Crynodeb

  • Meleri Wyn James yn ennill y Fedal Ryddiaith gyda'i nofel - Hallt

  • Alison Cairns o Ynys Môn yw enillydd Dysgwr y Flwyddyn

  • "Swm sylweddol" o gyffuriau wedi'i hawlio a dyn 18 oed o Fangor wedi'i arestio ym Maes B

  • Gosod cyrffyw i blant ar y maes carafanau wedi "ymddygiad gwrthgymdeithasol"

  • Miloedd yn heidio i Faes B ar gyfer y noson gyntaf o gerddoriaeth

  1. 'Dim ymddiheuro' gan y Brifwyl am giwio Maes Bwedi ei gyhoeddi 11:22 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Ni fydd yr Eisteddfod yn ymddiheuro am y ciwio sylweddol ar gyfer Maes B nos Fawrth, meddai prif weithredwr yr ŵyl Betsan Moses.

    Fe wnaeth 2,000 o bobl gyrraedd ar noson gynta'r ardal ieuenctid, meddai ,sydd ddwywaith y nifer sydd fel arfer yn cyrraedd ar y nos Fawrth.

    Mae swyddogion yn chwilio bagiau wrth fynedfa'r maes ieuenctid fel rheol.

    "Gwell yw cymryd amser i wneud pethau’n gywir, na phoeni a rhuthro pobl i mewn," meddai, gan ychwanegu mai "llesiant pobl yw'r flaenoriaeth".

    Roedd dŵr yn cael ei gynnig i'r cannoedd yn y ciw, meddai.

    "Mae hyn yn digwydd mewn pob gŵyl."

    Ciw Maes B
  2. Maes B: 'Swm sylweddol' o gyffuriau wedi'i hawlio ac un wedi'i arestiowedi ei gyhoeddi 11:16 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023
    Newydd dorri

    Fe gafodd "swm sylweddol" o gyffuriau eu darganfod yn ogystal â chyllell wrth fynedfa Maes B nos Fawrth, yn ôl Heddlu'r Gogledd.

    Cafodd un person ifanc eu harestio, medd yr Arolygydd Darren Kane wrth y wasg ar faes y Brifwyl fore Mercher.

    "Rydyn ni'n gweithio'n agos efo’r Eisteddfod i sicrhau diogelwch pobl yn yr ŵyl."

    Fe ddaeth ei sylwadau yn dilyn ciwio sylweddol i gael mynediad i'r ardal ieuenctid ddydd Mawrth, gyda channoedd yn disgwyl oriau tan yn hwyr y nos.

    Cynhadledd i'r wasg
  3. Lansio cronfa yn y Brifwyl er cof am Dr Llŷr Robertswedi ei gyhoeddi 11:07 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Ar faes y Brifwyl heddiw bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ansio cronfa er cof am yr arbenigwr busnes, Dr Llŷr Roberts.

    Bu farw Dr Roberts yn 45 oed ym mis Mehefin tra ar wyliau yng ngwlad Groeg.

    Dr Llŷr RobertsFfynhonnell y llun, Coleg Cymraeg Cenedlaethol

    Mae Cronfa Llŷr wedi'i sefydlu mewn cydweithrediad â theulu'r diweddar ddarlithydd, oedd yn hanu o Lanrug yng Ngwynedd, a Phrifysgol Bangor ble roedd wedi ymuno â'r tîm academaidd yn gynharach eleni.

    Bydd yr arian sy'n cael ei godi yn mynd at gefnogi myfyrwyr addysg uwch gyda'u hastudiaethau cyfrwng Cymraeg.

    Darllenwch fwy am y gronfa yma.

  4. Dim Sash Huw Fash i'r traffig bore 'mawedi ei gyhoeddi 11:00 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Huw Fash

    Mae Huw 'Fash' Rees wedi cymryd at Facebook i rybuddio bod yna lawer o draffig wrth deithio i'r Steddfod bore 'ma.

    Er y traffig, cofiwch ddilyn yr arwyddion a'r trefniadau sydd mewn lle.

    Gobeithio y bydd Huw yn cyrraedd mewn pryd i wobrwyo Sash Huw Fash i fashionistas y Maes heddiw!

  5. 'Chwip o nofel' Alun Ffred wedi cipio'r Daniel Owenwedi ei gyhoeddi 10:55 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Yn o'r enillwyr mawr ddoe, heb os, oedd Alun Ffred - enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen.

    Mae eisoes yn wyneb cyfarwydd iawn, ag yntau'n un o grewyr C'mon Midffîld, a bu'n Aelod Cynulliad hefyd.

    Cafodd ei "chwip o nofel", Gwynt y Dwyrain, ei disgrifio gan y beirniaid fel un sy'n "gofyn cwestiynau pwysig am ein bywyd cyfoes".

    Disgrifiad,

    Alun Ffred

    Mae'r "nofel dditectif hynod o afaelgar" yn "creu awyrgylch ddwys heb fod yn or-ddibynnol ar ystrydebau'r ffurf", ac yn esiampl o "Noir Cymraeg ar ei orau a mwyaf gwreiddiol".

    Dywedodd Alun Ffred mai'r cyfnod clo oedd y "cyfle am y tro cyntaf, a dweud y gwir, bron a dweud erioed", iddo ysgrifennu nofel.

  6. Lluniau Dydd Mawrth yn y Brifwylwedi ei gyhoeddi 10:50 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    O Maggi Noggi i Gwilym Bowen Rhys, roedd 'na ddigon o gymeriadau ar y Maes ddoe!

    Ydych chi wedi eich cynnwys yn ein oriel luniau o'r Brifwyl ddydd Mawrth?

    Neu fe allwch chi gymryd golwg ar holl orielau'r wythnos yma.

    Eisteddfod
  7. Un digwyddiad olaf i ffans Rownd a Rownd ar y Maes...wedi ei gyhoeddi 10:44 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  8. Dysgwr y Flwyddyn: Cwrdd â Tom Trevarthenwedi ei gyhoeddi 10:38 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Disgrifiad,

    Tom Trevarthen

    Daeth Tom Trevarthen i Gymru i astudio yn y brifysgol, ond ar ôl disgyn mewn cariad ag Aberystwyth penderfynodd aros.

    Cafodd swydd yn Ysgol Henry Richard yn Nhregaron a bu'n dysgu'r iaith drwy gyfrwng gwersi ar-lein yn ystod y cyfnod clo.

    Mae Tom nawr yn astudio am radd ôl-raddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan ymchwilio i addysg yng Nghymru.

    Mae'n defnyddio'r Gymraeg yn ddyddiol, wrth gymdeithasu ac wrth weithio, ac mae'n cefnogi dysgwyr arall i ddyfalbarhau.

  9. Ioan o Gaerdydd yn mwynhau ar y Maes!wedi ei gyhoeddi 10:34 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Ioan
  10. S4C 'ddim am ymddiheuro' am Saesneg ar y sianelwedi ei gyhoeddi 10:26 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Mae S4C yn dweud na fyddan nhw'n "ymddiheuro" am gyflwyno peth Saesneg ar y sianel.

    Mae'r sianel wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod yn cychwyn sgwrs a thrafodaeth ar y defnydd o Saesneg.

    Yn ddiweddar fe gafodd S4C ei beirniadu am fod mwy o Saesneg yn ymddangosar raglenni fel Pobol y Cwm.

    Yn siarad gyda'n gohebydd Garry Owen ar y Maes, dywedodd arweinydd strategaeth Gymraeg S4C, Sara Peacock, ei bod yn "bwysig i ni fod Cymru gyfan yn cael ei weld a'i chlywed ar S4C".

    Gallwch ddarllen y stori yma'n llawn ar ein hafan.

    Sara Peacock
  11. Mae'r Maes yn dechrau prysuro!wedi ei gyhoeddi 10:19 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Mae Noa o Lanbedrog yn edrych 'mlaen am Sioe Cyw...

