Llanast ar y ffyrdd ym Mônwedi ei gyhoeddi 13:11 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022
Dyma'r olygfa y Nhrearddur gyda sbwriel a malurion wedi'u chwythu i'r ffordd yn dilyn y gwyntoedd cryfion y bore 'ma.

Rhybudd oren mewn grym ar gyfer Cymru gyfan tan 21:00
Rhybudd coch "perygl i fywydau" wedi bod mewn grym i 10 sir yn y de tan 12:00
Dros 100 o rybuddion llifogydd mewn grym gan Gyfoeth Naturiol Cymru
Ysgolion y mwyafrif llethol o siroedd ynghau, gyda disgyblion yn dysgu o bell
Miloedd o gartrefi ledled Cymru wedi colli eu cyflenwad trydan
Pob gwasanaeth trên yng Nghymru wedi'i ganslo ddydd Gwener
Cofnodi gwyntoedd o hyd at 92mya oddi ar arfordir Sir Benfro fore Gwener
Dyma'r olygfa y Nhrearddur gyda sbwriel a malurion wedi'u chwythu i'r ffordd yn dilyn y gwyntoedd cryfion y bore 'ma.
Cyngor Abertawe
Mae Vincent Hill yn gweithio i Gyngor Abertawe yn yr adran goed, ac yn dweud nad yw wedi gweld amgylchiadau tebyg i'r bore 'ma.
Quote Message“Mae coed i lawr ymhobman ar draws Abertawe... mae nifer o ffyrdd ar gau, ac mae'n rhaid i ni fynd atyn nhw gynted y gallwn ni. Mae angen gwneud ar frys er mwyn caniatau mynediad i gerbydau'r gwasanaethau brys. Mae hyn yn digwydd unwaith bob 30 mlynedd.”
Western Power Distribution
Am 13:00 dywedodd cwmni Western Power Distribution bod 153 o ddigwyddiadau ar draws de a gorllewin Cymru a bellach mae 33,254 o gwsmeriaid wedi colli'u cyflenwad trydan.
Mae'r gwynt wedi bod yn hyrddio yng nghlwb rygbi Llanharan, Rhondda Cynon Taf - lwcus nad oes gêm heddiw!
Clwb rygbi Llanharan
Cafodd y sied yma ym mhentref Gellifedw ger Abertawe ei chwythu'n ddarnau yn gynharach heddiw!
Mae'r goeden oedd wedi cau'r ffordd ym Mhowys wedi cael ei symud ac mae'r ffordd bellach weid ailagor i'r ddau gyfeiriad.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Western Power Distribution
Am 12:30 ddydd Gwener, mae cwmni Western Power Distribution yn dweud bod 117 o ddigwyddiadau a bellach bod 25,580 o gwsmeriaid heb gyflenwad trydan yn ardal de a gorllewin Cymru.
Mae Traffig Cymru'n rhybuddio bod yr A483 hefyd ar gau rhwng Rhiwabon a'r Waun ger Wrecsam.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cafodd y cartref yma ger gwaelod Allt Penglais yn Aberystwyth ddihangfa ffodus wrth i goeden gwympo yn agos iawn i'r drws ffrynt.
Mae Ysgol Aberconwy ger tref Conwy ar gau heddiw, ac mae'r glaw wedi achosi llifogydd ger mynedfa'r ysgol.
Ysgol Aberconwy
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Roedd hi'n anochel y bydda'r tywydd yn cael effaith ar chwaraeon.
Mae'r gêm rhwng Rygbi Caerdydd a Zebre ar Barc yr Arfau heno wedi ei ohirio.
Bydd y gêm yn cael ei chwarae yn hwyrach yn y tymor.
Dyma'r olygfa y tu allan i dŷ Bryn Markham-Jones yng Ngorseinion, Abertawe.
O fewn dwy awr roedd coeden y tu ôl i'w dŷ wedi dymchwel o ganlyniad i'r gwyntoedd cryfion!
Mae'r adeiladau yma, sydd yng nghanol Y Fenai rhwng Gwynedd a Môn, yn edrych mewn sefyllfa ddifrifol iawn yn sgil y llanw uchel...
Western Power Distribution
Mae Western Power Distribution yn dweud fod 16,436 o gwsmeriaid heb gyflenwad trydan yn ne Cymru erbyn hyn.
Mae'r achosion ar draws y de, gyda'r gorllewin hyd at ardal Pen-y-bont wedi'i tharo'n wael iawn.
Mae manylion pellach ar gael ar wefan WPD, dolen allanol.
Tywydd
Dyma Rhian Haf i roi diweddariad am sefyllfa'r storm ar hyn o bryd.
Mae'r rhybudd coch bellach wedi dod i ben, ers 12:00, ond mae rhybudd oren yn parhau mewn grym ar gyfer Cymru gyfan nes 21:00.
Rhian Haf
Gohebydd BBC Cymru ar Twitter
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
RNLI
Dyma'r olygfa o swyddfa'r RNLI ym Mhorthcawl y bore 'ma wrth i lefel y môr godi.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dyma'r olygfa wrth i'r llanw uchel gyrraedd Deganwy.
Mae dŵr yn gorchuddio'r prom yno bellach, ond mae 'na amddiffynfeydd yn diogelu tai gerllaw.
Deganwy