Crynodeb

  • Cymru allan o Gwpan y Byd Qatar 2022 ar ôl colli o 3-0 i Loegr

  • Marcus Rashford (2) a Phil Foden yn sgorio goliau'r Saeson

  • UDA yn fuddugol o 1-0 yn erbyn Iran, sy'n golygu y byddai Cymru wedi angen buddugoliaeth swmpus yn erbyn Lloegr i fynd drwodd

  • Tîm Cymru gychwynnodd yr ornest: Ward; N Williams, Mepham, Rodon, B Davies; Allen, Ampadu, Ramsey; Bale (c), Moore, James

  • Gareth Bale yn cael ei eilyddio ar yr egwyl gydag anaf i linyn ei gar, Brennan Johnson yn ei le

  • Neco Williams yn gorfod gadael y maes gydag anaf i'w ben, Connor Roberts yn ei le

  • Tîm Rob Page yn gorffen ar waelod Grŵp B yn dilyn gêm gyfartal, a dwy golled

  • Gareth Bale yn dweud y bydd yn parhau i chwarae dros Gymru

  1. Heb ildio'n gynnarwedi ei gyhoeddi 19:29 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Cymru 0-0 Lloegr

    Mae cymaint wedi son am bwysigrwydd peidio ildio'n gynnar. Dydi hynny heb ddigwydd eto, gyda bron i hanner awr ar y cloc.

    Yn y cyfasmer, Neco Williams yn gwneud yn dda i ennill cic rydd ar y linell hanner, a hynny ar ôl tacl dda gan Aaron Ramsey i adennill y meddiant - sy'n beth prin ar hyn o bryd i Gymru.

    taclFfynhonnell y llun, Getty Images
  2. Tywysog Cymru'n dymuno'n dda i'r ddau dîmwedi ei gyhoeddi 19:27 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. 'Grêt gan Ampadu'wedi ei gyhoeddi 19:26 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Cymru 0-0 Lloegr

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru ar BBC Radio Cymru

    Grêt gan Ethan Ampadu yn ystod y gic rydd yna.

    Cafodd y bêl ei chwarae i fewn yn wych gan Loegr.

    Roedd Ampadu'n gwybod bod Harry Maguire yn fwy ac yn gryfach yn yr awyr na fo, ond fe 'naeth o'n siŵr ei fod e ddim yn cael peniad rhydd.

    Ond be' sy'n siomi fi ydy mae'r tri tîm 'dan ni wedi eu chwarae yn y grŵp wedi bod gymaint yn well na ni efo'r bêl.

  4. 'Cymru yn edrych yn drefnus - hyd yma'wedi ei gyhoeddi 19:20 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Cymru 0-0 Lloegr

    Kath Morgan
    Cyn-gapten Cymru ar BBC Radio Cymru

    Mae'n rhaid i ni fod yn realistig - mae Lloegr mor dda gyda'r bêl.

    Ond mae Cymru'n edrych yn dda ac yn drefnus fel hyn.

    Mae Lloegr yn gyfarwydd â chwarae gwrthwynebwyr sy' falle bach yn well na ni.

    Y broblem sy' 'da ni yw pa mor hir ydyn ni'n gallu parhau fel hyn, a sicrhau bo' ni ddim yn gwneud camgymeriadau sylfaenol?

  5. Cic rydd i Loegrwedi ei gyhoeddi 19:19 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Cymru 0-0 Lloegr

    Chris Mepham yn rhoi cic rydd i ffwrdd ar ochr y cwrt cosbi am drosedd ar Harry Kane. Ond Lloegr yn methu a manteisio a Chymru yn cael cic gol.

    Mae Cymru dan y don braidd. Bron i 20 munud wedi mynd.

  6. 'Mwy o opsiynau'wedi ei gyhoeddi 19:16 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Cymru 0-0 Lloegr

    Gwennan Harries
    Cyn-ymosodwr Cymru ar S4C

    Roedd yna wahaniaeth yn y 10 munud agoriadol i Gymru drwy gael dau chwaraewr yn eistedd yng nghanol y cae.

    Mae llwyth mwy o opsiynau pasio ganddyn nhw nawr.

  7. Lloegr yn rheoli'r meddiantwedi ei gyhoeddi 19:15 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Cymru 0-0 Lloegr

    Ar ôl chwarter awr o chwarae, fel y disgwyl, mae Lloegr yn rheoli'r meddiant ac yn tyfu mewn hyder.

    Ond cyfle Rashford ydy'r unig un amlwg hyd yma.

  8. 'Mae gan y tîm yma galon'wedi ei gyhoeddi 19:12 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Gwennan Harries
    Cyn-ymosodwr Cymru ar S4C

    Yn anffodus mae wedi dod ein bod ni’n gorfod dibynnu ar ganlyniad y gêm olaf.

    Ond un peth sydd gyda’r tîm yma ydy calon.

  9. Siawns i Loegrwedi ei gyhoeddi 19:10 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Cymru 0-0 Lloegr

    Cyfle cyntaf y gêm - ar ôl 10 munud o chwarae - yn disgyn i Marcus Rashford ond Danny Ward yn arbed yn dda. Cyfle da i'r Saeson.

  10. 'Angen bod yn bwyllog'wedi ei gyhoeddi 19:09 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru ar BBC Radio Cymru

    Mae angen i Gymru fod yn bwyllog yn y chwarter awr gynta' 'ma.

    Gwneud yn siŵr ein bod ni'm yn gwneud dim byd gwirion - a rhoi dim fath o gyfle i Loegr sgorio'r gôl gynta'.

  11. 'Awyrgylch trydanol'wedi ei gyhoeddi 19:04 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Iolo Cheung
    Gohebydd BBC Cymru Fyw yn Qatar

    Ydy, mae’r awyrgylch yn lot mwy trydanol heno gan gefnogwyr Cymru.

    Nid pawb wnaeth, wel, ‘sefyll yn dawel’ ar gyfer anthem Lloegr chwaith, nawn ni roi o fel ‘na!

    Y Wal GochFfynhonnell y llun, Getty Images
  12. 'Chwarae yn erbyn y goreuon'wedi ei gyhoeddi 19:02 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Kath Morgan
    Cyn-gapten Cymru ar BBC Radio Cymru

    Dyw Lloegr ddim eisiau gwneud y camgymeriad o golli'r gêm yma - maen nhw wedi mynd am siâp amddiffynnol.

    Chwarae teg, mae Gareth Southgate wedi dewis tîm cryf.

    Mae pob un o chwaraewyr Cymru eisiau chwarae yn erbyn goreuon y byd - ac yn sicr mae'r tîm yma o Loegr yn ffitio mewn i'r brîff yna.

  13. Y gic gyntafwedi ei gyhoeddi 19:01 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Cymru 0-0 Lloegr

    Cymru yn cychwyn yr ornest gyda chic hir tuag at Kieffer Moore. Arwydd o'r hyn sydd i ddod?

    Daliwch yn dynn.

    y gic gyntafFfynhonnell y llun, Getty Images
  14. 'Cymryd mantais o amheuaeth Lloegr'wedi ei gyhoeddi 18:59 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Malcolm Allen
    Cyn-ymosodwr Cymru ar S4C

    Cymryd mantais o’r gêm America yn erbyn Lloegr ydy’r peth mawr - mae ‘na amheuaeth yn eu pennau.

    Un gêm mae nhw ‘di ennill mewn saith neu wyth yn dod i fewn i’r gystadleuaeth yma.

    Cymryd mantais o hwnna yn eu hwynebau nhw o’r munud cyntaf, a 'dan ni’n ennill y gêm.

  15. 'Dim ots am ganlyniad UDA ac Iran'wedi ei gyhoeddi 18:57 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Owain Tudur Jones
    Cyn-chwaraewr Cymru ar S4C

    Allwn ni ddim canolbwyntio ar y gêm arall rhwng yr Unol Daleithiau ac Iran, dim ots beth sy’n digwydd yn honna.

    Rhaid i ni ganolbwyntio ar ennill y gêm yma.

    'Swn i’n Rob Page 'swn i'n dweud: 'Bois, rhowch pob dim'.'

  16. Hen Wlad Fy Nhadau...wedi ei gyhoeddi 18:57 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    ...beth all rhywun ei ddweud?

    Fe ganodd cefnogwyr Lloegr 'God Save the King' yn weddol dda.

  17. Mae'r chwaraewyr yn dod allan ar y caewedi ei gyhoeddi 18:53 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Bydd yr anthemau yn cael eu canu yn y man.

    Dyma ni, bawb...

  18. 'Synnu' gweld newid i'r siâpwedi ei gyhoeddi 18:52 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru ar BBC Radio Cymru

    Mae'n edrych fel siâp mwy ymosodol.

    Dwi 'di'n synnu ryw ychydig achos ar ôl y gêm yn erbyn yr Unol Daleithiau, yr hanner cynta' 'na, fe gafodd y cwestiwn ei ofyn i Rob Page - oedd o wedi ystyried newid siâp y tîm?

    A'i ateb oedd "pam newid, 'dan ni wedi cael digon o lwyddiant efo pump yn y cefn".

    Ond dyna mae o wedi'i 'neud.

    Y siâp yma 'di'r unig ffordd i gael Ramsey yn ei safle orau, y rhif 10.

  19. Teyrnged i aelodau selog o'r Wal Gochwedi ei gyhoeddi 18:50 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Mae Huw Jones o Wrecsam wedi creu baner arbennig i ddod gydag o i Gwpan y Byd.

    Ar hyd y gwaelod mae teyrnged i’w dad, OJ Jones, a rhai o’i ffrindiau sydd ddim gyda ni mwyach - a’r rheiny i gyd wedi bod yn ddilynwyr selog o Gymru dros y blynyddoedd.

    Huw Jones
  20. 'Ramsey ddim yn haeddu cychwyn'wedi ei gyhoeddi 18:47 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Kath Morgan
    Cyn-gapten Cymru ar BBC Radio Cymru

    I fi, dyw Ramsey ddim yn haeddu cychwyn.

    Y pwynt yw mae e mewn rôl gwahanol nawr, felly falle welwn ni berfformiad bach yn well.

    Ond roedd Page wastad yn mynd i ddechrau Bale a Ramsey.

    Ramsey a BaleFfynhonnell y llun, Getty Images

    O ran newid siâp y tîm i gael pedwar yn y cefn, roedd rhaid newid rhywbeth.

    Yn anffodus, doedd y siâp ddim yn gweithio gyda'r unigolion o'dd 'di dechrau, yn enwedig yn gêm Iran.

    Mae'n rhaid i ni drio creu perfformiad er mwyn ennill bach o falchder 'nôl i'r chwaraewyr ac i'r Wal Goch.