    Noa

    ... a Ryan, Henry a Caleb o Ynys Môn, wedi gwneud eu ffordd i'r Maes yn gynnar, o ystyried y buon nhw'n aros ym Maes B neithiwr!

    Ryan, Henry a Caleb
  12. Dysgwr y Flwyddyn: Cwrdd â Manuela Niemetscheckwedi ei gyhoeddi 10:13 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Disgrifiad,

    Manuela Niemetscheck

    Yn wreiddiol o Ganada, mae Manuela Niemetscheck yn byw ym Methesda gyda'i theulu, gan weithio fel seicotherapydd celf yn Ysbyty Gwynedd.

    Mae Manuela'n siarad pum iaith, a dysgodd Gymraeg drwy Wlpan - cwrs i ddysgwyr - a mynychu canolfan iaith Nant Gwrtheyrn.

    Cafodd ei hysbrydoli i ddysgu'r iaith gan ei bod yn credu bod defnyddio Cymraeg mewn gwasanaethau iechyd meddwl yn bwysig, a nodir bod "ei chyfraniad i ddarparu gwasanaethau Cymraeg yn benodol yn Uned Hergest yn enfawr".

    "Mae Manuela'n byw ei bywyd yn Gymraeg ac mae'n angerddol dros ein hiaith," meddai un o'i ffrindiau.

  13. Pinc yw'r lliw ar y Maes heddiw!wedi ei gyhoeddi 10:09 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Mae ein criw ar y Maes wedi dod ar draws Jennifer a’i ffrind o Rydaman y bore 'ma - roedd hi'n anodd eu methu nhw!

    Maen nhw'n credu y dylen nhw ennill Sash Huw Fash heddiw yn eu pinc llachar, ar ôl matsio’n anfwriadol!

    Eisteddfod
  14. Sgwrsio am gariad y Prif Weinidog tuag at gaws...wedi ei gyhoeddi 10:04 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, ar y Maes heddiw, a bydd yn cael sgwrs gyda'r Llywydd, Elin Jones, ym mhabell y Cymdeithasau 2 am 11:30 bore 'ma.

    Mae'n siŵr y bydd ‘Criced, Caws a’r Clarinet’ yn fewnwelediad diddorol i mewn i ymennydd y gwleidydd, a rannodd mewn cyfweliad unwaith ei fod 'wir yn hoffi caws'- (yn enwedig caws Caerffili).

    Lwcus bod yna ddigon o gawsiau blasus yma yng Nghymru!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. Brecwast a choffi ar y Maes ar ôl noson ym Maes Bwedi ei gyhoeddi 09:57 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Dau sydd wedi gwneud eu ffordd i'r Maes ben bore i chwilio am frecwast a choffi ar ôl aros ym Maes B neithiwr ydy Emily Rudge o Aberdaron ac Alaw Robyns o Edern.

    Fe fuon nhw'n disgwyl am bron i bedair awr i fynd i mewn i'r safle gwersylla ddoe, ond maen nhw'n edrych ymlaen at gyfarfod ffrindiau sy'n ymuno efo nhw heno.

    Emily ac Alaw

    Ac mae eraill yn mentro am frecwast ychydig yn fwy swmpus!

    Eisteddfod
  16. Dysgwr y Flwyddyn: Cwrdd ag Alison Cairnswedi ei gyhoeddi 09:51 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Disgrifiad,

    Alison Cairns

    Yn wreiddiol o'r Alban, mae Alison Cairns, sy'n fam i saith o blant, bellach yn byw yn Ynys Môn.

    Dechreuodd ddysgu'r iaith drwy wrando ar BBC Radio Cymru, gwylio S4C a darllen llyfrau ei merch.

    Mae'n siarad yn hyderus, meddai, a hynny heb gael gwers Gymraeg ffurfiol erioed.

    Yn ogystal ag yn y cartref, mae Alison hefyd yn defnyddio'r iaith yn ei swydd ym myd gofal wrth ymdrin â chleifion.

