Crynodeb

  • Meleri Wyn James yn ennill y Fedal Ryddiaith gyda'i nofel - Hallt

  • Alison Cairns o Ynys Môn yw enillydd Dysgwr y Flwyddyn

  • "Swm sylweddol" o gyffuriau wedi'i hawlio a dyn 18 oed o Fangor wedi'i arestio ym Maes B

  • Gosod cyrffyw i blant ar y maes carafanau wedi "ymddygiad gwrthgymdeithasol"

  • Miloedd yn heidio i Faes B ar gyfer y noson gyntaf o gerddoriaeth

  1. Pwy fydd Dysgwr y Flwyddyn eleni?wedi ei gyhoeddi 09:13 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Fe fydd Dysgwr y Flwyddyn yn cael ei wobrwyo yn y Pafiliwn Mawr brynhawn heddiw.

    Cafodd 30 o unigolion eu cyfweld ar gyfer y gystadleuaeth eleni - y nifer uchaf erioed - gyda phedwar wedi cyrraedd y rhestr fer.

    Y rhai sydd wedi dod i'r brig yw Roland Davies o Lanidloes, Alison Cairns o Lannerch-y-medd, Manuela Niemetscheck o Fethesda a Tom Trevarthen o Aberystwyth.

    Mae'r gystadleuaeth, sy'n cael ei threfnu ar y cyd gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn dathlu ei phen-blwydd yn 40 eleni.

    Fe ddown ni â mwy o wybodaeth i chi am y pedwar yn ystod y bore!

    Manuela Niemetscheck, Roland Davies, Alison Cairns a Tom TrevarthenFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
    Disgrifiad o’r llun,

    O'r chwith i'r dde: Manuela Niemetscheck, Roland Davies, Alison Cairns a Tom Trevarthen

  2. Anrhydeddu'r Prif Lenor Rhyddiaith fydd y brif ddefodwedi ei gyhoeddi 09:06 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Seremoni anrhydeddu'r Prif Lenor Rhyddiaith fydd y brif ddefod ar lwyfan y Pafiliwn Mawr heddiw.

    Mae'r fedal yn cael ei rhoi eleni am gyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun 'Porth'.

    SIoned Erin Hughes
    Disgrifiad o’r llun,

    Sioned Erin Hughes, 24 oed, oedd enillydd y Fedal Ryddiaith y llynedd

    Y beirniaid yw Menna Baines, Lleucu Roberts ac Ion Thomas.

    Lleucu Roberts oedd enillydd y gystadleuaeth hon yn 2014 a 2021.

    Mae'r fedal a gwobr ariannol o £750 yn cael eu rhoi er cof am Robyn a Gwenan Léwis gan y teulu.

  3. Croeso i ddydd Mercher yn yr Eisteddfod Genedlaethol!wedi ei gyhoeddi 09:00 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Ydych chi'n barod am ddiwrnod prysur arall ar y maes? Neu ydych chi'n dilyn y cyfan ar y teledu, y radio neu ar eich ffôn?

    Mae llif byw Cymru Fyw yma eto heddiw i ddod â'r holl straeon, lluniau a fideos diweddaraf o'r maes.

    Mae digon i'n cadw'n brysur heddiw, o gyhoeddi enillwyr Dysgwr y Flwyddyn a'r Fedal Ryddiaith, Brwydr y Bandiau ar Lwyfan y Maes, a llu o ddigwyddiadau eraill!

    Arhoswch gyda ni am y cyfan.

    EisteddfodFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn