Crynodeb

  • Rhybudd oren mewn grym ar gyfer Cymru gyfan tan 21:00

  • Rhybudd coch "perygl i fywydau" wedi bod mewn grym i 10 sir yn y de tan 12:00

  • Dros 100 o rybuddion llifogydd mewn grym gan Gyfoeth Naturiol Cymru

  • Ysgolion y mwyafrif llethol o siroedd ynghau, gyda disgyblion yn dysgu o bell

  • Miloedd o gartrefi ledled Cymru wedi colli eu cyflenwad trydan

  • Pob gwasanaeth trên yng Nghymru wedi'i ganslo ddydd Gwener

  • Cofnodi gwyntoedd o hyd at 92mya oddi ar arfordir Sir Benfro fore Gwener

  1. Gyrrwch 'dim ond os oes angen'wedi ei gyhoeddi 07:58 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Mae gyrwyr yn ne Cymru'n cael eu hannog i deithio dim ond os oes angen, gyda disgwyl oedi ar y ffyrdd.

    Fe wnaeth hen Bont Hafren yr M48 gau am 23:00 nos Iau.

    Mae hi hefyd yn "debygol" y bydd Pont Tywysog Cymru hefyd yn cau, meddai Frank Bird o National Highways wrth y BBC ddydd Iau.

    Mae Pont Cleddau yn Sir Benfro hefyd ynghau heddiw i gerbydau tal, ac mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cau pob "ffordd fynyddig" i bawb oni bai am y gwasanaethau brys.

    Hen Bont HafrenFfynhonnell y llun, Getty Images
  2. ... a Phenarthwedi ei gyhoeddi 07:53 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Ger pafiliwn Penarth wrth ymyl y pier, mae'r tonnau'n dechrau taro.

    Disgrifiad,

    Storm Eunice yn taro Penarth

  3. Yr olygfa ym Mhorthcawl...wedi ei gyhoeddi 07:51 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Dyma'r olygfa ddiweddaraf ym Mhorthcawl y bore 'ma - mae hi'n amser llanw uchel yno ar hyn o bryd.

    Disgrifiad,

    Porthcawl

  4. Newid i wasanaethau Traws Cymruwedi ei gyhoeddi 07:48 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Mae Traws Cymru wedi cyhoeddi bydd peth newid i'w gwasanaethau heddiw yn sgil storm Eunice.

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  5. Pryd mae'r llanw uchel?wedi ei gyhoeddi 07:45 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Mae rhybuddion mai yn ystod llanw uchel y mae'r perygl mwyaf, gyda disgwyl i nifer o ardaloedd arfordirol gael eu taro na lifogydd.

    Dyma'r amseroedd diweddaraf ar gyfer y llanw uchel o amgylch arfordir Cymru:

    • Casnewydd - 08:21
    • Caerdydd - 08:11
    • Y Barri - 08:03
    • Porthcawl - 07:31
    • Y Mwmbwls - 07:24
    • Dinbych-y-pysgod - 07:11
    • Aberdaugleddau - 07:22
    • Abergwaun - 08:24
    • Aberystwyth - 08:57
    • Pwllheli - 09:04
    • Caernarfon - 10:58
    • Caergybi - 11:28
    • Conwy - 11:53
    • Mostyn - 11:58
    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  6. Bysus yn y de wedi'u canslowedi ei gyhoeddi 07:41 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Mae nifer o wasanaethau bysus yn ne Cymru heddiw wedi eu gohirio yn sgil y storm.

    Mae cwmni Stagecoach wedi cyhoeddi fod ei holl wasanaethau yn y de wedi eu canslo rhwng 07:00 a 13:30 ddydd Gwener.

    Yng Nghaerdydd, dywedodd cwmni Bws Caerdydd na fydd unrhyw wasanaethau'n rhedeg rhwng 07:00 ac 13:00. Bydd y penderfyniad i barhau â gwasanaethau yn y prynhawn yn dibynnu ar y tywydd.

    Bws StagecoachFfynhonnell y llun, Reuters
  7. Ail gyfarfod brys COBRA mewn ymateb i'r stormwedi ei gyhoeddi 07:36 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Llywodraeth y DU

    Bydd Llywodraeth y DU yn cynnal ail gyfarfod COBRA brys yn ddiweddarach heddiw i drafod ei ymateb i Storm Eunice.

    Roedd cyfarfod eisoes wedi'i gynnal ddoe, gyda chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru'n mynychu hefyd.

  8. Cau prom Aberystwyth tra'n disgwyl y gwaethafwedi ei gyhoeddi 07:33 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Ardal sy'n aml yn cael ei tharo'n wael gan unrhyw storm ydy prom Aberystwyth.

    Gan ragweld y bydd hynny'n digwydd eto heddiw, mae Cyngor Ceredigion wedi cau'r prom ers neithiwr.

    Prom
    Prom
  9. Hyrddiadau o hyd at 76mya yn barodwedi ei gyhoeddi 07:28 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Mae hyrddiad o 76mya eisoes wedi'i gofnodi yng Nghapel Curig y bore 'ma rhwng 05:00 a 06:00.

    O fewn yr awr ddiwethaf roedd gwyntoedd o hyd at 62mya yn Aberdaron, a 57mya ym Mhen-bre.

    StormFfynhonnell y llun, Getty Images
  10. 136 o rybuddion llifogydd mewn grymwedi ei gyhoeddi 07:20 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Mae dros 100 o rybuddion llifogydd mewn grym gan Gyfoeth Naturiol Cymru heddiw.

    Mae'r rheiny dros y wlad gyfan, ac mae modd cael y manylion diweddaraf ar wefan CNC, dolen allanol.

    Rhybudd llifogyddFfynhonnell y llun, CNC
  11. Tonnau'n tasgu ym Mhorthcawlwedi ei gyhoeddi 07:15 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  12. Y diweddaraf ar Dros Frecwastwedi ei gyhoeddi 07:08 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    BBC Radio Cymru

    Mae modd i chi wrando ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru yn fyw trwy glicio ar yr eicon ar dop y llif byw.

    DF
  13. Holl drenau wedi'u canslowedi ei gyhoeddi 07:02 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Daeth cyhoeddiad ddydd Iau na fydd unrhyw drenau yn rhedeg ar rwydwaith Cymru heddiw oherwydd y rhagolygon tywydd.

    Dywedodd un o gyfarwyddwyr Network Rail "nad oedd y penderfyniad i gau'r rheilffyrdd yn un hawdd" ac mai "diogelwch staff a theithwyr yw eu prif flaenoriaeth".

    "Mae disgwyl i Storm Eunice ddod â gwyntoedd eithafol o hyd at 100mya ac mewn mannau mae'n debygol iawn y bydd coed a malurion yn cael eu taflu ar y llinellau trên," meddai Bill Kelly, cyfarwyddwr llwybrau Cymru a'r Gororau gyda Network Rail.

    Ychwanegodd Trafnidiaeth Cymru y gallai unrhyw un oedd wedi prynu tocyn trên ar gyfer dydd Gwener ei ddefnyddio tan ddydd Sul, neu ofyn am ad-daliad.

    Dywedodd y newyddiadurwr Simon Calder ar BBC Radio 4 y bore 'ma ei bod yn anarferol iawn gweld holl wasanaethau gwlad gyfan yn cael eu canslo am ddiwrnod.

    StormFfynhonnell y llun, Network Rail
    Disgrifiad o’r llun,

    Cafodd trampolîn ei chwythu ar draciau trên yng Nghaerdydd yn ystod Storm Dudley ddydd Mercher

  14. Ysgolion ynghau oherwydd y tywydd garwwedi ei gyhoeddi 06:57 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Fe wnaeth 19 o'r 22 cyngor yng Nghymru gyhoeddi ddoe y byddai ysgolion ynghau heddiw, gyda rhai disgyblion i ddysgu o bell.

    Mae'r holl ysgolion ynghau yn:

    • Abertawe
    • Blaenau Gwent
    • Caerdydd
    • Caerffili
    • Castell-nedd Port Talbot
    • Ceredigion
    • Conwy
    • Gwynedd
    • Môn
    • Merthyr Tudful
    • Pen-y-bont ar Ogwr
    • Powys
    • Rhondda Cynon Taf
    • Sir Benfro
    • Sir Ddinbych
    • Sir Fynwy
    • Sir y Fflint
    • Torfaen
    • Wrecsam

    Dywedodd cynghorau Bro Morgannwg a Chasnewydd y byddai rhai ysgolion yn cau yno hefyd, tra bod Cyngor Sir Gaerfyrddin yn annog ysgolion "yn gryf" i gau heddiw.

  15. Pa rybuddion sydd mewn grym?wedi ei gyhoeddi 06:53 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Mae rhybudd coch am wyntoedd cryfion mewn grym ar gyfer 10 o siroedd y de, rhwng 07:00 a 12:00 heddiw.

    Mae'r rhybudd hwnnw ar gyfer Abertawe, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Caerfyrddin, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Mynwy, Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf.

    Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai malurion chwythu yn y gwynt ac achosi perygl i fywydau, ac y dylid disgwyl difrod i adeiladau a llinellau trydan a tharfu i drafnidiaeth.

    Mae rhybuddion coch yn brin iawn, a dyw'r Swyddfa Dywydd heb osod rhybudd o'r fath ar gyfer gwynt ers Mawrth 2018.

    Mae rhybudd oren mewn grym ar gyfer Cymru gyfan rhwng 05:00 a 21:00.

    Yna, mae rhybudd arall mewn grym ar gyfer rhannau helaeth o'r canolbarth a'r de ddydd Sadwrn hefyd, a hynny rhwng 06:00 a 18:00.

    StormFfynhonnell y llun, Getty Images
  16. Croeso i'r llif bywwedi ei gyhoeddi 06:50 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Bore da a chroeso i'n llif byw wrth i Storm Eunice daro Cymru ddydd Gwener.

    Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio am "berygl i fywydau", gyda rhybudd coch mewn grym ar gyfer 10 o siroedd y de.

    Mae rhybudd oren mewn grym ar gyfer Cymru gyfan nes 21:00 heno.

    Arhoswch gyda ni am y diweddaraf.

    Rhybudd cochFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd