Crynodeb

  • Cymru allan o Gwpan y Byd Qatar 2022 ar ôl colli o 3-0 i Loegr

  • Marcus Rashford (2) a Phil Foden yn sgorio goliau'r Saeson

  • UDA yn fuddugol o 1-0 yn erbyn Iran, sy'n golygu y byddai Cymru wedi angen buddugoliaeth swmpus yn erbyn Lloegr i fynd drwodd

  • Tîm Cymru gychwynnodd yr ornest: Ward; N Williams, Mepham, Rodon, B Davies; Allen, Ampadu, Ramsey; Bale (c), Moore, James

  • Gareth Bale yn cael ei eilyddio ar yr egwyl gydag anaf i linyn ei gar, Brennan Johnson yn ei le

  • Neco Williams yn gorfod gadael y maes gydag anaf i'w ben, Connor Roberts yn ei le

  • Tîm Rob Page yn gorffen ar waelod Grŵp B yn dilyn gêm gyfartal, a dwy golled

  • Gareth Bale yn dweud y bydd yn parhau i chwarae dros Gymru

  1. Joe Allen yn cynnig gobaith?wedi ei gyhoeddi 18:44 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Iolo Cheung
    Gohebydd BBC Cymru Fyw yn Qatar

    Mae cymaint o’r ystadegau yn erbyn Cymru heno.

    'Dan ni heb guro Lloegr ers 1984, ac wedi colli chwech yn olynol ers hynny gan sgorio dim ond un gôl.

    Dydan ni ddim chwaith wedi curo unrhyw dîm mewn gêm gystadleuol sy’n uwch na ni yn rhestr detholion FIFA ers Euro 2016.

    Un llygedyn o obaith? Dydi Joe Allen heb ddechrau’r un o saith gêm ddiwethaf Cymru, a dydan ni heb ennill yr un.

    Ond y tro diwethaf iddo fo wneud? Y fuddugoliaeth o 1-0 yn erbyn Wcráin...

    Joe AllenFfynhonnell y llun, Getty Images
  2. 'Wedi dewis y tîm cryfaf'wedi ei gyhoeddi 18:41 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Malcolm Allen
    Cyn-ymosodwr Cymru ar S4C

    Mae Rob Page wedi dewis ei dîm cryfa‘ fedrith o yn fy marn i.

    Mae o ‘di bod digon dewr i newid y pedwar yn y cefn.

    'Dan ni ddim ‘di chwarae fel ‘na ers yr Ewros.

  3. 'Tawel hyderus am fuddugoliaeth i Gymru'wedi ei gyhoeddi 18:39 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Mae Hayat o Abertawe yn byw yn Dubai gyda'i phartner Zubeir sydd o'r Alban.

    "Un peth sy'n gyffredin yw nad y'n ni eisiau i Loegr ennill!"

    Ychwanegodd eu bod nhw'n dawel hyderus am fuddugoliaeth i Gymru gyda sgôr o 2-1.

    Zubeir a Hayat
  4. 'Yma o Hyd' yn hit ryngwladol!wedi ei gyhoeddi 18:36 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Mae cefnogwyr o bob cornel o'r byd yn canu 'Yma o Hyd' bellach!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. 'Angen i Ramsey a Bale droi fyny'wedi ei gyhoeddi 18:34 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Mae Harri a Nathan wedi teithio o Fachynlleth i wylio'r gêm yng Nghaerdydd heno.

    "Mae perfformiad Cymru wedi bod yn eithaf siomedig erbyn hyn," medd Harri wrth raglen Post Prynhawn Radio Cymru.

    "Roedd ail hanner y gêm gynta' yn edrych fel roedd Cymru wir eisiau chwarae - doedd gêm Iran ddim yn edrych fel 'na."

    Ychwanegodd Nathan: "Bydd angen i Ramsey a Bale droi fyny heno a gwneud rhywbeth sbesial."

    Harri a Nathan
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Harri a Nathan am weld perfformiad gwell gan Gymru heno

  6. 'Ddaru Hwngari sgorio pedair yn erbyn Lloegr'wedi ei gyhoeddi 18:30 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru ar BBC Radio Cymru

    Mae 'na bwysau ar Loegr - doeddan nhw ddim yn disgwyl bod yn y sefyllfa yma, yn enwedig ar ôl beth ddigwyddodd iddyn nhw yn eu gêm agoriadol.

    Ac mae pobl yn sôn am y rhediad siomedig daeth Cymru i fewn efo.

