Crynodeb

  • Cymru allan o Gwpan y Byd Qatar 2022 ar ôl colli o 3-0 i Loegr

  • Marcus Rashford (2) a Phil Foden yn sgorio goliau'r Saeson

  • UDA yn fuddugol o 1-0 yn erbyn Iran, sy'n golygu y byddai Cymru wedi angen buddugoliaeth swmpus yn erbyn Lloegr i fynd drwodd

  • Tîm Cymru gychwynnodd yr ornest: Ward; N Williams, Mepham, Rodon, B Davies; Allen, Ampadu, Ramsey; Bale (c), Moore, James

  • Gareth Bale yn cael ei eilyddio ar yr egwyl gydag anaf i linyn ei gar, Brennan Johnson yn ei le

  • Neco Williams yn gorfod gadael y maes gydag anaf i'w ben, Connor Roberts yn ei le

  • Tîm Rob Page yn gorffen ar waelod Grŵp B yn dilyn gêm gyfartal, a dwy golled

  • Gareth Bale yn dweud y bydd yn parhau i chwarae dros Gymru

  1. Ail hanner ac eilyddio i Gymruwedi ei gyhoeddi 20:05 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Cymru 0-0 Lloegr

    Mae Gareth Bale wedi cael ei eilyddio.

    Mae'n debyg ei fod wedi anafu llinyn ei gar. Brennan Johnson sydd ymlaen yn ei le.

    Mae Aaron Ramsey yn gapten yn absenoldeb Bale.

    Dyma ni - yr ail hanner wedi cychwyn...

    Mae Gareth Bale wedi gadael y maesFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Gareth Bale wedi gadael y maes

  2. Amser am gwis bach wrth aros am yr ail hanner?wedi ei gyhoeddi 20:04 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Mae Cymru a Lloegr yn hen elynion ar y cae, a hynny'n rhannol oherwydd eu bod yn rhannu ffin a'i gilydd.

    Faint ydych chi'n ei wybod am y ffin honno?

    Rhowch gynnig ar gwis Cymru Fyw yma!

    Cymru LloegrFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. 'Cymru'n ddisgybledig'wedi ei gyhoeddi 20:03 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Kath Morgan
    Cyn-gapten Cymru ar BBC Radio Cymru

    Mae Cymru wedi chwarae lot yn well na'r ddwy gêm ddiwethaf - maen nhw'n fwy disgybledig, mae eu siâp nhw'n edrych yn dda.

    Ond wrth gwrs rydyn ni'n gorfod bod yn ofalus.

    Pan mae Lloegr yn gwrthymosod, maen nhw mor gywir.

    Y broblem efo ni heddiw yw pan mae meddiant gyda ni, rydyn ni'n rhoi'r bêl 'nôl iddyn nhw'n syth.

    FodenFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Phil Foden yn cael ei amgylchynu gan amddiffynwyr Cymru

  4. Ffans angerddol yn Tramshed, Caerdyddwedi ei gyhoeddi 20:02 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Ym mhrifddinas Cymru, mae digonedd o obaith o hyd...

    Ffans angerddol yn Tramshed, Caerdydd
  5. Canolfan Cymry Llundain dan ei sangwedi ei gyhoeddi 20:01 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Mae criw Côr Llundain wedi ymgynull i wylio'r gêm yng Nghanolfan Cymry Llundain, Gray's Inn Road.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. Llun sy'n adrodd cyfrolauwedi ei gyhoeddi 19:57 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Cymru 0-0 Lloegr

    Dwi'n siŵr nad oes angen cyfieithiad arnoch chi, ond dyma raffeg sy'n dangos fod Harry Maguire wedi cael mwy o gyffyrddiadau yng nghwrt cosbi'r gwrthwynebydd nag y mae Gareth Bale wedi cael drwy gydol y gystadleuaeth.

    Aneffeithiol.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. 'Dim dylanwad gan Bale na Ramsey'wedi ei gyhoeddi 19:54 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru ar BBC Radio Cymru

    Doedd 'na ddim dylanwad o gwbl gan Bale yn ystod yr hanner gynta' 'na.

    Dim dylanwad gan y ddau - fo na Aaron Ramsey.

    Oce o'dd Page eisiau dechrau efo nhw eto.

    Ond o ran y feirniadaeth sydd wedi bod o'r ddau yn y ddwy gêm gyntaf - pam ddim tynnu un neu'r ddau oddi ar y cae os nad ydyn nhw'n cael dylanwad, a dod â chwaraewyr ymlaen fydd yn cael dylanwad ar y chwarae?

    Gareth BaleFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. Hanner amserwedi ei gyhoeddi 19:51 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Cymru 0-0 Lloegr

    A dyna ni am yr hanner cyntaf.

    Gêm o ychydig gyfleoedd ond pob un, oni bai am ergyd Allen, yn disgyn i Loegr, sy'n gyfforddus iawn.

    Bydd yn rhaid i Gymru obeithio am wyrth fel mae pethau'n sefyll.

    Anadlwch.

  9. Cynnig cyntaf Cymru ar y gôlwedi ei gyhoeddi 19:50 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Cymru 0-0 Lloegr

    Joe Allen yn cael hanner foli tu allan i gwrt cosbi Lloegr ond ei ergyd - yr un cyntaf gan Gymru - yn mynd dros y trawst.