    Mae'n mwynhau gweithio gyda cheffylau a chic-bocsio ac mae hi'n gneifiwr profiadol sydd wedi ennill nifer o wobrau.

  17. Ciwiau Maes B wedi parhau tan yn hwyr nos Fawrthwedi ei gyhoeddi 09:46 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Roedd ciwiau hir i gael mynediad i Faes B ddoe, gyda channoedd o bobl ifanc wedi bod yn disgwyl oriau, hyd yn oed yn hwyr i'r nos.

    Er bod y cae gwersylla wedi agor erbyn 13:00 - awr yn hwyrach na'r disgwyl - bu cannoedd o bobl yn parhau i giwio am oriau i gael mynediad yno.

    Dywedodd un person ifanc wrth BBC Cymru Fyw ei bod wedi disgwyl pedair awr a hanner - o 12:00 tan 16:30 - er mwyn cael mynediad i'r safle gwersylla.

    Doedd y ciw ddim wedi gwella erbyn gyda'r nos chwaith, gyda rhai'n dweud am 19:00 eu bod wedi disgwyl am bedair awr, a'u bod yn dal i ddisgwyl.

    Ciw maes BFfynhonnell y llun, Ifan Rees
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd rhai wedi bod yn ciwio am dros bedair awr am 19:00 nos Fawrth

    Dywedodd yr Eisteddfod mewn datganiad nos Fawrth: "Mae dros 2,000 o bobl ifanc wedi cyrraedd Boduan yn barod, sydd yn llawer mwy na'r niferoedd sy'n arfer cyrraedd ar ddechrau'r ŵyl fel rheol, ac rydyn ni wrthi'n prosesu pawb ar hyn o bryd, ac mae hyn, wrth gwrs yn cymryd amser.

    "Mae digonedd o ddŵr ar gael i bawb sy'n disgwyl, ac mae tîm Maes B yn gweithio'n gyflym i brosesu pawb cyn gynted â phosibl."

    Mae mwy ar y stori yma ar ein hafan.

  18. Wyneb digon cyfarwydd ar y maes...wedi ei gyhoeddi 09:39 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Yn edrych ymlaen at ddiwrnod arall yn yr Eisteddfod, roedd Bryn Fôn a'i wraig Anna ar y maes ben bore - ac wrthi'n cael sgwrs yn stondin Yes Cymru.

    Tri pherson mewn stondin ar y maes
    Disgrifiad o’r llun,

    Cot a sbectol haul - gwisg anffurfiol y Brifwyl?

  19. Dysgwr y Flwyddyn: Cwrdd â Roland Davieswedi ei gyhoeddi 09:34 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Disgrifiad,

    Roland Davies

    Fe wnaeth Roland Davies, o ardal Llanidloes, ddechrau dysgu Cymraeg ar ôl cwrdd â'i wraig, Fflur.

    Mae gan y pâr dri o blant a Chymraeg yw iaith y cartref. Mynychodd wersi Cymraeg, a threuliodd wythnos yn Nant Gwrtheyrn, tra hefyd yn defnyddio Duolingo a Say Something in Welsh i ymarfer yn ei amser rhydd.

    Mae Roland hefyd yn perfformio gyda Chwmni Theatr Maldwyn ac mae newydd orffen teithio Cymru yn chwarae un o'r prif rannau yn sioe 'Y Mab Darogan'.

    Cafodd ei enwebu am y wobr "oherwydd ei ymdrech ryfeddol i ddysgu Cymraeg ac am ei defnyddio'n ddyddiol gyda'r teulu, yn y gymuned ac yn y gwaith".

  20. Dechrau llwydaidd, ond sych, i ddydd Mercherwedi ei gyhoeddi 09:26 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Peidiwch a phoeni'n ormodol os y'ch chi wedi anghofio'r eli haul adre'...

    Ond does dim disgwyl glaw am y deuddydd nesaf!

    Maes
    Maes