Bwyd blasus ar gyfer yr holl deulu!wedi ei gyhoeddi 11:42 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2023
Casi, Osian, Caio a Dave yn mwynhau danteithion ar y maes – rhaid cadw’r lefelau egni’n uchel!

Mae Eisteddfod yr Urdd 2023 wedi dechrau
Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin yw cartref yr ŵyl eleni
Mae'r plant a'r bobl ifanc wedi dechrau ar y cystadlu
Gwydion Rhys yw enillydd y Fedal Gyfansoddi eleni
Roedd y maes yn fwy llawn na'r arfer ddydd Sul gyda sioe Chwilio'r Chwedl
Casi, Osian, Caio a Dave yn mwynhau danteithion ar y maes – rhaid cadw’r lefelau egni’n uchel!
Mae'r Mudiad Meithrin ac S4C ymhlith y rhai sydd wedi sicrhau digon o weithgareddau i'r plant lleiaf - y manylion yma.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Nid dim ond cymeriadau mewn gwisgoedd anifeiliaid lliwgar yw’r rhain.
Mae’r chwech ‘Awen’ yma’n mynd i fod yn chwarae rhan ganolog ym mhrif seremonïau’r dydd.
Y chwe 'Awen' fydd yn rhan o'r prif seremonïau yr wythnos hon
Fe ddaeth y syniad gan griw Cwmni Theatr yr Urdd, gan ddefnyddio’r syniad bod person yn cael ei drawsnewid wedi iddyn nhw ennill y brif wobr yn eu maes.
"'Dan ni 'di penderfynu cael gafael ar y seremonïau ac ail-wampio nhw 'chydig bach," dywedodd Branwen Davies, trefnydd Theatr Ieuenctid yr Urdd.
"Mae bob un o'r awenau yma'n gymeriadau gwahanol gyda gwisg gwahanol.
"'Dan ni jyst isio' rhoi'r bri 'na 'nôl."
Cafodd y gwisgoedd eu dylunio gan Efa Dyfan, ac mae’r chwe chymeriad yn cael eu chwarae gan aelodau Theatr Ieuenctid yr Urdd.
Dim rhagolygon o law yr wythnos yma, ond lefelau UV a phaill yn uchel, felly byddwch yn barod!
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae brwdfrydedd mawr wedi bod yn lleol, medd Carol Dyer o bwyllgor apêl Llanymddyfri.
“O’n i’n mynd amgylch siopau a busnesau i’w hannog nhw ac ateb eu cwestiynau nhw,” meddai
Carol Dyer
“Ambell waith o’n i’n gorfod esbonio i bobl beth oedd Eisteddfod yr Urdd achos mae’n rhaid cofio, nid pawb sydd wedi bod i Eisteddfod yr Urdd…
"Mae hyd yn oed y rhai sydd newydd agor busnesau a ddim wedi byw ‘ma am gyfnod, maen nhw wedi mynd i fewn i ysbryd yr ŵyl, ac wedi deall yn iawn beth yw Mr Urdd.”
Mae ‘na bymtheg o feinciau wedi eu creu gan ddisgyblion rhai o ysgolion y Sir.
Dywedodd yr artist Karen McRobbie fod aelodau'r 'sied ddynion' yn Nrefach wedi helpu'r prosiect a noddwyr lleol wedi rhoi'r pren.
Hanes Llangyndeyrn yw'r ysbrydoliaeth ar gyfer y fainc hon
“Mae pymtheg o feinciau wedyn wedi mynd allan at wahanol ysgolion yn y Sir ac ar bob mainc mae yna chwedl neu stori sy’n bwysig i Gaerfyrddin arnyn nhw," dywedodd.
Mae Macsen wedi dysgu am hanes Llangyndeyrn wrth ymuno ym mhrosiect 23
“Ni ‘di bod yn creu y fainc yma er mwyn ei roi ar faes yr Eisteddfod” meddai Macsen.
“Ni ‘di rhoi llawer o bethau sy’n ymwneud â Llangyndeyrn arno fe. Mae gyda ni dractorau tu ôl y gatiau, y capel gyda’r gloch, a phethau fel yna.
"Fi’n hapus taw Llangydeyrn ni’n neud fel rhan o brosiect 23 achos os bydden ni ddim yn neud e, sai’n credu bydden i’n gwybod lot am Llangyndeyrn.”
Yn wahanol i’r llynedd, bydd yn rhaid talu am docyn eleni, gyda phrisiau’n amrywio o £8 i gystadleuwyr i £20 am docyn oedolyn.
Y Pafiliwn Coch
Ond gyda chefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru, bydd teuluoedd incwm is yn gallu hawlio tocynnau am ddim eleni.
Ar Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru, roedd Siân Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod a Chelfyddydau yr Urdd, yn sôn am lwyddiant y cynllun, sydd wedi digwydd am y tro cyntaf:
"‘Dan ni’n hynod falch fod yna 8,000 wedi manteisio ar hyn. Yn sicr, heb os nac oni bai, mae ‘na alw."
Y gobaith yw, meddai, y bydd hyn yn parhau am flynyddoedd i ddod.
Dyma Owain, Rowan, Anni, Tomos, Branwen ac Efa o Ysgol Llanddoged, Sir Conwy, yn paratoi i fynd ar lwyfan y pafiliwn Gwyn i gystadlu yn y gystadleuaeth ddawnsio gwerin i ysgolion â dan 100 o blant.
Os ydych chi'n mynd draw i Lanymddyfri bore 'ma, bydd y rhestr chwarae yma yn sicrhau eich bod yn barod amdani!
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cyflwynydd The One Show, Alex Jones yw Llywydd y Dydd heddiw.
Gan ei bod hi a’i theulu bellach yn byw yn Llundain, mae’n dweud ei bod hi’n awyddus i ddod â’i phlant a’i gŵr Charlie, sydd o Seland Newydd, yma i weld pa mor “arbennig” yw’r ŵyl.
“Fydden i ddim yr un person heb yr Urdd,” meddai, wrth drafod ei hatgofion cynnar o gystadlu.
“Dyna pam fi’n neud y jobyn fi’n 'neud nawr.”
Ychwanegodd y byddai’n gyfle i gyfleu i’w phlant “pa mor bwysig yw’r Urdd i pwy y’n ni, a’n diwylliant ni”.
BBC Radio Cymru
Am 10:30 bob dydd bydd rhaglen yr Eisteddfod ar S4C, dolen allanol, gyda rhaglen uchafbwyntiau bob nos am 20:00.
Gallwch wylio'r holl gystadlu o'r pafiliynau Coch, Gwyn a Gwyrdd yn fyw ar S4C Clic, dolen allanol.
Ifan Jones Evans a Ffion Emyr sydd yn cyflwyno uchafbwyntiau o'r maes am 14:00 ar BBC Radio Cymru.
Fe roddodd Carys Edwards, cadeirydd y pwyllgor gwaith, deyrnged i‘r gwirfoddolwyr fu’n rhan o'r paratoadau yn Sir Gaerfyrddin.
“Mae hwn yn dangos pa mor bwysig ydi o fod yr eisteddfod dal yn teithio,” meddai.
“Dan ni ‘di gweld y croeso mwya’ cariadus allwch chi ei gael.”
Cyfaddefodd ei bod hi wedi bod yn “anodd ailgynnau pethau” ar y dechrau, yn dilyn oedi i’r ŵyl oherwydd y pandemig.
“Ond unwaith naethon ni gychwyn arni, 'naeth yr arian lifo i mewn,” meddai.
Mae cynhadledd i'r wasg wedi dechrau ar y maes.
Yn ôl prif weithredwr yr Urdd, Siân Lewis, mae pobl eisoes wedi bathu enw newydd i leoliad yr Eisteddfod eleni, sef Llanym-lyfli!
“Sir Gar, chi’n haeddu 10/10 am eich ymdrech eleni,” meddai.
Fe gadarnhaodd bod 8,000 o bobl wedi manteisio ar y cynnig o docynnau am ddim i’r maes i deuluoedd incwm isel.
“Mae’r Urdd heddiw yn Urdd i bawb, un sy’n adlewyrchu’r Gymru newydd.”
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
BBC Cymru Fyw
Wyt ti'n gwybod lle gafodd Eisteddfod yr Urdd ei chynnal am y tro cyntaf yn 1929?
Dyna un o gwestiynau cwis Cymru Fyw yr wythnos hon - beth am i ti roi cynnig arni?
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Roedd Indi'n un o griw Ysgol Gymraeg Bro Myrddin fu'n perfformio ddydd Sul
Roedd Indi'n rhan o'r perfformio ddydd Sul
"O'n ni 'di creu dawns o'r enw 'Tân ar y Gwaed' yn rapio a gyda phobl eraill," dywedodd.
"Oedd e'n absolutely amazing. O'dd llawer o bobl 'na, o'n ni 'di creu e 'da'r ysgol a o'dd boi o'r enw Gwilym 'di creu'r gân a chreu'r rap."
Er ei bod hi ychydig yn wyntog, mae’n ddiwrnod braf arall yn Llanymddyfri heddiw.
Efallai y bydd eli haul neu het fwced yn handi nes ymlaen!
Y stondinau ar agor erbyn hyn a chyfle i fachu het fwced liwgar!
Cofiwch lawrlwytho ap yr Eisteddfod ar eich ffôn er mwyn cael yr holl wybodaeth.
Map, amserlen, canlyniadau, gweithgareddau gŵyl Triban a mwy.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Drwy brosiect blwyddyn o hyd, ‘Prosiect 23’, mae pob plentyn o fewn ysgolion cynradd, uwchradd ac unedau arbenigol Sir Gâr wedi cael cyfle i fod yn ran o gyffro yr Eisteddfod eleni.
Celf a chrefft 'Prosiect 23'
Nod ‘Prosiect 23’ oedd addysgu pobl ifanc am hanes, traddodiadau a diwylliant eu hardal, a hynny drwy elfennau celf, yn ogystal â drama a dawns, cerddoriaeth a chanu.
Gyda phrosiect 23 a sioe Chwilio'r Chwedl oedd yn digwydd ddydd Sul, dywedodd Siân Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, fod holl blant Sir Gaerfyrddin wedi cael cyfle i gael eu cynnwys.
Siân Eirian
"'Dyn ni ddim wedi gwrthod un plentyn i fod yn rhan o'r sioe," meddai.
"Ond be' sydd yn bwysig yw ein bod ni wedi cynnwys celf a bod hwnna wedi bod yn brosiect blwyddyn, a bo' 'na 900 arall yn rhan o hwnna.
"Be' sy'n hollbwysig i'n plant a phobl ifanc ni yw ein bod ni'n cynnwys pawb."