Crynodeb

  • Meleri Wyn James yn ennill y Fedal Ryddiaith gyda'i nofel - Hallt

  • Alison Cairns o Ynys Môn yw enillydd Dysgwr y Flwyddyn

  • "Swm sylweddol" o gyffuriau wedi'i hawlio a dyn 18 oed o Fangor wedi'i arestio ym Maes B

  • Gosod cyrffyw i blant ar y maes carafanau wedi "ymddygiad gwrthgymdeithasol"

  • Miloedd yn heidio i Faes B ar gyfer y noson gyntaf o gerddoriaeth

  1. Diolch am eich cwmni am ddiwrnod arall!wedi ei gyhoeddi 17:55 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Diolch yn fawr i chi am eich cwmni unwaith eto ar ein llif byw o'r Maes ym Moduan.

    Roedd hi'n ddiwrnod prysur arall, a llongyfarchiadau i'r llu o enillwyr!

    Os ydych chi'n ddigon lwcus i fod yn yr Eisteddfod, mwynhewch eich noson ger Llwyfan y Maes, yn y Pafiliwn, Maes B, neu ble bynnag yr ewch chi!

    Gobeithio y cawn eich cwmni eto 'fory - hwyl am y tro!

    EisteddfodFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
  2. Ennill y Fedal Ryddiaith yn brofiad 'hollol wefreiddiol'wedi ei gyhoeddi 17:48 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Yn siarad gyda'n gohebydd Alun Thomas wedi iddi ennill y Fedal Ryddiaith dywedodd Meleri Wyn James y bu'n brofiad "hollol wefreiddiol".

    Ychwanegodd y bu "hyd yn oed yn fwy arbennig" am fod ei nith yn rhan o'r ddawns ar y llwyfan.

    Dywedodd ei bod yn "hyfryd" clywed sylwadau "caredig iawn" y beirniaid, a'i bod yn rhyddhad gallu rhannu'r newyddion, a'r nofel, o'r diwedd.

    Disgrifiad,

    Meleri Wyn James

  3. Allwch chi ffeindio'r dreigiau coch o amgylch y Maes?wedi ei gyhoeddi 17:38 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Ydych chi wedi gweld rhai o ffrindiau Drew o’r Groes Goch o amgylch y Maes?

    Mae wedi dweud wrth Cymru Fyw bod pump o’r dreigiau coch yn cuddio ar draws y safle - pwy all fod y cyntaf i'w darganfod nhw i gyd?!

    Drew
  4. Dysgwr y Flwyddyn: Profiad 'emosiynol iawn'wedi ei gyhoeddi 17:26 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Yn ôl enillydd gwobr Dysgwr y Flwyddyn, Alison Cairns, roedd hi'n bwysig iddi hi ddysgu'r Gymraeg er mwyn cario'r iaith ymlaen.

    Mae'r Albanes, sydd bellach wedi ymgartrefu yn Llannerchymedd, wedi bod yn dysgu Cymraeg drwy wrando ar Radio Cymru a gwylio S4C, ochr-yn-ochr â magu saith o blant.

    "Mae hi wedi bod yn siwrne arbennig," meddai.

    Disgrifiad,

    Dysgwr y Flwyddyn 2023, Alison Cairns

  5. Dathlu 80 mlynedd o Wobr David Elliswedi ei gyhoeddi 17:18 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Yn y Babell Lên am 19:00 heno mae noson i ddathlu 80 mlynedd o Wobr David Ellis, neu'r Rhuban Glas i unawdwyr dros 25 oed.

    Bydd cyfraniadau gan rai o gyn-enillwyr y wobr, yn cynnwys Rhys Meirion, Shân Cothi, Ceri Haf Roberts, a Steffan Prys Roberts, a fu'n fuddugol yn 2017.

    Disgrifiad,

    Steffan Prys Roberts: Gwobr Goffa David Ellis - Y Rhuban Glas

  6. Hallt - 'Nofel brydferth, dyner a gorffenedig'wedi ei gyhoeddi 17:08 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Nofel am fam a’i merch 16 oed sydd ag anghenion arbennig yw Hallt, a'r ‘porth’ - testun y gystadleuaeth - yw’r trothwy rhwng byd plentyn a byd oedolyn.

    Mae’r stori’n cael ei hadrodd gan Elen, y fam, a Cari, y ferch, bob yn ail.

    Wrth i Cari aeddfedu’n gorfforol a chyfarfod pobl newydd gan gynnwys bachgen, dilema Elen a’i gŵr yw faint o ryddid i’w ganiatáu iddi.

    Cafodd y stori ei disgrifio gan y beirniaid fel un "sy’n cydio o’r dechrau gan adeiladu at uchafbwynt dramatig".

    "Nofel syml ond haenog am berthynas mam a merch ac am dderbyn pobl fel maen nhw. "Nofel brydferth, dyner a gorffenedig. Nofel ddyrchafol hefyd.”

    Meleri Wyn James
  7. Pwy ydy Meleri Wyn James?wedi ei gyhoeddi 17:02 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Cafodd ei geni a’i magu yn Llandeilo, ac fe symudodd y teulu i Beulah ger Castellnewydd Emlyn ac yna i Aber-porth.

    Fe raddiodd yn y Gymraeg o Brifysgol Aberystwyth ac astudio MA mewn Ysgrifennu Creadigol yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin.

    Fe gyhoeddodd ei llyfr cyntaf, casgliad o straeon byrion o’r enw Mwydyn yn yr Afal, ar ôl ennill Medal Lenyddiaeth Eisteddfod yr Urdd yn Nhaf Elái yn 1991.

    Yn y blynyddoedd diwethaf, cyhoeddodd y nofel Blaidd wrth y Drws i oedolion a Cors Caron, nofel i bobol ifanc.

    Mae hi’n byw yn Aberystwyth ers dros 20 mlynedd gyda’i gŵr, Sion Ilar a’u merched, Mia Seren ac Esther Alys.

    Meleri Wyn JamesFfynhonnell y llun, Y Lolfa
  8. Meleri Wyn James yw enillydd y Fedal Ryddiaithwedi ei gyhoeddi 16:56 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023
    Newydd dorri

    Meleri Wyn James o Aberystwyth sydd wedi'i chyhoeddi fel Prif Lenor Rhyddiaith yr Eisteddfod eleni, mewn cystadleuaeth a ddenodd 16 o ymgeiswyr.

    Mae hi'n awdur ac yn olygydd creadigol i wasg y Lolfa, sydd wedi cyhoeddi llyfrau ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion.

    Hi yw awdur y gyfres boblogaidd Na, Nel! i blant, yn ogystal â’r ddwy sioe Na, Nel! a lwyfannwyd ym Mhafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion y llynedd ac ym Moduan eleni.

    Hallt yw enw'r gwaith, a Fi a Ti oedd ffugenw'r enillydd.

    Meleri Wyn James
  9. Mae yna deilyngdod!wedi ei gyhoeddi 16:52 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023
    Newydd dorri

    Mae enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen ar ei thraed!

    Enillydd
  10. Beirniaid y Fedal Ryddiaith eleniwedi ei gyhoeddi 16:50 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Y beirniaid ar gyfer y gystadleuaeth eleni yw Menna Baines, Lleucu Roberts ac Ion Thomas.

    Lleucu Roberts oedd enillydd y Fedal Ryddiaith yn 2014 a 2021.

    Mae Menna Baines wrthi'n traddodi'r feirniadaeth o'r llwyfan, a cawn wybod yn fuan os oes teilyngdod...

    Menna Baines
  11. Y Fedal Ryddiaith - a fydd teilyngdod?wedi ei gyhoeddi 16:42 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Mae seremoni'r Fedal Ryddiaith newydd ddechrau yn y Pafiliwn Mawr.

    Mae'r fedal yn cael ei rhoi eleni am gyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun 'Porth'.

    Mae'r fedal a gwobr ariannol o £750 yn cael eu rhoi er cof am Robyn a Gwenan Léwis gan y teulu.

    Medal Ryddiaith
  12. Esyllt Nest Roberts de Lewis - o fro'r Eisteddfod i'r Wladfa (ac yn ôl)wedi ei gyhoeddi 16:36 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Mynd i Batagonia fel athrawes Gymraeg am flwyddyn oedd bwriad Esyllt Nest Roberts de Lewis.

    Bron i 20 mlynedd yn ddiweddarach, mae hi dal yno, yn byw yn Gaiman gyda'i gŵr, Cristian, a'u meibion, Mabon ac Idris.

    Mewn sgwrs ag Aled Hughes ar Radio Cymru, mae hi'n sôn fod y pedwar wedi teithio draw i'r Eisteddfod eleni, sy'n cael ei chynnal yn y fro lle cafodd ei magu, ac nad ydi hi am fethu eiliad ohoni!

    Esyllt ydy arweinydd Cymru a'r Byd ym Mhrifwyl Llŷn ac Eifionydd.

