Crynodeb

  • Rhybudd oren mewn grym ar gyfer Cymru gyfan tan 21:00

  • Rhybudd coch "perygl i fywydau" wedi bod mewn grym i 10 sir yn y de tan 12:00

  • Dros 100 o rybuddion llifogydd mewn grym gan Gyfoeth Naturiol Cymru

  • Ysgolion y mwyafrif llethol o siroedd ynghau, gyda disgyblion yn dysgu o bell

  • Miloedd o gartrefi ledled Cymru wedi colli eu cyflenwad trydan

  • Pob gwasanaeth trên yng Nghymru wedi'i ganslo ddydd Gwener

  • Cofnodi gwyntoedd o hyd at 92mya oddi ar arfordir Sir Benfro fore Gwener

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 15:04 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Diolch am ddilyn ein llif byw am Storm Eunice gydol y dydd.

    Gobeithio na chafodd y storm ormod o effaith arnoch chi.

    Gallwch ddilyn unrhyw ddatglybiadau am y storm - mae rhybudd oren gan y Swyddfa Dywydd yn dal mewn grym tan 21:00 heno dros Gymru gyfan - ar ein hafan.

    Hwyl i chi am y tro.

  2. Effeithiau Storm Eunicewedi ei gyhoeddi 15:02 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Mae'r storm wedi gadael ei marc ar sawl ardal yng Nghymru yn ystod y dydd.

    Dyma gasgliad o rai o'r fideos sydd wedi dod i law heddiw.

    Disgrifiad,

    Fideos o effeithiau Storm Eunice ddydd Gwener

  3. Fflatiau heb dowedi ei gyhoeddi 14:53 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Mae'r gwynt hefyd wedi chwythu'r to oddi ar bloc o fflatiau yn Colchester Avenue yng Nghaerdydd.

    fflatiau
  4. 2,500 heb drydan yn y gogledd a'r canolbarthwedi ei gyhoeddi 14:44 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Scottish Power

    Fe ddywed cwmni Scottish Power bod oddeutu 2,500 o gwsmeriaid heb gyflenwad trydan ar hyn o bryd.

    Mae'r cwmni'n gwasanaeth ardaloedd mor bell i'r de ag Aberystwyth, ac maen nhw'n dweud bod mwyafrif y trafferthion tuag ochr ddeuheuol eu hardal.

    Maen nhw hefyd yn credu mai tua rwan yw brig y storm yn eu hardal nhw, ac yn gobeithio y bydd pethau'n gwella wrth i'r prynhawn fynd yn ei flaen.

  5. Mwy o goed yn disgyn yn y gorllewinwedi ei gyhoeddi 14:40 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Mae coeden fawr wedi disgyn ar y ffordd rhwng Llanfyrnach a Blaenwaun ger y ffin rhwng Sir Benfro â Sir Gâr.

    coeden
  6. Fferi yn sownd yn y môr ger Caergybiwedi ei gyhoeddi 14:33 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Fe ddywed cwmni fferi Stena Line bod eu llong y Stena Adventurer yn "disgwyl am saib yn y storm" cyn medru mynd i harbwr Caergybi. Mae'r llong wedi bod yn disgwyl am dair awr bellach.

    Roedd y llong o Ddulyn i fod i lanio yn y porthladd am 11:50, ond mae'r gwyntoedd cryfion yn golygu nad yw wedi medru pasio'r morglawdd i gael mynediad i'r harbwr.

    caergybi
  7. To gorsaf rheilffordd wedi myndwedi ei gyhoeddi 14:22 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Mae'r to wedi cael ei chwythu oddi ar gorsaf rheilffordd Caerfyrddin gan Storm Eunice.

    Does dim adroddiadau am unrhyw anafiadau.

    gorsaf
  8. Toeau'n cael eu chwythu o gartrefiwedi ei gyhoeddi 14:10 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Yn gynharach y bore 'ma, fe gafodd toeau nifer o gartrefi eu chwythu ffwrdd pan oedd Storm Eunice yn ei anterth.

    Yn ogystal â'r tai, fe gafodd nifer o geir oedd wedi'u parcio yn y stryd eu difrodi'n sylweddol hefyd.

