Crynodeb

  • Rhybudd oren mewn grym ar gyfer Cymru gyfan tan 21:00

  • Rhybudd coch "perygl i fywydau" wedi bod mewn grym i 10 sir yn y de tan 12:00

  • Dros 100 o rybuddion llifogydd mewn grym gan Gyfoeth Naturiol Cymru

  • Ysgolion y mwyafrif llethol o siroedd ynghau, gyda disgyblion yn dysgu o bell

  • Miloedd o gartrefi ledled Cymru wedi colli eu cyflenwad trydan

  • Pob gwasanaeth trên yng Nghymru wedi'i ganslo ddydd Gwener

  • Cofnodi gwyntoedd o hyd at 92mya oddi ar arfordir Sir Benfro fore Gwener

  1. Llygad y storm yn nesáu at Gymruwedi ei gyhoeddi 09:34 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Dyma leoliad llygad Storm Eunice ar hyn o bryd (y cylch bach gwyrdd), gyda'r lluniau lloeren oddi ar wefan earth.nullschool.net.

    Mae llygad y storm i'r d- orllewin o arfordir Cymru, gyda disgwyl felly y bydd y storm yn gwaethygu wrth i'r bore fynd yn ei flaen.

    Lluniau lloerenFfynhonnell y llun, earth.nullchool
  2. 'Cyfnod arbennig o wyntog ar hyd glannau de Cymru'wedi ei gyhoeddi 09:25 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Rhian Haf
    Cyflwynydd Tywydd BBC Cymru

    "Fe ddatblygodd Storm Eunice wrth i aer oer ledu o Ganada ac aer cynnes yn lledu o Bermuda a’r Caribi, ac wrth i’r ddau daro’n erbyn ei gilydd fe ffurfiodd gwasgedd isel, wnaeth ddatblygu fwyfwy dros Fôr Iwerydd.

    "Ond yn fwy anarferol mae gwyntoedd angerddol o’r enw ‘sting jet’ wedi ffurfio ynghanol y storm, fydd yn dod â chyfnod arbennig o wyntog ar hyd glannau de Cymru am gyfnod o dair neu bedair awr.

    "Mae’r swyddfa dywydd wedi cyhoeddi rhybudd coch am y gwyntoedd cryfion fydd yn hyrddio dros 80 milltir yr awr ar hyd yr arfordir, ac yn achosi problemau tan hanner dydd.

    "Mae rhybudd coch yn golygu fod ‘na berygl i fywyd, felly mae’n sefyllfa ddifrifol.

    "Y siroedd sy’n mynd i ddioddef waetha' ydy Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Pen-y-bont, Caerffili, Caerdydd, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Castell-nedd Port Talbot, Bro Morgannwg a Sir Fynwy, ond mae rhybudd oren hefyd am wyntoedd cryfion ar hyd y wlad tan 21:00 heno. "

    PorthcawlFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Y gwynt wedi codi ym Mhorthcawlwedi ei gyhoeddi 09:19 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Gohebydd BBC Cymru ar Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter

    A rhybudd gan gyflwynydd Tywydd S4C fod y gwaethaf eto i ddod...

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter 2

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter 2
  4. Yr M4 ynghau rhwng Port Talbot a Llansawelwedi ei gyhoeddi 09:15 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Mae amryw o ffyrdd ledled Cymru ynghau o ganlyniad i'r tywydd garw, a'r M4 yw'r diweddaraf i orfod gwneud hynny.

    Mae'r draffordd ynghau i'r ddau gyfeiriad rhwng cyffyrdd 41 a 42 ger Port Talbot a Llansawel.

    Mae'r traffig yn cael ei ddargyfeirio ar hyd yr A48, sydd eisoes yn brysur.

  5. Rhybudd am wasanaethau bwswedi ei gyhoeddi 09:10 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. Am storm yn Amroth!wedi ei gyhoeddi 09:05 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Dyma glip o'r storm yn Amroth, Sir Benfro gyda'r tonnau yn codi dros lefel y ffordd.

    Cofiwch mai'r cyngor yw i aros gartref heddiw, wrth i wyntoedd cryfion daro Cymru!

    Disgrifiad,

    Amroth

  7. Dros 1,800 heb drydan yn ne Cymruwedi ei gyhoeddi 08:59 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Western Power Distribution

    Mae Western Power Distribution bellach yn dweud fod dros 1,800 o gwsmeriaid yn y de wedi colli eu cyflenwad trydan.

    Mae'r rheiny'n cynnwys 312 yn Llambed, 279 yn Llanelli a 115 ym Mhort Talbot.

    Ond mae cyflenwadau'n cael eu hadfer mewn rhai mannau hefyd, gyda dim ond 63 o gartrefi yn Sanclêr heb bŵer bellach, o'i gymharu â 995 rhyw awr yn ôl.

    Mae dros 6,500 o gartrefi yn Iwerddon heb bŵer ar hyn o bryd, sydd o bosib yn awgrymu fod y gwaethaf eto i ddod yma yng Nghymru.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  8. Haul yng nghanol y storm?wedi ei gyhoeddi 08:55 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Mae ein gohebydd Alun Thomas wedi cael cyfle i ymarfer ei sgiliau ffotograffiaeth ym Mhorthcawl y bore 'ma!

    porthcawl
  9. Cyngor Bro Morgannwg yn paratoiwedi ei gyhoeddi 08:49 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Cyngor Bro Morgannwg

    Ar raglen Dros Frecwast dywedodd Rob Thomas, rheolwr-gyfarwyddwr Cyngor Bro Morgannwg ei fod yn dawel hyd yma ond bod y gwaith paratoi yn holl bwysig.

    "Mae staff wedi bod gyda ni ar alwad dros nos ac yn gynnar bore 'ma," meddai.

    "Yn ddiolchgar 'dyw sefyllfaoedd fel hyn ddim yn digwydd yn aml iawn ond yr hyn sy'n bwysig yw paratoi'n gynnar a dyna be' 'naethon ni ddoe.

    "Wrth gynllunio yr hyn sy'n bwysig yw ystyried trigolion, gweithwyr cyngor a chymunedau y Fro.

    "Mae swyddfeydd wedi cau i staff a chwsmeriaid ac ry'n ni wedi symud pethe ar-lein, ac ry'n ni wedi ehangu'r nifer o bobl sydd ar gael i ddelio gyda galwadau ffôn.

    "Mae'n canolfannau hamdden ni ar gau bore 'ma a chyfleusterau eraill a'r nod yw eu hagor y prynhawn yma."

  10. Cychod yn cysgodi rhag y storm oddi ar arfordir Mônwedi ei gyhoeddi 08:42 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Mae data byw gan marinetraffic.com yn dangos fod dros ddwsin o gychod a llongau masnachol yn cysgodi rhag y storm oddi ar arfordir Benllech, Ynys Môn.

    DataFfynhonnell y llun, marinetraffic.com
  11. Gwyntoedd yn codi yn y gorllewinwedi ei gyhoeddi 08:38 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Mae hyrddiadau wedi dechrau codi dros yr hanner awr ddiwethaf ledled Cymru, ond yn enwedig tua'r gorllewin.

    76mya yng Nghapel Curig rhwng 05:00 a 06:00 yw'r cryfaf hyd yma, ond mae'r gwyntoedd wedi codi mewn amryw o lefydd.

    Dyma'r diweddaraf:

    • Y Mwmbwls - 74mya
    • Pen-bre - 69mya
    • Aberdaugleddau - 64mya
    • Aberdaron - 63mya
    • Aberporth - 52mya
  12. Llanw uchel eto i ddod yn Aberwedi ei gyhoeddi 08:35 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Dyma'r lluniau diweddaraf o Aberystwyth wrth i lefel y môr godi. Mae disgwyl llanw uchel yno cyn 09:00.

    Disgrifiad,

    Aberystwyth

    Aber
    Aber
  13. 'Gofyn i bobl fod yn ofalus ac i aros yn y tŷ'wedi ei gyhoeddi 08:29 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    RNLI

    Ar Dros Frecwast y bore 'ma dywedodd Roger Bowen, rheolwr bad achub Port Tywyn eu bod yn annog pawb i aros adref tra bo'r storm ar ei gwaethaf.

    “Mae Euinice wedi cyrraedd, mae’r gwynt wedi codi ac mae’r tonnau wedi codi hefyd," meddai.

    "Yr un peth fi'n gofyn yw i bobl fod yn ofalus ac i aros yn y tŷ - mae’n ddanjerus.

    "Mae digonedd o bobl wedi bod mas yn tynnu lluniau a pethe, ac mae’r tonnau yn dod dros y welydd a mewn i’r harbwr, a sai'n credu bod pobl yn gweld y peryglon.

    "Dyle fod bach o common sense i fod yn onest. Beth sydd bwysicaf? Tynnu lluniau neu edrych ar ôl eich iechyd?

    "Mae’n ddiwrnod 'so ni wedi gweld ers blynydde – i gael y coch - so gobeithio bydd pobl yn gweld bod hi yn amser aros yn y tŷ a disgwyl ar ôl eu diogelwch eu hunain.

  14. Gohirio agoriad ffordd osgoi Bontnewydd a Chaernarfonwedi ei gyhoeddi 08:24 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Mae gyrwyr ledled Cymru'n cael eu hannog i deithio ond os oes angen heddiw, gyda disgwyl oedi i nifer o'r rheiny sydd yn gorfod mentro ar y ffyrdd.

    Yn y gogledd, mae agoriad swyddogol ffordd osgoi Bontnewydd a Chaernarfon wedi ei ohirio oherwydd y tywydd.

    Fe fydd y ffordd newydd yn agor yfory yn hytrach na heddiw er mwyn "osgoi unrhyw deithio diangen", meddai'r llywodraeth.

    A487Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
  15. 1,200 heb bŵer yn y de ar hyn o brydwedi ei gyhoeddi 08:21 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Western Power Distribution

    Mae dros 1,200 o gartrefi yn ne Cymru wedi colli eu cyflenwad trydan o ganlyniad i'r storm y bore 'ma.

    Mae 995 o'r rheiny yn ardal Sanclêr, Sir Gâr, 146 yn Abertyleri, 46 yn ardal Betws ger Casnewydd, a llond llaw ym Mhorth Tywyn, Mynwy a Threfyclo.

  16. Y Llyfrgell Genedlaethol ar gauwedi ei gyhoeddi 08:16 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. Ystyried diogelwch trenau'r penwythnoswedi ei gyhoeddi 08:12 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Trafnidiaeth Cymru

    Dywedodd Lowri Joyce o Drafnidiaeth Cymru ar raglen Dros Frecwast y byd yr asiantaeth yn ystyried diogelwch y rheilffyrdd cyn penderfynu ar wasanaethau trenau'r penwythnos.

    “Bydd rhaid i ni sbïo ar tua 1,000 milltir o drac i 'neud yn siŵr bod pethau yn saff i gario 'mlaen dros y penwythnos," meddai.

    "Ein cyngor ni ydy i beidio teithio heddiw a 'nawn ni weld sut y bydd hi dros y penwythnos."

    Disgrifiad,

    Lowri Joyce o Drafnidiaeth Cymru ar beth i ddisgwyl dros y penwythnos.

  18. Cyfyngu cyflymder ar Bont Britanniawedi ei gyhoeddi 08:10 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Mae Pont Britannia rhwng Gwynedd a Môn ar agor ar hyn o bryd, gyda'r cyflymder wedi'i gyfyngu i 30mya.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Gwasanaethau fferi wedi'u canslowedi ei gyhoeddi 08:07 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Mae pob gwasanaeth fferi o Abergwaun a Phenfro i Rosslare, Iwerddon, wedi'u canslo heddiw.

    Ar hyn o bryd, mae Stena Line yn dweud fod y fferi 08:15 o Gaergybi i Ddulyn yn wynebu oedi, tra bo'r fferi o Ddulyn i Gaergybi am 14:45 wedi'i chanslo.

    CaergybiFfynhonnell y llun, Getty Images
  20. 'Annog pobl i fod yn ofalus'wedi ei gyhoeddi 08:04 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Cyfoeth Naturiol Cymru

    Ar raglen Dros Frecwast dywedodd Dylan Williams, rheolwr gweithrediadau gorllewin Cymru ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru fod yna anogaeth "i bobl fod yn ofalus iawn wrth i wyntoedd cryfion yn sgil Storm Eunice a llanw uchel ddod at ei gilydd".

    "Gall hynny arwain at lifogydd eiddo a phroblemau cyffredinol," meddai.

    "Ry'n yn annog pobl i gadw draw o'r arfordir.

    "Dan ni wedi bod yn rhoi rhybuddion gorau fedran ni ar gyfer ardaloedd penodol ac mae'r wybodaeth ar ein gwefan, dolen allanol."