Crynodeb

  • Cymru allan o Gwpan y Byd Qatar 2022 ar ôl colli o 3-0 i Loegr

  • Marcus Rashford (2) a Phil Foden yn sgorio goliau'r Saeson

  • UDA yn fuddugol o 1-0 yn erbyn Iran, sy'n golygu y byddai Cymru wedi angen buddugoliaeth swmpus yn erbyn Lloegr i fynd drwodd

  • Tîm Cymru gychwynnodd yr ornest: Ward; N Williams, Mepham, Rodon, B Davies; Allen, Ampadu, Ramsey; Bale (c), Moore, James

  • Gareth Bale yn cael ei eilyddio ar yr egwyl gydag anaf i linyn ei gar, Brennan Johnson yn ei le

  • Neco Williams yn gorfod gadael y maes gydag anaf i'w ben, Connor Roberts yn ei le

  • Tîm Rob Page yn gorffen ar waelod Grŵp B yn dilyn gêm gyfartal, a dwy golled

  • Gareth Bale yn dweud y bydd yn parhau i chwarae dros Gymru

  1. Dim ond un gair...wedi ei gyhoeddi 22:00 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    diolch

    Mae taith Cymru yng Nghwpan y Byd ar ben. Mae'n boenus dweud hynny.

    Ond mae'r chwaraewyr wedi rhoi'r wlad ar y map rhyngwladol ac wedi rhoi profiadau bythgofiadwy i'r cefnogwyr - ac yn enwedig i'r rhai wnaeth fentro i Doha.

    Yn y cyfamser, os allwch chi stumogi gwneud hynny, darllenwch adroddiad y gêm yma.

    Does dim byd ar ôl i'w wneud felly ond diolch i chi am ddilyn y daith gyda Cymru Fyw.

    Fe fyddwn ni'n ôl.... Pwy sy' ffansi'r Almaen yn 2024?

    Nos da!

  2. 'Wedi 'neud yn dda i fod yma'wedi ei gyhoeddi 21:48 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Sgôr Terfynol: Cymru 0-3 Lloegr

    Roedd y teulu Davies o'r Rhondda y tu allan i'r stadiwm wedi'r chwiban olaf.

    “Be’ oedd yn dda oedd bod nhw ‘di chwarae yr holl ffordd i’r diwedd, dangos calon," meddai Paula.

    "Daethon nhw draw ar y diwedd ac o' chi’n gallu gweld beth oedd e’n ei olygu iddyn nhw. Ni’r cefnogwyr yn gwerthfawrogi ‘ny.”

    Ychwanegodd Trystan: “Rhaid i ni gofio mai nid just twrnament oedd hwn, ni ‘di ‘neud yn dda just i fod ‘ma, a just cymysgu gyda chefnogwyr gwledydd eraill, ma’ nhw’n gwybod pwy y’n ni nawr."

    Alun, Paula, Trystan a Rhys Davies, teulu o’r Rhondda
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd Alun, Paula, Trystan a Rhys Davies yn dal i wenu wedi'r gêm

  3. Y ddawns olaf i Bale a Ramsey?wedi ei gyhoeddi 21:43 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Sgôr Terfynol: Cymru 0-3 Lloegr

    Er i Gareth Bale ddweud heno y bydd yno ar gyfer ymgyrch rhagbrofol Euro 2024 ym mis Mawrth, ai hyn yw dechrau'r diwedd i rai o sêr Cymru?

    Cwestiwn am ddiwrnod arall, o bosib.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. 'Byddwn ni'n ôl!'wedi ei gyhoeddi 21:39 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Sgôr Terfynol: Cymru 0-3 Lloegr

    “Ar ddiwedd y dydd o’dd e’n grŵp anodd," meddai Jamie Ferriman o Bontardawe.

    "Ni’n siomedig ond byddwn ni’n dod eto, gobeithio mewn pedair blynedd.”

    Jamie Ferriman
  5. 'Methu dibynnu ar un dyn'wedi ei gyhoeddi 21:32 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Sgôr Terfynol: Cymru 0-3 Lloegr

    Owain Tudur Jones
    Cyn-chwaraewr Cymru ar S4C

    Dal i fod 'dan ni’n ddibynnol ar Gareth Bale.

    'Nes i ddweud cyn y gêm am y bois eraill, yn lle dibynnu arno fo rhaid camu fyny hefyd i fod efo fo ar y daith - fel ein bod ni fel cefnogwyr ddim yn dibynnu ar un dyn.

    Gareth BaleFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. Bale: 'Gadael gyda'n pennau ni'n uchel'wedi ei gyhoeddi 21:28 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Sgôr Terfynol: Cymru 0-3 Lloegr

    S4C

    "Roedd e'n gêm heriol yn erbyn tîm safonol iawn, roedden ni'n gwybod hynny o'r dechrau," meddai Gareth Bale wedi'r gêm.

