Gwydion Rhys yw enillydd y Fedal Gyfansoddi eleni 🎶👏wedi ei gyhoeddi 14:18 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2023Newydd dorri
Ei ffugenw oedd 'Tannau Perfedd' - llongyfarchiadau mawr iawn!

Mae Eisteddfod yr Urdd 2023 wedi dechrau
Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin yw cartref yr ŵyl eleni
Mae'r plant a'r bobl ifanc wedi dechrau ar y cystadlu
Gwydion Rhys yw enillydd y Fedal Gyfansoddi eleni
Roedd y maes yn fwy llawn na'r arfer ddydd Sul gyda sioe Chwilio'r Chwedl
Ei ffugenw oedd 'Tannau Perfedd' - llongyfarchiadau mawr iawn!
Mae'r gynulleidfa yn aros yn eiddgar i glywed pwy sydd wedi ennill y Fedal Gyfansoddi.
Mae teimlad gwahanol i'r seremonïau eleni, gyda chwech Awen lliwgar yn bresennol.
Ar Lwyfan y Cyfrwy, mae prif seremoni'r dydd - Y Fedal Gyfansoddi dan 25 oed - ar fin digwydd.
Roedd gofyn i'r ymgeiswyr gyfansoddi naill ai:
a. Cylch o ganeuon ar eiriau Cymraeg o ddewis y cystadleuydd
b. Rhangan neu gytgan ar eiriau Cymraeg o ddewis y cystadleuydd
c. Cyfansoddiad i un neu ddau offeryn
ch. Cyfansoddiad i ensemble offerynnol
Y beirniaid yw Dr Owain Llwyd a Dr Daniel Bickerton
Mae wedi bod yn ddiwrnod llwyddiannus hyd yma i Ben Manville-Parry, 10, o Gaerdydd.
Ar ôl ennill yr Unawd Telyn Bl.6 ac iau, mae nawr wedi cipio’r wobr gyntaf yn yr Unawd Gitâr hefyd.
Meddai ar ôl ennill yr unawd telyn, "ro'n i'n hanner disgwyl e a hanner ddim!"
Roedd eisoes wedi ennill cystadleuaeth gwaith cartref am gyfansoddi - does dim rhyfedd bod ei deulu i gyd mor falch!
Ben a'i deulu
Wrth ymweld ag Eisteddfod yr Urdd, dywedodd ei bod yn awyddus i ddangos y "digwyddiad unigryw" i'w phlant ei hun.
Read MoreMae Lilah ac Aurora o Benrhyncoch wedi hongian neges 'pob lwc' ar goeden ddymuniadau Mistar Urdd, sydd yn y Ganolfan Groeso.
Mae Lilah'n edrych ymlaen at gystadlu yn y parti cerdd dant blwyddyn 6 ac iau gydag Ysgol Rhydypennau.
Dyma Catrin Manning a Jack Davies yn eu gwisgoedd gwynion, yn aros yn eiddgar am ganlyniad cystadleuaeth CogUrdd.
Catrin a Jack yng nghystadleuaeth CogUrdd
Briff ei chystadleuaeth y bore 'ma, meddai Catrin, oedd i goginio pryd o fwyd mewn dwy awr gan ddefnyddio cynnyrch lleol, felly aeth ati i goginio wellington cig eidion a chig oen a llysiau mewn saws gwin coch.
Cynnyrch lleol oedd ar y fwydlen gan Jack hefyd: "Fel mab ffarm, y brecwast yw'r pryd mwyaf pwysig.
"Dw i wedi gallu defnyddio cynnyrch o'n fferm ein hunain a'r ffermydd rownd ni, mewn ffordd cynaliadwy a gwneud y gorau o beth sydd 'da ni yn Sir Gâr."
Blasus!
Mae digon i'ch diddanu yng Ngŵyl Triban, ddydd Gwener a Sadwrn.
Yn yr Arddorfa, beth am fynd i sesiwn ioga gyda Mistar Urdd, i weithdy gospel gyda Chôr UAB o Alabama, neu ddisgo tawel y gwersylloedd?
Ac yn Yr Adlen, mae digon o artistiaid, fel Lily Beau, Adwaith, Mellt, gyda Dafydd Iwan yn cloi'r wythnos nos Sadwrn.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Roedd hi'n orlawn yno amser cinio...
