglu; Yilmaz.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dafydd Pritchard
Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru yn Stadiwm Olympaidd Baku
Mae'n boeth yma yn Stadiwm Olympaidd Baku - 31 gradd selsiws!
Bydd Cymru'n gobeithio bydd y tymheredd yn gostwng cyn y gic gyntaf.
Dim newidiadau i Gymru gan Rob Page felly, ydych chi'n hapus gyda hynny?
Neu oes rywun sy'n anlwcus i beidio cael dechrau'r gêm?
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Er bod disgwyl rhwng 30,000 a 35,000 o gefnogwyr yn Stadiwm Olympaidd Baku heddiw, dim ond ychydig gannoedd o'r rheiny fydd yn Gymry.
Er hynny, mae cefnogwyr Cymru i'w gweld o amgylch y stadiwm, a gobeithio y bydd ganddyn nhw rywbeth i'w ddathlu heno!
Yn dilyn y gêm gyfartal 'na yn erbyn Y Swistir ddydd Sadwrn, pwynt sydd gan Gymru cyn y gêm heddiw.
Ond os allan nhw guro Twrci p'nawn 'ma, mae 'na siawns go dda o gyrraedd rownd yr 16 olaf, meddai Aaron Ramsey.
Mae'r ddau dîm sy'n gorffen yn gyntaf ac ail ymhob grŵp yn symud ymlaen, yn ogystal â'r pedwar gwlad sydd â'r record orau a sy'n gorffen yn drydydd yn eu grwpiau.
Amdani Aaron...
Aaron Ramsey'n credu bydd pedwar pwynt yn ddigon
Prynhawn da a chroeso i'n llif byw arbennig wrth i Gymru baratoi ar gyfer eu hail gêm yn Euro 2020.
Baku yn Azerbaijan ydy'r lleoliad unwaith eto, a Twrci ydy'r gwrthwynebwyr heddiw, gyda'r gic gyntaf am 17:00.
Felly os ydy'r nerfusrwydd yn dechrau cynyddu, gwyliwch y fideo isod fel rhyw damaid i aros pryd!