Crynodeb

  • Meleri Wyn James yn ennill y Fedal Ryddiaith gyda'i nofel - Hallt

  • Alison Cairns o Ynys Môn yw enillydd Dysgwr y Flwyddyn

  • "Swm sylweddol" o gyffuriau wedi'i hawlio a dyn 18 oed o Fangor wedi'i arestio ym Maes B

  • Gosod cyrffyw i blant ar y maes carafanau wedi "ymddygiad gwrthgymdeithasol"

  • Miloedd yn heidio i Faes B ar gyfer y noson gyntaf o gerddoriaeth

  1. Rhai'n cwrdd â hen ffrindiau, eraill yn gwneud rhai newyddwedi ei gyhoeddi 13:41 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Roberta o Bontlllyfni, Siân o Aberystwyth a Tesni o Lanrwst - ffrindiau coleg yn dal i fyny yn y Pentref Bwyd cyn mynd i Stondin Prifysgol Bangor i ddal fyny â’r gweddill...

    Ffrindiau

    ... tra bod llu o blant yn mwynhau Sioe Stwnsh yn yr Emporiwm!

    Eisteddfod
  2. Llareggub a'r Merched ar Lwyfan y Maes🎺🎶👏wedi ei gyhoeddi 13:35 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Band Pres Llareggub a Merched yn neud Miwsig oedd perfformiad olaf y noson ar Lwyfan y Maes nos Fawrth, o flaen tyrfa o gannoedd.

    Roedd hi'n amlwg fod pawb wedi cael llawer o hwyl!

    Nid yw’r post yma ar Instagram yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Instagram
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges instagram

    Caniatáu cynnwys Instagram?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges instagram
  3. Tylluanod ar y Maes 😮wedi ei gyhoeddi 13:27 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Elsa’r Dylluan gydag Islwyn Jones o Pen y Bryn Falconry yn Llanfihangel Glyn Myfyr, a Kerry Ferguson o Gee Cambria Aberystwyth.

    Tylluan

    A dyma Blodwen y dylluan gydag Olwen o Gyrfa Cymru!

    Tylluan
  4. Agweddau ar ddyn: RS Thomas yn yr Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 13:22 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Jon Gower, Sian Parri a Jason Walford Davies sy'n trafod y bardd o Gaerdydd mewn sgwrs arbennig ym mhabell y Cymdeithasau am 15:00.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Beth am gerddoriaeth dros ginio?wedi ei gyhoeddi 13:14 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Plu oedd yn diddanu ym Maes D y prynhawn 'ma.

    Dyma un o nifer o gigs y chwiorydd a'r brawd, Elan, Marged a Gwilym, yn ystod wythnos yr Eisteddfod - gyda'r un diwethaf yn Tŷ Gwerin am 19:00 heno.

    Band o dri yn perfformio mewn pabell
  6. 'Ni’n gwneud busnes da hyd yn oed ar ôl 18:00'wedi ei gyhoeddi 13:01 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Cerys

    Mae Cerys, sy’n gweithio yn stondin ‘Y Lein’, yn canmol busnes yn yr Eisteddfod.

    “Mae busnes ar y Maes yn mynd yn rili good.

    “O'n ni ddim mor brysur ddydd Sadwrn achos y glaw, ond unwaith mae’r haul 'di dod mas 'dan ni’n rili brysur!

    "'Naethon ni ddweud bo' ni’n cau am 18:00, ond 'dan ni’n cadw ar agor yn hwyrach gan bod pobl yn pasio i fynd at lwyfan y maes, felly ni’n gwneud busnes da hyd yn oed ar ôl 18:00.

    “'Dan ni’n aros ar agor tan tua 19:00-20:00. Allen ni fod ar agor drwy’r nos!”

  7. A fydd y tywydd yn troi?wedi ei gyhoeddi 12:54 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Megan o griw Tywydd S4C sydd â'r rhagolygon diweddaraf ym Moduan - a gobaith am ychydig o heulwen erbyn diwedd y prynhawn ☀️

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  8. Y Prif Weinidog: Y person prysuraf ar y Maes?wedi ei gyhoeddi 12:49 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Mae'n siŵr mai Mark Drakeford yw'r person prysuraf ar y Maes heddiw!