    "'Dan ni'n siomedig gyda'r canlyniad, ond mae'n rhaid i ni gofio ein bod ni wedi dod yn bell iawn i gyrraedd Cwpan y Byd ac mae'n rhaid i ni fod yn falch o'n hunain o fod yma.

    "'Dan ni wedi rhoi 100% a rhoi popeth ar y cae. Byddwn ni'n gadael gyda'n pennau ni'n uchel.

    "Fyswn ni wedi caru 'neud yn well - ond y realiti yw mae pêl-droed yn anodd ac mae angen edrych i'r dyfodol.

    "Mae'r cefnogwyr wedi bod yn anhygoel - y rhai deithiodd mor bell, neu wyliodd adref. Rhaid iddyn nhw aros gyda ni ar gyfer dechrau ymgyrch yr Ewros ym mis Mawrth."

    Gareth Bale
  7. Colwill: 'Gutted yw'r gair'wedi ei gyhoeddi 21:21 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Sgôr Terfynol: Cymru 0-3 Lloegr

    S4C

    "Gutted" yw'r gair ddefnyddiodd Rubin Colwill wrth ymateb i'r golled.

    "Dyma yw'r llwyfan mwyaf yn y byd ac mae'r timoedd eraill yn arbennig.

    "Ni'n devastated, ond dyna sy'n digwydd ym mhêl-droed weithiau."

    Dywedodd nad oedd modd dewis "un peth" aeth o'i le.

    Wrth edrych i'r dyfodol, dywedodd ei fod am weld "mwy o'r un peth".

    "Ni'n wlad fach iawn, 'sdim lot o bobl yn ein gwlad ni, ac i gael y talent sydd gyda ni, mae'n arbennig."

    Rubin Colwill
    Disgrifiad o’r llun,

    Fe siaradodd Rubin Colwill gyda S4C yn fuan wedi'r chwiban olaf

  8. 'Wedi bod fel hyn am sbel'wedi ei gyhoeddi 21:18 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Sgôr Terfynol: Cymru 0-3 Lloegr

    Gwennan Harries
    Cyn-ymosodwr Cymru ar S4C

    Doedd dim creadigrwydd - ond ni 'di bod fel hyn am sbel os ydyn ni'n hollol onest.

    Roedd pawb yn meddwl y bydden ni'n cyrraedd Cwpan y Byd a chamu lan.

    Mae hwn mewn gwirionedd wedi dilyn yr arferion 'dan ni wedi gweld yn y gemau cyn y gystadleuaeth.

    Cymru yn erbyn LloegrFfynhonnell y llun, Getty Images
    ffan siomedigFfynhonnell y llun, Getty Images
  9. Y chwaraewyr yn diolch i'r cefnogwyr ar y diweddwedi ei gyhoeddi 21:17 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Sgôr Terfynol: Cymru 0-3 Lloegr

    clapio'r cefnogwyrFfynhonnell y llun, Getty Images
    clapioFfynhonnell y llun, Getty Images
  10. 'Nid diffyg ymdrech ydy hyn'wedi ei gyhoeddi 21:15 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Sgôr Terfynol: Cymru 0-3 Lloegr

    Owain Tudur Jones
    Cyn-chwaraewr Cymru ar S4C

    Os oes unrhyw un yn cwestiynu ymdrech y chwaraewyr, na i ddweud wrthyn nhw'n blwmp ac yn blaen nid diffyg ymdrech ydy hyn.

    Bydd Rob Page yn sbïo ar ei hun a gofyn, fyddwn i wedi gallu 'neud pethau'n wahanol

    Dwi'n credu daethon ni mewn yn 'under-cooked'.

    Dwi'n meddwl bod timau eraill sydd efo chwaraewyr yn chwarae'n gyson, fel Lloegr, yn barod i fynd.

    'Dan ni 'di edrych yn bell ohoni yn y gystadleuaeth.

  11. 'Siomedig iawn'wedi ei gyhoeddi 21:11 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Sgôr Terfynol: Cymru 0-3 Lloegr

    Kath Morgan
    Cyn-gapten Cymru ar BBC Radio Cymru

    Dwi'n siomedig iawn, mae'n rhaid dweud.

    Yn naturiol fel cefnogwr, ond hefyd dros y chwaraewyr.

    Fi'n drist i'r Wal Goch hefyd, yr holl arian a'r ymdrech i ddod i Qatar.

    O'n i yn disgwyl gallu cystadlu'n agos â'r gwrthwynebwyr - roedden ni'n bell, bell, bell oddi wrthyn nhw.

    Joe AllenFfynhonnell y llun, Getty Images
  12. 'Bell o'r safon ym mhob gêm'wedi ei gyhoeddi 21:09 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Sgôr Terfynol: Cymru 0-3 Lloegr

    Gwennan Harries
    Cyn-ymosodwr Cymru ar S4C

    Dwi'n siŵr y byddai'r cefnogwyr yn dewis fod yma a ddim perfformio cystal dros beidio bod yma o gwbl.

    Weithiau dyw pethau just ddim yn clicio.

    Ni 'di gweld diffyg hyder yn ystod y gemau - yn enwedig heddiw.

    Ni 'di bod ymhell o'r safon ym mhob gêm, a dyna sy'n siomedig.

  13. Pa ddyfodol i Bale a Ramsey?wedi ei gyhoeddi 21:04 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Sgôr Terfynol: Cymru 0-3 Lloegr

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru ar BBC Radio Cymru

    Bale a Ramsey - dydyn nhw ddim yn hen, a dwi'n gwybod eu bod wedi dioddef nifer o anafiadau.

    Y cwestiwn mawr ydy, ydy'r angerdd, ydy'r brwdfrydedd dal yna i'r ddau sydd wedi gwneud gymaint yn eu gyrfaoedd i Gymru a'u clybiau?

    Os ydy'r awch dal yn eu cyrff nhw, 'sdim rhaid i'w siwrne fod ar ben.

    Ond mae'n rhaid iddyn nhw fod yn chwarae i'w clybiau.

    Mae'r dair gêm wedi profi i fi os nad ydych chi'n chwarae'n rheolaidd i'ch clybiau, 'dach chi am fod filltiroedd i ffwrdd o beth sydd ei angen er mwyn perfformio ar y lefel uchaf.

    Aaron RamseyFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Fe orffennodd Aaron Ramsey yr ornest fel capten - ond ai dyma fydd y tro olaf welwn ni Rambo yn chwarae i Gymru?

  14. Y cefnogwyr yn canu i'r chwaraewyrwedi ei gyhoeddi 21:01 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Sgôr Terfynol: Cymru 0-3 Lloegr

    Mae'r chwaraewyr a'r criw hyfforddi ar y cae ac yn wynebu'r Wal Goch, sy'n canu'r hen ffefrynnau - gan gynnwys yr anthem.

    Moment o undod ar ddiwedd ymgyrch sydd wedi addo gymaint ond sydd heb danio.

  15. 'Ddim eisiau gorffen ar nodyn negyddol'wedi ei gyhoeddi 20:57 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Sgôr Terfynol: Cymru 0-3 Lloegr

    Gwennan Harries
    Cyn-ymosodwr Cymru ar S4C

    Mae cyrraedd fan hyn wedi bod yn shwt gymaint o lwyddiant.

    Ond y ffordd mae’r dair gêm wedi mynd, y perfformiadau, bysech chi ddim eisiau gorffen ar nodyn mor negyddol.

  16. 'Chwaraewyr yn eu dagrau'wedi ei gyhoeddi 20:56 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Sgôr Terfynol: Cymru 0-3 Lloegr

    Dylan Griffiths
    Sylwebydd BBC Radio Cymru yn Qatar

    Dyna ni. Dim ond pwynt yn y gêm agoriadol.

    Mae 'na chwaraewyr yn eu dagrau yma yn Doha.

    Doedd hi ddim i fod.

  17. Y chwiban olafwedi ei gyhoeddi 20:55 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Sgôr Terfynol: Cymru 0-3 Lloegr

    Mae'r dyfarnwr wedi chwythu ei chwiban.

    Ymgyrch siomedig Cymru yng Nghwpan y Byd yn dod i ben gyda cholled i'r hen elyn, Lloegr.

  18. Pedwar munud o amser ychwanegolwedi ei gyhoeddi 20:52 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Cymru 0-3 Lloegr

    Dim llawer i fynd...

  19. 'Angen dechrau tîm hollol newydd'?wedi ei gyhoeddi 20:51 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Cymru 0-3 Lloegr

    Kath Morgan
    Cyn-gapten Cymru ar BBC Radio Cymru

    Mae'n rhaid i ni fod yn realistig - dyma lle rydyn ni arni ar hyn o bryd.

    'Dan ni heb weld perfformiad fel oedden ni'n gobeithio, ond ni ffaelu dadlau efo canlyniadau.

    Pan mae'r ymgyrch newydd yn dechrau ym mis Mawrth, mae'n rhaid i ni gychwyn tîm a bechgyn hollol newydd i greu llwybr newydd.

  20. Cymru yn cael cynigionwedi ei gyhoeddi 20:48 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Cymru 0-3 Lloegr

    Dwy ergyd mewn dau funud i Gymru - y gyntaf gan Rubin Colwill a'r ail gan Kieffer Moore. Yn anffodus, roedd y ddwy ergyd ymhell dros y trawst.

    Bron â chyrraedd y 90 munud - o'r diwedd!