    Esyllt Nest Roberts de Lewis ac Aled Hughes
    Disgrifiad o’r llun,

    Esyllt Nest Roberts de Lewis ac Aled Hughes

  13. Cystadleuaeth Brwydr y Bandiau ar Lwyfan y Maeswedi ei gyhoeddi 16:28 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Brwydr y Bandiau yw’r arlwy ar Lwyfan y Maes y prynhawn 'ma.

    Bydd Alis Glyn, Francis Rees (isod), Moss Carpet a Tew Tew Tennau yn cystadlu am y brif wobr, sy’n cynnwys slot berfformio ym Maes B ar y nos Sadwrn olaf.

    Darllenwch fwy am y pedwar artist yma.

    Llwyfan
  14. Y Brifwyl ym Massachusetts?wedi ei gyhoeddi 16:21 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Yn ymweld â Chymru - a'r Eisteddfod - am y tro cyntaf mae Dan, Casey, Fergus a Roisin o Massachusetts yn yr Unol Daleithiau.

    "Byddai'n dda cael gŵyl fawr fel yma yn America," meddai Dan.

    Teulu ar y maes
    Disgrifiad o’r llun,

    Pa well flas ar Gymru na'r Brifwyl?

  15. O'r archif: Pafiliwn i 20,000 o bobl yn 1893wedi ei gyhoeddi 16:09 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Wyddoch chi fod Pafiliwn Eisteddfod Pontypridd yn 1893 â digon o seddi ar gyfer 20,000 o Eisteddfodwyr?

    Ond ddaeth hyn ddim heb ei broblemau, wrth i'r ŵyl adael dyledion o filoedd o bunnoedd (cannoedd o filoedd, yn arian heddiw) ar ei hôl i dref Pontypridd.

    Darllenwch yr hanes i gyd yma.

    Adelina Patti yn arwain canu Hen Wlad Fy NhadauFfynhonnell y llun, Henry Guttmann Collection
    Disgrifiad o’r llun,

    Darlun o Adelina Patti yn arwain canu Hen Wlad Fy Nhadau yn Eisteddfod Genedlaethol 1889 yn Aberhonddu - ond roedd pafiliwn Pontypridd 1893 yn fwy!

  16. Maes B: Dyn 18 oed o Fangor sydd wedi'i arestiowedi ei gyhoeddi 16:01 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Mae datganiad newydd ddod i law gan Heddlu Gogledd Cymru ar ôl i gyffuriau ac arfau gael eu cymryd gan staff diogelwch ym Maes B ddoe.

    Dywedodd y prif uwcharolygydd dros dro, Neil Thomas, fod "swm mawr o gyffuriau Dosbarth A a B wedi'u cymryd ddoe wrth i staff diogelwch wneud yr archwiliadau angenrheidiol wrth fynedfa Maes B.

    "Cafodd arfau eu cymryd hefyd, a gallwn gadarnhau fod dyn 18 oed o ardal Bangor wedi'i arestio ar amheuaeth o fod â chyffuriau yn ei feddiant, gyda'r bwriad o'u cyflenwi.

    "Bydd Heddlu Gogledd Cymru'n parhau i weithio'n agos gyda'r Eisteddfod a staff diogelwch er mwyn sicrhau diogelwch pawb yn yr ŵyl."

    Ychwanegodd y bydd archwiliadau'n parhau ym Maes B, ac y bydd y llu yn gweithredu yn erbyn y rheiny sydd â chyffuriau neu arfau yn eu meddiant."

    Maes B
  17. Beth oedd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain yn ei wisgo yn 1884?wedi ei gyhoeddi 15:57 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Yn ystod prif seremonïau'r wythnos yma, rydym wedi arfer â gweld derwyddon yr Orsedd yn eu gwisgoedd gwyn, glas a gwyrdd, wedi eu cadw a'u smwddio'n ofalus gan Arolygydd y Gwisgoedd, Ela Cerrigellgwm, a'i thîm o wirfoddolwyr.

    Ond roedd golwg ychydig mwy amatur a ffwrdd-â-hi ar wisgoedd 1884 yn Lerpwl... Tybed beth fyddai Ela'n ei ddweud?!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. O ddrws eich tŷ i ddrws y Steddfod!wedi ei gyhoeddi 15:50 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Un ffordd o gyrraedd y maes yn lleol yw drwy wasanaeth bws Drws i Ddrws.

    Fe gewch chi ddewis eich amser teithio ar ôl lawrlwytho ap Fflecsi.

    Mae’n mynd â chi yn llythrennol o ddrws y tŷ i ddrws y Steddfod!

    O Ddrws i Ddrws