    Mae sawl stondin wedi rhannu lluniau ohono, ac mae ein criw ni ym Moduan newydd ei weld yn cael ei gyfweld gan Heledd Cynwal.

    Cyfweliad
    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. Cofio ffasiwn Eisteddfod Pwllheli 1955wedi ei gyhoeddi 12:39 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Oedd gwisg Gymreig yn orfodol mewn Steddfodau a fu?!

    Mae cyfrif Instagram Casgliad y Werin wedi rhannu llun o ferched mewn gwisg draddodiadol ar draeth Pwllheli yn ystod wythnos yr Eisteddfod yn 1955.

    Tybed beth yw gwisg nodweddiadol y brifwyl y dyddiau yma? Welis, hwdi a het fwced?!

    Nid yw’r post yma ar Instagram yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Instagram
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges instagram

    Caniatáu cynnwys Instagram?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges instagram
  10. RNLI Cymru nôl ar y Maeswedi ei gyhoeddi 12:30 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    RNLI Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Mali Parry Jones (chwith) gydag aelodau eraill yr RNLI o ardal y Steddfod

    Mae gan RNLI Cymru stondin ar y Maes eleni am y tro cyntaf ers blynyddoedd, gan fod yna sawl bad achub yn ardal y Steddfod.

    Mewn rhaglen arbennig ar Radio Cymru, cafodd John ac Alun sgwrs gyda Mali Parry Jones o fad achub Porthdinllaen, sydd wedi bod yn gwasanaethu'r ardal ers bron i 160 o flynyddoedd.

    “Oedd y bad achub cynta' yn 1864," eglurodd Mali.

    "Pethau 'di newid ers hynny... diolch byth ‘da ni ddim yn rhwyfo erbyn hyn!

    "Bad achub efo hwyliau hefyd wedi bod dros y blynyddoedd, ond cychod efo injans wedi dod bellach.”

  11. Pwy sy'n perfformio ym Maes B?wedi ei gyhoeddi 12:23 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Heno fe fydd Maes B yn cychwyn go iawn wrth i'r artistiaid gynta' gamu i'r llwyfan - dyma drefn yr arlwy...

    Cofiwch fod yr holl wybodaeth am yr ardal ieuenctid ar gael ar wefan Maes B., dolen allanol

    Nid yw’r post yma ar Instagram yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Instagram
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges instagram

    Caniatáu cynnwys Instagram?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges instagram
  12. Tips yr heddlu i gadw plant yn ddiogel ar y Maeswedi ei gyhoeddi 12:13 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Dyma ambell air o gyngor gan PC Tony i gadw plant a rhieni yn ddiogel yn yr Eisteddfod:

    • Dylai rhieni roi bandiau ar fraich eu plentyn hefo’u rhif ffôn arno rhag ofn iddyn nhw fynd ar goll - mae bandiau ar gael yn stondin yr heddlu;
    • Dylid trefnu man cyfarfod ar gychwyn y dydd;
    • Dylid atgoffa’r plant ble mae stondin yr heddlu os mewn angen;
    • Dylid atgoffa’r plant fynd at rywun dibynadwy e.e mam a’i phlentyn neu rywun mewn iwnifform os mewn trafferth neu ar goll.

    “Mae’r Heddlu yma i helpu," meddai PC Tony.

    PC Tony
  13. Canmol y cawodydd (y rhai ymolchi, nid y glaw!)wedi ei gyhoeddi 12:08 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Canmol cawodydd
  14. Datganiad yr Eisteddfod am 'ymddygiad gwrthgymdeithasol' ar y maes carafanauwedi ei gyhoeddi 12:00 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Disgrifiad,

    Datganiad Maes Carafanau'r Eisteddfod

    Dyma'r datganiad gan gyfarwyddwr strategol yr Eisteddfod, Gwenllian Carr, yn y gynhadledd i'r wasg y bore 'ma am "ymddygiad gwrthgymdeithasol” yn y maes carafanau.

    Oherwydd hynny, mae cyrffyw i blant dan 16 oed am 23:00 bob nos o hyn ymlaen.

    Ychwanegodd Ms Carr y bydd y plant, a'u rhieni neu ofalwyr, yn cael eu gyrru o'r safle os yw'r digwyddiadau'n parhau.