    Ond mae hynny'n wir i Loegr hefyd - dim ond un o'r wyth gêm ddiwethaf maen nhw wedi ennill.

    Mae'n bosib y bydd angen i ni guro Lloegr o bedair gôl. Ddaru Hwngari sgorio pedair yn eu herbyn, a ddaru'r Almaen sgorio tair.

    Yn amddiffynnol, mae 'na wendidau.

  7. 'Methu aros i weld shots Kane yn mynd dros y bar!'wedi ei gyhoeddi 18:25 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Mae Nicole, 12, a Kenny, 10, o Aberdaugleddau yn Sir Benfro, yn hyderus bod Cymru am ennill o 3-0.

    “Fi methu aros i weld shots Harry Kane i gyd yn mynd dros y bar,” meddai Kenny.

    Yr ifanc a ŵyr, gobeithio!

    Nicole a Kenny
    Disgrifiad o’r llun,

    Ydych chi mor hyderus â'r ddau yma?

  8. 'Bricsen werdd yn y Wal Goch heno!'wedi ei gyhoeddi 18:21 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Mae John Pope, sy'n wreiddiol o Gaerffili, wedi teithio o Ddulyn i Doha.

    John a Rhian

    Bydd ffrind ei fab yn mynd gydag ef i’r gêm a dywedodd y bydd "bricsen werdd yn y Wal Goch heno!”

    Mae ffrind John, Rhian Trueman o Ystalyfera, yn ffyddiog am ganlyniad positif ac y bydd tîm Cymru’n mynd yn ei flaen.

    “Os ni’n colli yn y rownd nesaf, dim ots, byddwn ni wedi curo Lloegr!”

  9. Hyderus am fuddugoliaeth 2-1wedi ei gyhoeddi 18:18 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Mae Adele a Steve Hughes o Gastell-nedd yn hyderus bod Cymru am ennill o 2-1.

    Just gobeithio wedyn bydd gêm Iran a’r UDA yn gyfartal,” meddai Steve.

    Mae’r ddau ohonyn nhw’n gwisgo crysau rhif 20 gyda Dan James ar y cefn - tybed a fydd yr ymosodwr yn serennu heno?

    Adele a Steve Hughes
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae yna ddigon o hyder gan y ddau yma!

  10. 'Ychydig fel y gêm yn erbyn Wcráin'wedi ei gyhoeddi 18:13 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Dylan Griffiths
    Sylwebydd BBC Radio Cymru yn Qatar

    Does gan Gymru ddim byd i'w golli - mae o ychydig fel y gêm yn erbyn Wcráin.

    Oes mae 'na bwysau wrth gwrs ar Gymru - ond mae 'na bwysau hefyd ar Loegr.

    Os gall Gymru ddod trwy'r ugain munud gynta heb ildio gôl, cyrraedd yr hanner yn ddi-sgôr neu'n gyfartal, bydd 'na fwy byth o bwysau wedyn ar Loegr yn yr ail hanner.

    Achos er eu bod nhw'n ffefrynnau clir i fynd trwy'r grŵp, dydyn nhw ddim yna eto.

  11. 'Disgwyl drwy fy mywyd i ddod i Gwpan y Byd'wedi ei gyhoeddi 18:10 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Dim ond newydd gyrraedd Doha mae Ed a Charlotte Buckley o Glasgow, ond o Amlwch yn wreiddiol.

    “Bob man ‘dyn ni’n mynd yma rydyn ni’n gweld Cymry ac mae pawb mewn hwyliau da,” meddai Ed.

    “Dwi ‘di bod yn disgwyl drwy ‘mywyd i ddod i Cwpan y Byd.

    "Mae ‘na wastad siawns i ni ennill, mae’r hogia'n gallu'i droi o 'mlaen pan mae angen.“

    Ed a Charlotte

    Mae Charlotte, 22, yn cytuno ei bod wedi byw drwy oes aur pêl-droed Cymru gyda dwy bencampwriaeth Euro a Chwpan y Byd a dywedodd nad yw drosodd eto.

    “Beth bynnag sy’n digwydd heno, byddwn ni’n ôl mewn Cwpan Byd arall tro nesa!”

  12. Morio canu cyn y gêm fawrwedi ei gyhoeddi 18:07 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Dafydd Iwan yn tanio'r dorf yn Doha yn gynharach heddiw - bydd angen digon o egni wrth i'r awr fawr agosáu...

    Disgrifiad,

    Mae'r Wal Goch yn barod!

  13. 'Gwên o glust i glust' cael pryd o fwyd Cymreigwedi ei gyhoeddi 18:04 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Fe wnaeth y cogydd Bryn Williams baratoi pryd o fwyd i'r garfan draw yn Doha nos Sul - ond beth oedd ar y fwydlen?

    "Cig oen o Gorwen!

    "Pan ti'n llawn dy fol, ti'n hapus - just elfen o fwyd o adre'," meddai wrth Radio Cymru.

    "Roedd Harry Wilson wrth ei fodd - bwyta cig oen o ryw filltir o ble dyfodd o i fyny, felly roedd o'n wên o glust i glust!"

    Bryn WilliamsFfynhonnell y llun, getty
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd y garfan yn hapus iawn nos Sul, medd Bryn Williams

  14. Trafferth gyda baner amryliwwedi ei gyhoeddi 18:01 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Iolo Cheung
    Gohebydd BBC Cymru Fyw yn Qatar

    Mae Shameem ac Abdool Yarroo, dau frawd o Mauritius, newydd gael trafferth gan swyddogion y tu allan i’r stadiwm sydd wedi cwestiynu eu fflag.

    Dywedodd y brodyr fod y swyddogion yn credu mai baner enfys oedd o, a bu’r ddau yn ceisio esbonio am rai munudau mai baner eu gwlad nhw ydi o, a’i fod eisoes wedi ei ganiatáu yn y stadiwm.

    Wrth gwrs, mae hynny dal yn codi cwestiynau am beth fyddai’r swyddogion wedi ei wneud petai o yn faner enfys…

    Baner
    Disgrifiad o’r llun,

    Baner Mauritius oedd gan Shameem ac Abdool Yarroo

  15. Ystafell newid Cymru henowedi ei gyhoeddi 17:56 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    ystafell newidFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r cit yn barod...

    BaleFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    ...ond a ydy'r chwaraewyr?

  16. 'Cymru i ennill o 5-0!'wedi ei gyhoeddi 17:55 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Mae Dewi, Osian, Steffan ac Eli newydd gyrraedd Doha heddiw o Gaerdydd.

    “Sa i wedi cysgu ers fel 25 awr,” meddai Dewi, nid bod hynny’n ei stopio rhag darogan buddugoliaeth o 5-0.

    Mae Osian a Steffan yn mynd yn fwy “realistig” a dyfalu 3-1 a 3-2 i Loegr, ond mae Eli yn credu yr aiff Cymru â hi o 2-1.

    Dydi’r criw heb fwcio hediad adref eto, felly pwy a ŵyr!

    Dewi, Osian, Steffan ac Eli
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'n bosib mai dyma'r cefnogwyr fwya' hyderus yn y stadiwm heno!

  17. Cadarnhad o dimau Cymru a Lloegrwedi ei gyhoeddi 17:50 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter 2

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter 2
  18. Bale a Ramsey yn cychwynwedi ei gyhoeddi 17:47 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022
    Newydd dorri

    Tîm Cymru i wynebu Lloegr:

    Ward; N Williams, Mepham, Rodon, B Davies; Allen, Ampadu, Ramsey; Bale (c), Moore, James.

    Hennessey, Connor Roberts a Wilson ydy'r tri newid o'r tîm wynebodd Iran.

    Mwy i ddilyn

  19. Mae'r chwaraewyr wedi cyrraeddwedi ei gyhoeddi 17:43 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Gareth BaleFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Capten Cymru, Gareth Bale yn ymddangos yn hapus ar y cae, llai na dwy awr cyn y gic gyntaf

    Aaron RamseyFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    A ddylen ni boeni fod Aaron Ramsey yn gwisgo gwyn, ac nid coch?

    Harry KaneFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae seren a chapten Lloegr, Harry Kane, hefyd wedi cyrraedd...

  20. 'Sawl gwlad mo'yn i Gymru ennill'wedi ei gyhoeddi 17:39 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Ond beth am farn y cefnogwyr?

    Mae Lyn Griffiths, sydd o Landeilo yn wreiddiol, yn teimlo bod 'na gefnogwyr tu hwnt i Gymru sy'n cefnogi'r cochion heddiw.

    Lyn Griffiths

    "Heddi' ma' pobl o bob gwlad wedi bod yn dod mla'n a dweud pob lwc am heno," dywedodd.

    "Fi'n credu bod sawl gwlad arall moyn i Gymru ennill."