Crynodeb

  • Cymru allan o Gwpan y Byd Qatar 2022 ar ôl colli o 3-0 i Loegr

  • Marcus Rashford (2) a Phil Foden yn sgorio goliau'r Saeson

  • UDA yn fuddugol o 1-0 yn erbyn Iran, sy'n golygu y byddai Cymru wedi angen buddugoliaeth swmpus yn erbyn Lloegr i fynd drwodd

  • Tîm Cymru gychwynnodd yr ornest: Ward; N Williams, Mepham, Rodon, B Davies; Allen, Ampadu, Ramsey; Bale (c), Moore, James

  • Gareth Bale yn cael ei eilyddio ar yr egwyl gydag anaf i linyn ei gar, Brennan Johnson yn ei le

  • Neco Williams yn gorfod gadael y maes gydag anaf i'w ben, Connor Roberts yn ei le

  • Tîm Rob Page yn gorffen ar waelod Grŵp B yn dilyn gêm gyfartal, a dwy golled

  • Gareth Bale yn dweud y bydd yn parhau i chwarae dros Gymru

  1. 'Rhaid tynnu llinell' dan y gystadleuaeth hyd ymawedi ei gyhoeddi 17:34 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Y gic gyntaf am 19:00 GMT

    Roedd Rob Page wedi ei "siomi" gan berfformiad Cymru yn erbyn Iran ddydd Gwener.

    Ond fe ddywedodd bod yn rhaid "ymateb mewn modd positif" wrth edrych at y gêm fawr heno.

    "Fy rhwystredigaeth a fy siom i o ran y chwaraewyr yw nad ydym wedi dangos unrhyw beth tebyg i'r lefel o berfformiad wnaeth sicrhau ein bod yn cyrraedd Cwpan y Byd," meddai wrth y wasg ddoe.

    "Rydym wedi siarad am hyn, mae'n rhaid nawr tynnu llinell dan hynny.

    "Dyw hi ddim bwys am y canlyniad arall, pe bai ni yn mynd adre neu fynd ymlaen i'r rownd nesa, mae'n rhaid i ni roi perfformiad y bydd ein cefnogwyr yn falch ohono."

    Rob PageFfynhonnell y llun, Getty Images
  2. 'Rhaid taflu popeth at y gêm' yn erbyn Lloegr - Ben Davieswedi ei gyhoeddi 17:31 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Disgrifiad,

    'Rhaid taflu popeth at y gem yn erbyn Lloegr'

    Beth felly am sylwadau'r chwaraewyr a'r hyfforddwr cyn yr ornest fawr?

    Mae'r amddifynnwr Ben Davies yn dweud y bydd yn rhaid "taflu popeth at y gêm" gan obeithio'r gorau.

    Ond heb os, fe fydd hi'n gêm anodd, ychwanegodd.

  3. Aelod newydd o'r Wal Goch?wedi ei gyhoeddi 17:26 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Yr anrhegion penblwydd gorau ar ddiwrnod fel heddiw - a rhywfaint o Gymraeg gan gyn-ymosodwr Lloegr!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Am dro ar strydoedd Dohawedi ei gyhoeddi 17:24 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Fel sy'n draddodiad erbyn hyn, fe aeth y garfan allan am dro yn gynharach heddiw.

    Tybed ai hyder neu nerfau sydd i'w gweld ar wynebau'r chwaraewyr - neu gymysgedd o'r ddau?

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Hen elyniaeth!wedi ei gyhoeddi 17:20 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Llyfrgell Genedlaethol Cymru

    Wyddoch chi mai heno fydd y 104ydd tro i Gymru a Lloegr wynebu ei gilydd mewn gêm bêl-droed?

    Mae'n ddigon posib y bydd hon ymysg un o'r pwysicaf...

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. 'Neis curo Lloegr - ond y perfformiad sy'n bwysig'wedi ei gyhoeddi 17:16 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Dyma'r gêm fydd yn penderfynu a fydd ymgyrch Cymru yng Nghwpan y Byd yn parhau.

    Ond i rai o'r cefnogwyr draw yn Qatar, gweld chwarae safonol gan Gymru sy'n bwysig - nid y canlyniad.