    Disgrifiad,

    Casnewydd

  9. Difrod i goed Parc Butewedi ei gyhoeddi 14:01 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Dyma'r olygfa ym Mharc Bute yng nghanol Caerdydd heddiw - man hamdden poblogaidd sydd wedi dioddef effeithiau Storm Eunice.

    buteFfynhonnell y llun, David Hall
    buteFfynhonnell y llun, Davud Hall
  10. Dros 41,000 heb drydan yn y de a'r gorllewinwedi ei gyhoeddi 13:59 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Western Power Distribution

    Yn y cyfamser am 13:50 dywedodd Western Power Distribution eu bod yn delio gyda 182 o ddigwyddiadau ac fod 41,122 o gwsmeriaid heb drydan yn eu hardal nhw erbyn hyn.

  11. Colli trydan yn rhannau o'r gogledd hefydwedi ei gyhoeddi 13:55 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Scottish Power

    Fe ddywed SP Energy Network bod storm Eunice wedi achosi "trafferthion ar draws y rhwydwaith" a'u bod yn asesu'r difrod ar hyn o bryd.

    Maen nhw wedi derbyn adroddiadau am golli cyflenwadau ym Mhwllheli, Machynlleth, Bow Street ac yng Nghemaes.

  12. Ffordd arall wedi cauwedi ei gyhoeddi 13:53 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. Coeden anferth i lawr ym Mhrifysgol Aberystwythwedi ei gyhoeddi 13:46 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Mae nifer o goed anferth ar gampws Prifysgol Aberystwyth... ond mae un yn llai erbyn hyn!

    Disgrifiad,

    prifysgol Aberystwyth

  14. Rhybudd oren yn dal mewn grymwedi ei gyhoeddi 13:44 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    I'ch hatgoffa chi, mae'r rhybudd tywydd coch (ar gyfer de Cymru) gan y Swyddfa Dywydd bellach wedi dod i ben ond mae'r rhybudd oren am wyntoedd cryfion yn dal mewn grym tan 21:00 heno.

    rhybudd orenFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
  15. Coed yn disgyn ar ffyrdd Sir Benfrowedi ei gyhoeddi 13:39 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Mae'r gwyntoedd cryfion wedi dod â choed lawr yn ardal Arberth y bore 'ma gan achosi i geir i orfod arallgyfeirio.

    arberth
  16. Môr gwyllt Enlli!wedi ei gyhoeddi 13:33 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. Mwy o dywydd garw i ddodwedi ei gyhoeddi 13:32 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Dros Ginio
    BBC Radio Cymru

    Mae Dylan Williams o Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn trafod sefyllfa'r tywydd ar Dros Ginio ar BBC Radio Cymru.

    Dywedodd: "Y sefyllfa yn dal yn ddyrys a mi fysen ni yn gofyn i bobol fod yn ofalus ar yr arfordir ac I gadw golwg ar y rhybuddion.

    "Faswn i'n annog pobl i fod yn ofalus a cadw yn glir a chadw phellter. Y drwg ydi bod dŵr yn torri drosodd yn sydyn, dros y lefel arferol 'sa chi yn disgwyl oherwydd bod y storm a’r llanw uchel 'ma yn cydlynnu hefo'i gilydd ac mae’n gallu tynnu coesau oddi tanyn nhw ac yn eu sgubo allan i’r môr.

    "Dydi hyn ddim drosodd eto... bydden ni yn pwysleisio hyn, a tipyn o dywydd garw i ddod p'nawn 'ma, a môr uchel a byddwn ni ddim yn gweld sgil effeithiau hyn am rai dyddiau eto."

  18. Pont Cleddau'n ailagor i geirwedi ei gyhoeddi 13:28 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    ... ond mae'r bont ar gau o hyd i gerbydau uchel, lorïau ac ati.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Coeden 6m wedi cwympo yn Abertawewedi ei gyhoeddi 13:23 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Mae Terry Branton, 78 wedi byw yn ei gartref yn Langland, Abertawe ers dros 40 mlynedd ac mae coeden anferth wedi bod y tu allan i'w gartref gydol yr amser... tan bore 'ma.

    "Diolch i'r drefn mai nid un o'r coed sy'n agosach at y tŷ ddaeth i lawr," meddai.

    langlandFfynhonnell y llun, bbc
  20. Y sefyllfa'n gwaethygu mewn mannauwedi ei gyhoeddi 13:15 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Fe ddywed Traffig Cymru bod yr amodau'n gwaethygu mewn rhai mannau er bod y rhybudd tywydd coch ar fin dirwyn i ben.

    Byddwch yn ofalus!