Crynodeb

  • Rhybudd oren mewn grym ar gyfer Cymru gyfan tan 21:00

  • Rhybudd coch "perygl i fywydau" wedi bod mewn grym i 10 sir yn y de tan 12:00

  • Dros 100 o rybuddion llifogydd mewn grym gan Gyfoeth Naturiol Cymru

  • Ysgolion y mwyafrif llethol o siroedd ynghau, gyda disgyblion yn dysgu o bell

  • Miloedd o gartrefi ledled Cymru wedi colli eu cyflenwad trydan

  • Pob gwasanaeth trên yng Nghymru wedi'i ganslo ddydd Gwener

  • Cofnodi gwyntoedd o hyd at 92mya oddi ar arfordir Sir Benfro fore Gwener

  1. Dros 12,000 heb bŵer ar hyn o brydwedi ei gyhoeddi 11:39 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Western Power Distribution

    Am 11:30, mae Western Power Distribution yn dweud fod 12,098 o gwsmeriaid yn ne Cymru heb gyflenwad trydan ar hyn o bryd oherwydd y storm.

    Maen nhw'n adrodd eu bod yn delio gyda 69 o wahanol ddigwyddiadau.

    Mae manylion pellach ar gael ar wefan WPD, dolen allanol.

  2. Coeden wedi disgyn ar gar yn Abertawewedi ei gyhoeddi 11:36 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Rhagor o ddifrod yn y de, y tro yma yn ardal Abertawe, ble mae coeden wedi disgyn ar gar.

    Mae Heddlu De Cymru yn atgoffa pobl i beidio â theithio oni bai ei fod yn hanfodol.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Ymdrechion i achub bwrdd picnic!wedi ei gyhoeddi 11:31 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Dyma ymdrech dau berson i geisio atal bwrdd rhag chwythu i ganol y ffordd ym Mhorthcawl y bore 'ma.

    Fe gafodd y lluniau eu cymryd oddi ar gamerâu cylch cyfyng y Boathouse Fish Bar yn y dref.

    Disgrifiad,

    The Boathouse Fish Bar, Porthcawl

  4. Pennaeth ysgol: 'Covid wedi'n dysgu i ymateb ar fyrder'wedi ei gyhoeddi 11:24 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Ar raglen Dros Frecwast dywedodd pennaeth Ysgol Gartholwg ym Mhontypridd bod modd ymateb ar fyrder ddoe i'r rhybudd coch gan fod dysgu ar-lein wedi dod yn rhywbeth mwy arferol yn sgil Covid.

    "Bach iawn o newid oedd angen i ddweud y gwir," meddai Trystan Edwards.

    "Roedd angen darparu pecynnau i'r disgyblion ieuengaf ac yna pnawn ddoe cyfathrebu oedd y brif her a chael negeseuon clir allan mewn cyfnod byr.

    "O ran adeiladau ein hysgol ni - ni newydd gael to newydd ac mae nifer o goed wedi cael eu tynnu i lawr yn y cyfnod diweddar."

    Trystan Edwards
  5. Y ddwy Bont Hafren ynghau i draffigwedi ei gyhoeddi 11:18 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Am y tro cyntaf erioed, mae'r ddwy bont dros Afon Hafren - Pont Tywysog Cymru yr M4 a Phont Hafren yr M48 - wedi cael eu cau i draffig oherwydd y gwyntoedd cryfion.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. Dros 7,200 heb bŵer yn ne Cymruwedi ei gyhoeddi 11:13 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Western Power Distribution

    Mae Western Power Distribution yn dweud fod 7,298 o gwsmeriaid heb gyflenwad trydan yn ne Cymru erbyn hyn.

    Mae'r achosion ar draws y de, gan gynnwys 795 o gartrefi heb bŵer yn Cross Hands, Sir Gâr, a 651 ym Medlinog ger Pontypridd.

