Crynodeb

  • Meleri Wyn James yn ennill y Fedal Ryddiaith gyda'i nofel - Hallt

  • Alison Cairns o Ynys Môn yw enillydd Dysgwr y Flwyddyn

  • "Swm sylweddol" o gyffuriau wedi'i hawlio a dyn 18 oed o Fangor wedi'i arestio ym Maes B

  • Gosod cyrffyw i blant ar y maes carafanau wedi "ymddygiad gwrthgymdeithasol"

  • Miloedd yn heidio i Faes B ar gyfer y noson gyntaf o gerddoriaeth

  1. Pam ydych chi'n dod i'r Steddfod, mewn gwirionedd?wedi ei gyhoeddi 15:44 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Mae Dylan Llŷr yn gwybod...

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. Mae'r haul yn dechrau gwneud ymddangosiad! ⛅️wedi ei gyhoeddi 15:39 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Eisteddfod
  3. Dal i fwynhau ar y maes...wedi ei gyhoeddi 15:36 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Ganol prynhawn ac mae 'na ddigon o wynebau hapus i'w gweld ar y maes - gofynnwch i Neli a Leah o Gaerfyrddin...

    Dwy ferch ar y maes

    ... neu Mode a Nnamdi sy'n brysur yn cadw’r maes yn lân a thaclus...

    Dau ddyn ar y maes

    ... a'r rheiny sydd wedi llwyddo i wasgu mewn i'r Tŷ Gwerin i wylio perfformiad Pedair!

    Pabell orlawn ar y maes
  4. Alison Cairns yw enillydd Dysgwr y Flwyddynwedi ei gyhoeddi 15:30 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023
    Newydd dorri

    Alison Cairns

    Alison Cairns o Lannerchymedd sydd wedi'i chyhoeddi fel enillydd Dysgwr y Flwyddyn eleni.

    Yn wreiddiol o’r Alban mae Alison Cairns yn byw ar Ynys Môn erbyn hyn ac yn fam i saith o blant, ac yn byw ei bywyd yn y Gymraeg.

    Dechreuodd ddysgu Cymraeg drwy wrando ar BBC Radio Cymru, gwylio S4C a darllen llyfrau ei merch, ac mae’n siarad yn hyderus, a hynny heb iddi gael gwers Gymraeg ffurfiol erioed.

    Cymraeg yw iaith y teulu, ac mae Alison, sy’n gweithio ym myd gofal, yn sylweddoli pa mor werthfawr yw defnyddio ein hiaith wrth ddelio gyda chleifion.

    Mae hi’n mwynhau gweithio gyda cheffylau a chic-bocsio ac mae hi’n gneifiwr profiadol sydd wedi ennill nifer o wobrau dros y blynyddoedd.

    Disgrifiad,

    Cyfweliad ag Alison Cairns o Ynys Môn

    Cafodd 29 o unigolion eu cyfweld ar gyfer y wobr eleni, gyda Roland Davies o Lanidloes, Manuela Niemetscheck o Fethesda a Tom Trevarthen o Aberystwyth wedi ymuno ag alison ar y rhestr fer.

    Y beirniaid eleni oedd Liz Saville Roberts, Geraint Wilson Price a Tudur Owen.

    Mae Alison yn derbyn Tlws Dysgwr y Flwyddyn a gwobr ariannol o £300, yn rhoddedig gan Gyngor Tref Pwllheli.

    Bydd y tri arall yn y rownd derfynol yn derbyn £100 yr un.

  5. 'Cynlluniau arloesol i greu swyddi, cefnogi'r economi a chryfhau'r Gymraeg'wedi ei gyhoeddi 15:28 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Mae cyfres o ymyriadau i gefnogi cymunedau Cymraeg i ffynnu yn economaidd fel rhan o raglen 3 blynedd ARFOR Llywodraeth Cymru wedi cael ei datgelu gan Weinidog yr Economi Vaughan Gething a Aelod Dynodedig Plaid Cymru, Cefin Campbell ar faes y Brifwyl.

    Mae ARFOR yn rhan o Gytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru gyda Plaid Cymru.

    Mae'n adeiladu ar brofiad a gwerthusiad y rhaglen ARFOR gynharach a lansiwyd yn 2019.

    Mewn digwyddiad lansio gydag Arweinwyr Cynghorau Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gâr, amlinellodd Gweinidog yr Economi a’r Aelod Dynodedig y rhaglen a fydd yn cael ei chyflwyno gan yr awdurdodau lleol gyda’r nod o gryfhau cadernid economaidd cadarnleoedd Cymraeg – a chreu swyddi i gefnogi'r iaith.

    Mae cyllid Llywodraeth Cymru, sydd ar gael i bedwar awdurdod lleol Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin, yn cefnogi nifer o ymyriadau strategol, gan gynnwys pwyslais ar gyfleoedd i bobl ifanc a theuluoedd, i'w galluogi i aros yn eu cymunedau cartref neu ddychwelyd iddynt.

    Mae'r holl fanylion ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru., dolen allanol

    EisteddfodFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
  6. Cariad tuag at y Parti Priodaswedi ei gyhoeddi 15:16 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Roedd gwestai arbennig yng nghynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru, Parti Priodas, neithiwr, sef y Prif Weinidog Mark Drakeford.

    Steffan Donnelly, Mark Drakeford ac Angharad JonesFfynhonnell y llun, Theatr Genedlaethol Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Steffan Donnelly, Mark Drakeford ac Angharad Jones Leefe

    Rhywun sydd hefyd wedi mwynhau'r cynhyrchiad wythnos yma ydi enillydd Llyfr y Flwyddyn eleni, Llŷr Titus.

    Pwy ydych chi i ddadlau gyda dau mor bwysig?! Ewch i Caffi Maes B am 17:00 os ydych chi am ei weld drosoch chi eich hun.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. Annes Elwy: 'Edrych ymlaen' at ddod i'r Steddfodwedi ei gyhoeddi 15:09 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Mae Annes Elwy wedi sôn am ei phrofiadau yn cystadlu 'bob blwyddyn' yn yr Eisteddfod ers ei bod yn dair oed.

    Mewn sgwrs gyda Cymru Fyw am ei rôl yn y gyfres gomedi-arswyd newydd, Wolf, mae'r actores o Benarth yn cofio am ei phrofiadau yn cystadlu yn y Genedlaethol dros y blynyddoedd:

    "Adrodd oedd y prif gystadleuaeth i fi, er, es i byth yn bell iawn!"

    Yn seren ffilmiau fel Little Women a Gwledd, a chyfresi teledu fel Craith ac Y Golau, sicr, mae hi'n sicr wedi llwyddo ar y sgrin, er efallai ddim ar lwyfan y brifwyl!

    Darllenwch fwy o'r sgwrs ag Annes yma.

    Annes Elwy
    Disgrifiad o’r llun,

    Annes Elwy yn Wolf

  8. Mwy o'r Maes...wedi ei gyhoeddi 14:57 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Sioe Cyw ar Lwyfan y Maes yn denu torf fawr arall...

    Sioe Cyw

    ... Nia, Glesni a Sara o’r Bala yn mwynhu siopa ar y maes...

    Siopa

    ... a Maggi Noggi yn codi gwên ar wynebau Eisteddfodwyr ar gwch yr RNLI!

    Maggi Noggi
  9. Tai: 'Gwersi i'w dysgu gan Barcelona'wedi ei gyhoeddi 14:48 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Mae Walis George o Gymdeithas yr Iaith yn dweud bod gwersi i’w dysgu o lefydd fel Barcelona ar sut i sicrhau tai fforddiadwy.

    Mae’n dweud eu bod nhw wedi newid y ffordd maen nhw’n gweld tai, o fod yn “ased ariannol i hawl sylfaenol”.

    “Mae bellach yn ofynnol i 30% o’r stoc bresennol a 40% o ddatblygiadau newydd yno i fod yn dai fforddiadwy,” meddai Mr George.

    Ychwanegodd bod camau fel rheoli rhenti hefyd yn helpu, ac y dylai Barcelona “fod yn ysbrydoliaeth i Lywodraeth Cymru a holl awdurdodau lleol Cymru”.

    Rali

    Cyn i ymgyrchwyr y gymdeithas ‘addurno’ pabell Llywodraeth Cymru gydag arwyddion yn galw am Ddeddf Eiddo.

    Rali
  10. Tai: 'Dim problem i ogledd-orllewin Cymru yw hon'wedi ei gyhoeddi 14:40 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Rali

    Mae rali Cymdeithas yr Iaith bellach yn parhau ger pabell y llywodraeth, a’r dorf yn cael eu hannerch gan arweinydd Cyngor Sir Gâr, Darren Price.

    Mae’n dechrau drwy ddiolch i’r ymgyrchydd iaith Ffred Ffransis “am bopeth ti ‘di ‘neud dros yr achos yma”, yn dilyn ympryd o 75 awr i dynnu sylw at yr ymgyrch.

    Mae Mr Price hefyd yn mynegi “siom bod ni dal yn gorfod ymgynnull, protestio a chodi llais” dros y mater.

    “Mae ‘na argyfwng yn y sector dai,” meddai. “Mae’r farchnad rydd yn methu’n pobl ni.

    “Dim problem i ogledd-orllewin Cymru yw hon - mae ‘na bobl ifanc yng Nghaernarfon, Caerfyrddin a Chaerdydd sy’n methu canfod tai fforddiadwy i brynu neu rhentu.”

    Disgrifiad,

    Dros 100 yn protestio'r sefyllfa dai ar faes y Brifwyl

    Ychwanegodd ei bod hi’n “bwysig cydnabod” y camau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd yn y maes tai.

    Ond dywedodd bod dal “angen gwneud mwy”, gan gynnwys Deddf Eiddo a strategaeth economaidd a chymdeithasol.

  11. Drakeford yn cadarnhau na fydd yn ymgeisydd yn yr etholiad nesafwedi ei gyhoeddi 14:36 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Mae'r Prif Weinidog wedi dweud mewn sesiwn cwestiwn ac ateb ar y Maes na fydd yn ymgeisio eto i fod yn Aelod Senedd Cymru yn etholiad nesaf y Senedd.

    Yn ymateb i gwestiwn gan y Llywydd Elin Jones, fe gadarnhaodd Mark Drakeford nad yw'n dyheu am yrfa wleidyddol ar y meinciau cefn.

    Roedd wedi dweud yn 2020 nad oedd yn disgwyl aros yn ei rôl tan ddiwedd tymor presennol y Senedd.

    "Dydw i ddim am fod yn Aelod o'r Senedd ar ôl 2026, ond dydw i chwaith ddim am gamu nôl o'r ddadl a pheidio â meddwl am ddyfodol Cymru," meddai Mr Drakeford.

    MDFfynhonnell y llun, Getty Images
  12. Sgwrs â Georgia Ruth ac Iwan Huwswedi ei gyhoeddi 14:32 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Mali Ann Rees sy'n llywio sgwrs a chân gyda'r Ddau Gerddor mewn Teulu ym mhabell Encore am 17:00 brynhawn 'ma.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. Rali ar y Maes i brotestio’r sefyllfa daiwedi ei gyhoeddi 14:24 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Rali

    Mae dros 100 o bobl wedi ymgynnull ger stondin Cymdeithas yr Iaith ar y Maes ar gyfer rali i brotestio’r sefyllfa dai.

    Mae Rhys Tudur o ymgyrch Hawl i Fyw Adra yn galw am ddefnyddio grymoedd treth tir, a threthu ail dai pan mae’n cael eu gwerthu, er mwyn mynd i’r afael â’r broblem sydd mewn rhai ardaloedd.

    Ond mae’n dweud bod angen i bobl hefyd ddangos yr un brwdfrydedd i aros yn eu cymunedau.

    “Oes ‘na ddigon ohonon ni sy’n dyheu i fyw adra?” meddai.

    Gorymdaith
    Disgrifiad o’r llun,

    Bu'r criw yna'n gorymdeithio o amgylch y Maes

  14. Gwrando'n astud...wedi ei gyhoeddi 14:20 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Gruff, Casi, Ceti a Jac o Bwllheli fu'n derbyn hyfforddiant bwysig gan Cassie ar stondin Ambiwlans St John's.

    Plant yn derbyn hyfforddiant
  15. Kiri Pritchard-McLean yn trafod ei thaith dysgu Cymraegwedi ei gyhoeddi 14:13 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Eisteddfod

    Ar ddydd Mercher y dysgwyr mae’r digrifwr Kiri Pritchard-McLean wedi bod yn trafod ei thaith dysgu Cymraeg a darganfod ei hunaniaeth Gymraeg drwy ddysgu a diddanu cynulleidfaoedd.

    Bu'n trafod ei hansicrwydd wrth siarad Cymraeg yn gyhoeddus, a’r ffaith ei bod hi’n gweld hi’n anodd teimlo fel Cymraes.

    “Dwi’n gobeithio yn y dyfodol dwi’n rhugl ac yn teimlo fel fi,” meddai.

    “Sometimes ma' gen i lawer o hyder weithiau dwi ddim yn gwybod unrhywbeth - dwi ddim eisiau cael sgwrs.”

    Ymddangsodd ar raglen Iaith ar Daith gyda Maggi Noggi, a ddangosodd wir emosiwn amrwd dysgwyr wrth ddysgu’r iaith.

    Dywedodd yn ysgafn mai ei breuddwyd yw i “ddefnyddio’r cash machine yn Gymraeg"!

  16. Brwydr y Bandiau'n hollbwysig i artistiaid cyfoeswedi ei gyhoeddi 14:07 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Dywedodd un o feirniaid Brwydr y Bandiau Siôn Land mai hon yw "un o’r cystadlaethau pwysicaf yn yr Eisteddfod, yn enwedig ar gyfer cerddoriaeth gyfoes Gymraeg".

    Siôn yw drymiwr y band Alffa, ddaeth yn gyntaf ym Mrwydr y Bandiau nôl yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn yn 2017.

    Aled Llywelyn
    Disgrifiad o’r llun,

    Alffa ysgrifennodd y gân gwbl Gymraeg gyntaf i gael ei ffrydio dros filiwn o weithiau ar Spotify

    “Mae’r gystadleuaeth yn galluogi i’r artistiaid i fynd i’r cam nesaf a chael mwy o ymwybyddiaeth ar draws Gymru a thu hwnt," meddai.

    "Roedd y gystadleuaeth yn rhan hanfodol o daith Alffa a heb y gystadleuaeth fysan ni’m yn lle ‘da ni rŵan.”

  17. Oes, mae teilyngdod... ar gyfer Sash Huw Fash!wedi ei gyhoeddi 14:03 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Eisteddfod

    A 'dych chi byth yn rhy hen i gasglu sticeri yn y Steddfod, fel mae Sion Tryfil o Ynys Môn yn ei ddangos!

    EIsteddfod
  18. Pwy fydd enillydd Brwydr y Bandiau?wedi ei gyhoeddi 13:56 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Brynhawn heddiw fe gawn wybod pwy sydd wedi ennill Brwydr y Bandiau eleni, wrth i’r rownd derfynol gael ei chynnal ar Lwyfan y Maes.

    Dyma’r 19eg i’r gystadleuaeth gael ei chynnal, ac eleni ymgeisiodd 14 artist neu fand.

    Y pedwar olaf sydd wedi cyrraedd y brig yw Alis Glyn, Francis Rees, Moss Carpet a Tew Tew Tennau.

    Yn beirniadu’r gystadleuaeth eleni mae Glyn Rhys-James (Mellt), Marged Siôn (Artist ac aelod o Self Esteem), Marged Gwenllian (Y Cledrau + Ciwb), a Siôn Land (Alffa).

    Dywedodd Marged Gwenllian: “Roedd safon eleni’n wych, a nifer fawr wedi ymgeisio, oedd yn gwneud pethau’n anodd i ni, ond roedd hi’n benbleth hyfryd i’w chael.”

    Mae mwy o wybodaeth am y bandiau ar gael yma.

    bandiauFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
    Disgrifiad o’r llun,

    O'r chwith uchaf gyda'r cloc: Alis Glyn, Francis Rees, Tew Tew Tennau a Moss Carpet

  19. Tywydd picnic?wedi ei gyhoeddi 13:51 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Mae Max, Casi, Ffion, Moli ac Olivia o Fangor wedi ffeindio llecyn cyfforddus ar y gwair am eu cinio!

    Picnic

    Ac mae'r adloniant wedi dechrau ar Lwyfan y Maes!

    Llwyfan y Maes
  20. Taith iaith y Prif Weinidogwedi ei gyhoeddi 13:47 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Ym Maes D adeg gwobrwyo dysgwr y flwyddyn fe fydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cael ei holi am ei daith fel un sydd wedi dysgu’r iaith.

    Mae disgwyl iddo gyfeirio at ei waith yn arwain Cymru yn ystod y pandemig ac at ei brofiadau yn dysgu Cymraeg.

    Mae hi eleni yn 40 mlynedd ers cyflwyno Gwobr y Dysgwyr am y tro cyntaf a’r prynhawn ‘ma ym maes D fe fydd nifer o’r cyn-enillwyr yn cael aduniad.

    Mark Drakeford yn cael ei dderbyn i'r OrseddFfynhonnell y llun, Iolo Penri
    Disgrifiad o’r llun,

    Fe gafodd y Prif Weinidog ei urddo i'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol 2022