Sioe Cyw
Mae Jac Jones wedi bod yn dathlu cael trydydd yn yr unawd cerdd dant gydag ysgytlaeth siocled (ei hoff flas!).
Mae ei rieni, Betsan a Llion, o ardal Meifod yn falch iawn ohono.
Betsan, Llion a Jac
Mae'r arlwy'n eang ac yn amlwg yn boblogaidd iawn yn yr ardal fwyd.
Gyda 10 stondin - o fyrgyr a sglodion i nŵdls a bwyd Jamaicaidd - gobeithio bod digon yma i fwydo pawb!
Mae Elen Ifan, Bardd y Mis Radio Cymru, wedi ysgrifennu cerdd am Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr.
Mae’r teulu Watts o Gaerdydd ymhlith nifer sy’n mwynhau picnic yn yr haul.
Y Teulu Watts yn mwynhau eu picnic ar y maes
Bu Joshua, 8, ar y dde yn cystadlu yn y dawnsio gwerin heddiw, a bydd yntau a’i frawd Oliver, 6, yn rhan o gyflwyniad dramatig fory.
Dydy eu chwaer fach Caitlin ddim cweit ddigon hen i gystadlu eto!
Cafodd ffans Cyw y cyfle i weld cymeriadau'r sioe wyneb yn wyneb ar y maes heddiw.
Fel arfer, dim ond ar y sgrin y mae Plwmp, Llew, Cyw a Bolgi i'w gweld, ond eleni maen nhw wedi cael dod i Lanymddyfri i weld eu holl ffrindiau.
Tair o aelodau Parti’r Efail - Isla, Seren ac Angharad - yn hapus iawn gyda thrydydd yn yr Ensemble Offerynnol.
Dywedodd Isla: “Ro’n ni’n nerfus dipyn bach, ond pan o’n i’n gwneud e ar y llwyfan o’n i fel ‘waaaaa!’”
Llongyfarchiadau ferched!
Isla, Seren ac Angharad
Emma yn cael hoe mewn trol ar ôl crwydro'r maes, gyda Tad-cu a Mam-gu.
Dyma dro cyntaf Emma yn Eisteddfod yr Urdd ond mae Peter, ei thad-cu yn hen gyfarwydd â’r ŵyl ac yntau wedi cystadlu yn 1951 yn Abergwaun!
Mae'r Eisteddfod eleni ym mro yr emynydd William Williams, Pantycelyn ac mae yna groeso arbennig i eisteddfodwyr yng nghapel Pantycelyn yn ystod yr wythnos.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Wyddoch chi bod y cyflwynydd a'r golygydd gwleidyddol, Vaughan Roderick, yn un o ddisgynyddion yr emynydd? Ddoe ar Radio Cymru bu ef a'i chwaer yn olrhain ei hanes ac yn asesu ei gyfraniad.
Mae cyfle i glywed y rhaglen yma.
Mae Vaughan Roderick yn un o ddisgynyddion William Williams, Pantycelyn
Roedd Yr Arddorfa dan ei sang ar gyfer y Sioe Cyw gyntaf yr wythnos.
Safle Cwiar Na Nog yw ardal newydd ar gyfer aelodau ifanc LHDT+ yr Urdd a’r rheiny sy’n awyddus i ddysgu mwy am y gymuned LHDT+ yng Nghymru.
Bydd llawer o hwyl i’w gael yma drwy’r wythnos gan gynnwys Disgo Distaw!
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Gethin Thomas, ei fod wedi ei syfrdanu gyda haelioni’r bobl leol cyn yr Eisteddfod.
“O’n i yn poeni na fydden ni yn cyrraedd y targed” meddai.
Gethin Thomas, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid
“O’dd gyda ni darged bo ni’n croesi £300,000, ac mae’n braf dweud ein bod ni wedi croesi’r £300,000 erbyn heddi…
"Mae’n hynod o heriol a mae’n anodd iawn ar bobl i gael dau ben llinyn ynghyd ond mae’n rhaid i ni 'weud, ry’n ni’n hynod, hynod ddiolchgar i drigolion Sir Gâr am gyfrannu.”