  15. Dydd Mercher, ac mae cyflwynwyr Radio Cymru yn dechrau mynd yn wirion...wedi ei gyhoeddi 11:55 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Dewch ar wibdaith gyda Steffan Rhys Hughes, sydd yn cyd-gyflwyno O'r Maes ar BBC Radio Cymru gyda Shân Cothi a Ffion Emyr.

    Disgrifiad,

    Dydd Mercher, ac mae cyflwynwyr Radio Cymru yn dechrau mynd yn wirion...

  16. Mwy o'r Maes...wedi ei gyhoeddi 11:50 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Mae Elgan, Melisa a Sharon Goddard o Gerrigydrudion wedi dod am dro i’r Eisteddfod am y diwrnod...

    Elgan, Melisa a Sharon Goddard

    ...a dyma Mick a'i gi Dill efo’r tren gwyrdd!

    Mick a Dill
  17. Mae'r cystadlu wedi dechrau yn y Pafiliwn Mawrwedi ei gyhoeddi 11:45 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Y corau ieuenctid sydd wrthi ar lwyfan y Pafiliwn Mawr bore 'ma, cyn y cystadlaethau Unawd Bariton/Bas a Mezzo Soprano/Contralto dan 25 oed ddechrau'r p'nawn.

    I'ch atgoffa, prif seremoni'r dydd yw'r Fedal Ryddiaith am 16:30.

    Gallwch wylio'r cwbl ar Sedd yn y Pafiliwn.

    Merched Plastaf
    Disgrifiad o’r llun,

    Merched Plastaf oedd y cyntaf ar y llwyfan

  18. Porthmadog yn ailgylchu arwyddion...wedi ei gyhoeddi 11:39 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Mae arwydd Eisteddfod Porthmadog 1987 yn cael ei ddefnyddio yn nhref Port i nodi Eisteddfod eleni.

    Mae Martin Pritchard ar Twitter wedi sylwi ar yr hen arwydd, sydd yn rhan o'r holl addurniadau sy'n harddu bro Llŷn ac Eifionydd.

    Arbed, ailddefnyddio, ailgylchu...

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. 'Byddwch yn gefnogol i bobl sy'n dysgu'wedi ei gyhoeddi 11:32 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023

    Gyda Dysgwr y Flwyddyn yn cael sylw mawr heddiw, a'r awydd i ddysgu'r Gymraeg ar gynnydd, mae 'na alw hefyd felly am fwy o diwtoriaid.

    Roedd Bethan Glyn, enillydd tlws y tiwtor eleni, yn trafod y mater ar Dros Frecwast y bore 'ma.

    "Mae o'n faes hynod o ddifyr a diddorol i fod yn rhan ohono fo. Mae'n swydd gwerth ei gwneud," meddai Bethan, sydd o Forfa Nefyn yn wreiddiol ond sydd bellach yn byw yng Nghaernarfon.

    "Y peth pwysig ar ôl dysgu, dwi'n meddwl, ydi cefnogi pobl, a'u galluogi nhw i ddysgu.

    "'Da ni'n lwcus mewn ardaloedd fel hyn - mae 'na gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gymuned.

    "Felly os ydych chi'n rhan o gymuned Gymraeg, byddwch yn gefnogol i bobl sy'n dysgu - rhowch y cyfleoedd iddyn nhw, byddwch efo dipyn o amynedd, peidiwch troi at Saesneg."

    Bethan Glyn
  20. Cyrffyw i blant ar y maes carafanau wedi 'ymddygiad gwrthgymdeithasol'wedi ei gyhoeddi 11:24 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2023
    Newydd dorri

    Ychwanegodd cyfarwyddwr strategol yr Eisteddfod, Gwenllian Carr, fod cwynion wedi bod ar y maes carafanau am "ymddygiad gwrthgymdeithasol”.

    Oherwydd hynny, mae cyrffyw i blant dan 16 oed am 23:00 bob nos o hyn ymlaen.

    Dywedodd y prif weithredwr Betsan Moses mai dyma'r tro cyntaf i hynny ddigwydd tra'i bod hi yn y swydd, ond fod angen “sicrhau diogelwch pawb”.

    Ychwanegodd y bydd swyddogion diogelwch ar y maes carafanau o hyn ymlaen.

    Maes carafanau