    Gwell.

  10. Cic gornel arall i Loegrwedi ei gyhoeddi 19:49 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Cymru 0-0 Lloegr

    Ethan Ampadu yn cael ei guro yn yr awyr gan John Stones ond Danny Ward yn arbed ei beniad yn gymharol hawdd.

    Ochenaid o ryddhad arall i gefnogwyr Cymru.

    'Da ni yn eiliadau olaf yr hanner.

  11. 'Munudau peryglus'wedi ei gyhoeddi 19:46 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Cymru 0-0 Lloegr

    Kath Morgan
    Cyn-gapten Cymru ar BBC Radio Cymru

    Dyma be' sy'n beryglus, just munudau cyn hanner amser - maen nhw'n dweud dyna'r amser gwaethaf i ildio gôl.

  12. 5 munud o amser ychwanegolwedi ei gyhoeddi 19:46 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Cymru 0-0 Lloegr

    Llai na pum munud i fynd o'r hanner cyntaf. Mae Dan James yn ennill cic rydd ar y linell hanner eto.

    Mae amddiffynwyr Cymru yn falch o gael hoe fach.

  13. 'Tyfu mewn hyder'wedi ei gyhoeddi 19:43 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Cymru 0-0 Lloegr

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru ar BBC Radio Cymru

    Dwi'n cael y teimlad ein bod ni'n tyfu mewn hyder mewn i'r gêm.

    'Dan ni'n gwthio chwaraewyr ymlaen, 'dan ni'n bod yn fwy positif.

    Ond pan mae'r Saeson yn troi amddiffyn i mewn i ymosod, mae'r cyflymdra efo'r symudiad yn beryg bywyd.

  14. UDA 1-0 Iranwedi ei gyhoeddi 19:42 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Yn y cyfamser, fel mae'n sefyll, mae Cymru allan o Gwpan y Byd ar ôl i Christian Pulisic roi'r Americanwyr ar y blaen yn y gêm arall yng Ngrŵp B heno.

    Hynny ydy, os nad ydy Cymru yn ennill hon o 4-0...

  15. 'Coesau Ramsey ddim yn ddigon'wedi ei gyhoeddi 19:40 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Cymru 0-0 Lloegr

    Kath Morgan
    Cyn-gapten Cymru ar BBC Radio Cymru

    Dyw coesau Aaron Ramsey ddim yn ei gario.

    Mae ei galon eisiau iddo fe fynd - ond dyw ei gorff ddim yn dilyn.

    Ac yn anffodus, 'dan ni yng Nghwpan y Byd - dydyn ni methu cario chwaraewyr.

  16. Eilydd i Gymruwedi ei gyhoeddi 19:36 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Cymru 0-0 Lloegr - 36 munud

    Mae Neco Williams yn gorfod dod oddi ar y cae ar ôl derbyn ergyd nerthol i'w ben rai munudau yn ôl.

    Connor Roberts sydd yn dod ymlaen yn ei le.

    Doedd Neco ddim yn hapus i ddod oddi ar y cae, ond mae'n gadael y maes yn reit ddagreuol.

    anaf NecoFfynhonnell y llun, Getty Images
  17. Y tîm wedi 'rhoi Cymru ar y map'wedi ei gyhoeddi 19:34 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Dyma Carys o Faesteg sy'n gwylio'r gêm yn Tramshed, Caerdydd.

  18. Digon o ganu yn y stadiwmwedi ei gyhoeddi 19:32 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Cymru 0-0 Lloegr

    Iolo Cheung
    Gohebydd BBC Cymru Fyw yn Qatar

    Yma o Hyd, Gwŷr Harlech, Hogiau Ni, Viva Gareth Bale - mae’r caneuon i gyd allan gan gefnogwyr Cymru heno.

    Ond mae’r Saeson hefyd wedi dod â drwm mawr efo nhw, sy’n ysgogi sŵn mawr a chlapio bob hyn a hyn.

  19. 'Cymru ddim yn ddigon cyflym'wedi ei gyhoeddi 19:31 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Cymru 0-0 Lloegr

    Kath Morgan
    Cyn-gapten Cymru ar BBC Radio Cymru

    Y broblem yw dyw Lloegr yn rhoi dim amser i Gymru, a ni ffaelu 'neud yr un peth 'nôl.

    Pan mae'r bêl gyda ni, ni ddim yn ddigon cyflym i symud y bêl ymlaen.

    Am ba bynnag reswm 'dan ni'n araf i ddechrau.

    Pan chi'n chwarae yn erbyn gwrthwynebwyr da, mae angen torri'r gêm i fyny mewn i flociau o 10 munud.

    Mae'r lefel o ganolbwyntio mor uchel, ac mae'n anodd i barhau i wneud hynny am 90 munud.

  20. Cerdyn melynwedi ei gyhoeddi 19:30 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Cymru 0-0 Lloegr

    Dan James yn cael cerdyn melyn am dacl hwyr ar John Stones. 29 munud wedi mynd.

    Cefnogwyr Lloegr yn canu: "You're going home in the morning."