    Yn y gogledd, mae Scottish Power yn adrodd fod cyflenwadau wedi'u heffeithio mewn amryw o fannau yng Ngwynedd, Môn, a Rhewl ger Rhuthun, ond dydyn nhw ddim yn darparu'r union ffigyrau.

    Mae manylion pellach ar gael ar wefan WPD, dolen allanol.

  7. Tonnau mawr yn Nhrearddurwedi ei gyhoeddi 11:07 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Mae Trearddur yng ngogledd Ynys Môn wedi gweld y llanw uchel a thonnau mawr y bore 'ma.

    Disgrifiad,

    Trearddur

  8. Lori wedi troi drosodd ar yr M4 ym Mhen-y-bontwedi ei gyhoeddi 10:57 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. Canol Caerdydd yn wagwedi ei gyhoeddi 10:49 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Mae canol Caerdydd yn llawer distawach na'r hyn fyddai i'w weld ar fore Gwener arferol yn y brifddinas.

    Mae'r siopau a'r caffis ar agor, ond neb yno!

    Caerdydd
  10. Toeau adeiladau wedi'u chwythu i ffwrdd yn y dewedi ei gyhoeddi 10:42 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Mae Heddlu De Cymru yn rhybuddio pobl i gadw draw yn dilyn difrod sylweddol i doeau adeiladau ym Mhen-y-bont a'r Barri.

    Mae to wedi cael ei chwythu oddi ar adeilad ar Heol y Frenhines ym Mhen-y-bont, a tho wedi dod i ffwrdd o garej betrol Co-op ger Heol Pontypridd yn Y Barri.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter 2

    Diwedd neges twitter 2
  11. Llanw uchel yng Nghriciethwedi ei gyhoeddi 10:35 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Dyma'r olygfa ddiweddaraf yng Nghricieth, Gwynedd.

    Arhoswch yn ddiogel bobl. Cofiwch mai'r cyngor yw i aros gartref heddiw.

    Disgrifiad,

    Cricieth

  12. Beth mae rhybudd coch yn ei olygu?wedi ei gyhoeddi 10:31 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Rhybudd Coch
  13. Pa rybuddion sydd mewn grym?wedi ei gyhoeddi 10:25 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    I'ch atgoffa, mae rhybudd coch am wyntoedd cryfion mewn grym ar gyfer 10 o siroedd y de, rhwng 07:00 a 12:00 heddiw.

    Mae'r rhybudd hwnnw ar gyfer Abertawe, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Caerfyrddin, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Mynwy, Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf.

    Mae rhybudd oren mewn grym ar gyfer Cymru gyfan rhwng 05:00 a 21:00.

    Yna, mae rhybudd melyn arall mewn grym ar gyfer rhannau helaeth o'r canolbarth a'r de ddydd Sadwrn, a hynny rhwng 06:00 a 18:00.

    Mae dros 130 o rybuddion llifogydd mewn grym gan Gyfoeth Naturiol Cymru heddiw hefyd, dolen allanol.

    RhybuddFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
  14. Newid trefniadau yn Sir Gârwedi ei gyhoeddi 10:19 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Cyngor Sir Gaerfyrddin

    Dywed Emlyn Dole, arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin eu bod nhw hefyd wedi bod yn paratoi at y gwaethaf ac y bydd y rhybudd llifogydd yn lleihau yn ystod y bore, ond bod y rhybudd gwynt a'i effaith yn para tan ganol dydd.

    "Fe fyddwn i'n cyhoeddi pan fydd hi'n ddiogel i ailagor ein parciau gwledig pnawn 'ma ac yn yr un modd ein hamgueddfeydd, canolfannau hamdden, llyfrgelloedd a theatrau," meddai ar Dros Frecwast.

    "Mae'r canolfannau ailgylchu ar gau bore 'ma ond bydd pobl sydd ag apwyntiadau yn gallu dod p'nawn 'ma ar ôl 12:00.

    "Bydd unrhyw un sydd wedi colli apwyntiad bore 'ma yn gallu dod dros y penwythnos a bydd y gwasanaeth casglu sbwriel a oedd fod i ddigwydd bore 'ma, gobeithio, yn gallu digwydd fory."

    Pencadlys y cyngor yng Nghaerfyrddin
  15. Cyngor i gadw draw o'r arfordirwedi ei gyhoeddi 10:07 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Cyfoeth Naturiol Cymru

    Mae gwylwyr y glannau a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi erfyn ar bobl i gadw draw o'r arfordir heddiw oherwydd y tywydd garw.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter

    Ond nid pawb sydd wedi gwrando ar y cyngor hynny, gan gynnwys y rhain ym Mhenarth.

    Penarth
    Penarth
  16. Dros 6,600 o gartrefi heb bŵer yn y dewedi ei gyhoeddi 10:00 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Western Power Distribution

    Mae Western Power Distribution bellach yn dweud fod 6,664 o gwsmeriaid wedi colli eu cyflenwad trydan ar hyn o bryd.

    Mae'n ymddangos mai de Sir Gâr, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot sydd wedi'u taro waethaf.

    Mae manylion pellach ar gael ar wefan WPD, dolen allanol.

  17. Coeden wedi disgyn ar draws y ffordd ger Y Balawedi ei gyhoeddi 09:57 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    AS Plaid Cymru ar Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. 'Nifer wedi canslo gwyliau ond diogelwch sy'n bwysig'wedi ei gyhoeddi 09:50 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    “Mae’r boards wedi mynd fyny ar y ffenestri a’r drws ffrynt a ni wedi cael cipolwg i weld os oes rhywbeth yn rhydd ar y tu fas," medd Richard Griffiths, perchennog Gwesty'r Richmond yn Aberystwyth ar Dros Frecwast.

    "Ni wedi bod yn paratoi a checkio popeth ac ar hyn o bryd s'dim byd i boeni amdano,

    "Mae'r wythnos hanner tymor yma yng Nghymru yn dechrau wythnos nesaf ac roedd hanner tymor Lloegr yr wythnos hon – so mae hon yn wythnos bwysig i bobl sydd yn trafeilu, fel teuluoedd ac ati - so mae hynny yn effeithio arnon ni ac mae’r cancellations wedi dod mewn yn gloi ddoe a'r diwrnod cynt.

    "Weles i ar ebost gynne bod mwy wedi dod dros nos.

    "Mae hynny yn siomedig ond diogelwch pawb sydd yn bwysig ar hyn o bryd."

    RichmondFfynhonnell y llun, Richard Griffiths
  19. Problemau gyda chyflenwadau trydan yn y de a'r gogleddwedi ei gyhoeddi 09:41 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Western Power Distribution

    Yn eu diweddariad am 09:30 dywedodd Western Power Distribution fod 23 ardal wedi colli eu cyflenwad pŵer ar hyn o bryd - cyfanswm o 2,085 o gartrefi.

    Mae 906 o'r rheiny yn Sir Gâr, a 475 yng Nghastell-nedd Port Talbot.

    Yn y gogledd, dywedodd Scottish Power fod problemau gyda'r cyflenwad yn ardal Criccieth ar hyn o bryd, ac ynghynt yn y bore roedd cartrefi wedi colli pŵer yng ngogledd Môn.

  20. Hyrddiad o 87mya yn Y Mwmbwlswedi ei gyhoeddi 09:37 Amser Safonol Greenwich 18 Chwefror 2022

    Mae'r gwyntoedd wedi codi eto dros yr hanner awr ddiwethaf.

    Daeth yr hyrddiad cryfaf o'r storm hyd yma yn Y Mwmbwls - 87mya - gyda gwyntoedd o hyd at 79mya wedi eu cofnodi ym Mhen-bre tua'r un pryd.