    "Hyd yn oed os maen nhw'n colli," medd John Williams o Bontypridd, "fi just isie gweld nhw'n chwarae'n dda, achos yn y ddwy gynta' ni heb ddangos pa mor dda ni'n gallu bod".

    Mae Ben Cole o Borthcawl am i'r tîm wneud y gorau o'r cyfle olaf o bosib i greu argraff ar weddill y byd.

    "Fi isie gweld bach o ffeit yn y tîm, cadw'r bêl bach yn well... ni 'ma er mwyn i'r byd weld ni.

    "Ma' fe wastad yn neis curo Lloegr, ond mae e mwy am weld ni'n rhoi perfformiad da i mewn."

    Ben Cole
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae gan gefnogwyr gwledydd eraill yn Doha ffydd mai Cymru fydd yn ennill heno, medd Ben Cole

  7. Beth sydd ei angen er mwyn mynd drwodd?wedi ei gyhoeddi 17:12 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    I gyrraedd y rownd nesaf, mae angen i Gymru guro Lloegr heno.

    Petai Iran a'r UDA yn cael gêm gyfartal, yna byddai unrhyw fuddugoliaeth yn ddigon i Gymru.

    Ond os nad yw'r gêm yna'n gyfartal, byddai angen i Gymru ennill o bedair gôl - i sicrhau gwahaniaeth goliau gwell na Lloegr.

    Tîm CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. Amser y gic cyntaf yn Efrog Newydd, Tokyo ac... Amlwchwedi ei gyhoeddi 17:07 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. Cystadleuaeth rhwng ffrindiau!wedi ei gyhoeddi 17:03 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Mae Daewoong Kim a Deukki Go o Seoul, De Corea yn cefnogi timau gwahanol heno.

    “Mae’r ddau ohonom ni’n dilyn y Premier League,” meddai Deukki.

    “Ond dwi’n hoffi Bale, mae o’n hoffi Kane!"

    Daewoong Kim a Deukki Go
    Disgrifiad o’r llun,

    Cefnogwyr newydd i Loegr a Chymru: Daewoong Kim a Deukki Go o Seoul

  10. Oes 'na obaith i Gymru heno?wedi ei gyhoeddi 16:58 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Iolo Cheung
    Gohebydd BBC Cymru Fyw yn Qatar

    Mae'r mathemateg yn dweud ei bod hi'n bosib o hyd, ond siaradwch ag unrhyw gefnogwr Cymru sydd yn dal yn Doha, a phrin yw'r gobaith.

    I gyrraedd rownd nesaf Cwpan y Byd bydd yn rhaid i'r crysau cochion drechu Lloegr heno, a gobeithio am gêm gyfartal rhwng yr UDA ac Iran.

    Yr unig lwybr arall i rownd yr 16 olaf yw trechu'r Saeson o bedair gôl neu fwy.

    Mae hynny'n rhywbeth dydyn nhw erioed wedi ei wneud mewn 103 o gemau yn erbyn ei gilydd.

  11. Prynhawn da a chroeso!wedi ei gyhoeddi 16:55 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Croeso i'n llif byw ar gyfer gêm fawr olaf Cymru yng Ngrŵp B - ac, o bosib, yng Nghwpan y Byd 2022.

    Mae angen buddugoliaeth yn erbyn Lloegr ar ôl y golled siomedig yn erbyn Iran ddydd Gwener diwethaf.

    Fe gewch chi'r holl drafod o Qatar a Chymru cyn y gic gyntaf (19:00 GMT), yn ystod y gêm, ac ar ôl y chwiban olaf.

    Os hoffech chi wrando ar sylwebaeth ein cyfeillion draw yn Chwaraeon Radio Cymru o 18:00 ymlaen, cliciwch yma.

    Yn y cyfamser, bydd canllawiau di-duedd BBC Cymru Fyw yn cael eu herio i'r eithaf yma ar ein llif byw...

    ...felly, am y tro, pob lwc Cymru!

    Geraint Lovgreen yn y dorf yn erbyn UDA, 21 TachweddFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Bydd chwaraewyr Cymru yn gobeithio adennill eu Henw Da heno... Dyma Geraint Løvgreen, y canwr a'r cefnogwr brwd yn gweddïo yn ystod y gêm yn erbyn UDA ar 21 Tachwedd