Betsan Moses: 'Ydy Steddfod wyth diwrnod yn rhy hir?'wedi ei gyhoeddi 20:41 Amser Safonol Greenwich+1 11 Awst 2023
Prif weithredwr yr Eisteddfod yn dweud y bydd hyd yr ŵyl un o'r pethau i'w drafod, wrth wahodd sgyrsiau am ei dyfodol.
Read MoreAlan Llwyd yw'r Prifardd buddugol a hynny am y trydydd tro
Seremoni olaf yr Archdderwydd presennol - Myrddin ap Dafydd
Pedair yw enillwyr Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn
Athro Alan Shore yw enillydd y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg
Rownd derfynol Ymryson Barddas
Prif weithredwr yr Eisteddfod yn dweud y bydd hyd yr ŵyl un o'r pethau i'w drafod, wrth wahodd sgyrsiau am ei dyfodol.
Read MoreDiolch o galon am eich cwmni ar ein tudalennau byw o'r maes ym Moduan 💛
Bu'n wythnos hynod brysur rhwng yr holl seremonïau, y cystadlu a gigio!
Mae 'na ragor i ddod ar y maes ac ar BBC Radio Cymru ac S4C wrth gwrs, felly mwynhewch.
Tan Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024 felly, hwyl am y tro 👋😎
Alan Llwyd fu'n sgwrsio â BBC Cymru Fyw...
Iwan Griffiths fydd yn holi Alan Llwyd am 18:00 - cofiwch wrando! , dolen allanol
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ym Maes B heno fe fydd y perfformiad theatrig cyntaf erioed yno.
Mae ‘Popeth ar y Ddaear’ yn gyd-gynhyrchiad gan gwmni y Frân Wen a’r Eisteddfod.
Dyma gyfle i gamu mewn i fyd yn y dyfodol agos ac i barti ola’r byd ym Maes B.
Dyma barti, dywedir, a fydd yn codi cwestiynau mawr am ein dyfodol – gyda thrychineb catastroffig wedi boddi cymunedau.
Yr awduron yw Marged Tudur, Mari Elen, Iestyn Tyne a Lauren Connelly gyda cherddoriaeth gan Osian Williams, Candelas.
... mae hufen iâ yn galw 🍦
Glenys Owen oedd yn cyflwyno’r Corn Hirlas yn Eisteddfod Bro Dwyfor 1975...
Caniatáu cynnwys Instagram?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.
...ac Anni Llŷn sydd â’r un dasg yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023.
"Yr oedd hi'n glir o'r dechrau mai Llanw a Thrai yw cynganeddwr gorau'r gystadleuaeth," dywedodd y beirniaid oedd yn traddodi, Karen Owen.
"Yn bersonol, fe dyfodd y gwaith hwn arnaf efo pob darlleniad," ychwanegodd wrth gyfeirio at waith Alan Llwyd.
"Er mai stori gyfarwydd iawn i Gymry Cymraeg ein cyfnod ni sydd yma, sef gadael bro cyn dychwelyd ddegawdau'n ddiweddarach yn llawn hiraeth euog.
“Y bardd hwn, yn fwy na neb arall, a gafodd y weledigaeth gliriaf ar gyfer ei destun.
"Dyma’r bardd hefyd a lwyddodd orau i droi’r weledigaeth honno yn farddoniaeth ddealladwy, ddarllenadwy sy’n rhoi mwynhad."
Yn un o brifeirdd mwyaf amlwg Cymru, llwyddodd Alan Llwyd i ennill y ‘dwbl’, sef y Gadair a’r Goron yr un flwyddyn ddwywaith yn 1973 ac 1976.
Alan yw’r bardd cyntaf, ers llacio’r rheol ‘ennill dwy waith yn unig’, i ennill y Gadair am y trydydd tro
Darllenwch ragor yma.
'Llanw a Thrai' yw ffugenw'r buddugol.
Dilynwch y llif byw wrth i ni aros i glywed yr enw yn swyddogol neu gwyliwch yma.
I'ch atgoffa, beirniaid cystadleuaeth y Gadair eleni yw Karen Owen, Cathryn Charnell-White a Rhys Iorwerth.
Rhys oedd enillydd y Goron ddydd Llun.
Llŷr Gwyn Lewis oedd enillydd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022.
Ceisiodd 14 o bobl am y wobr - y nifer fwyaf ers dros 30 mlynedd.
Daeth Llŷr, sy'n wreiddiol o Gaernarfon, yn ail am Gadair y Genedlaethol yn 2017 ac yn drydydd yn 2018.
Ond daeth i'r brig mewn cystadleuaeth a oedd, yn ôl y beirniaid, yn "ardderchog".
Heddiw fydd seremoni olaf yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd.
Cafodd ei gyfnod ef ei ymestyn yn sgil gohirio Eisteddfodau oherwydd y pandemig.
Fe fydd yn cael ei olynu gan Mererid Hopwood ac fe wnaeth ddiolch i Myrddin ap Dafydd "am ei arweiniad" yn ystod seremoni'r Cadeirio ddydd Gwener.
Hi fydd yr ail fenyw i ymgymryd â'r rôl, yn dilyn cyfnod Christine James rhwng 2013 a 2016.
Y Cadeirio yw'r prif seremoni ar ddydd Gwener y Steddfod.
T. Llew Jones oedd enillydd y Gadair yng Nglyn Ebwy yn 1958 - tybed a fydd teilyngdod heddiw?
Mae'r Seremoni'r Cadeirio ar fin dechrau ym Moduan
Mae'r Gadair eleni wedi ei chreu gan Stephen Faherty sy'n byw ger Rhuthun ond yn hanu o Bren-teg, ger Porthmadog.
Roedd y Lôn Goed - y llwybr hanesyddol pwysig ger Chwilog sy'n ffinio Llŷn ac Eifionydd, ac a gafodd ei hanfarwoli yn y gerdd Eifionydd gan R. Williams Parry - yn ysbrydoliaeth i'r Gadair a'r Goron eleni.
Cerflunio yw arbenigedd Stephen Faherty, a naddodd y Gadair eleni o ddarn mawr o goeden dderw a gafodd ei phlannu ar ymyl y Lôn Goed dros 200 mlynedd yn ôl.
Fe gafodd y dderwen gyfan ei chwythu ilawr yn ystod Storm Darwin yn Chwefror 2014, ac fe gyflwynodd Eifion Williams, Tyddyn Heilyn ddarn ohoni i'r Eisteddfod pan glywodd fod y Brifwyl i'w chynnal yn lleol.
Mae'r Gadair felly yn un o'r ychydig rai fydd wedi ei naddu, yn hytrach na'i chreu o ddarnau gwahanol, ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.
"Mae'n ddarn arbennig o bren, ac roedd o'n gweddu i'w gerfio i gadair," meddai Mr Faherty.
Fe fydd enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023 - os y bydd teilyngdod - yn cael ei gyhoeddi cyn hir.
Beirniaid y gystadleuaeth eleni oedd Karen Owen, Cathryn Charnell-White a Rhys Iorwerth.
Roedd gofyn i ymgeiswyr gyfansoddi awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol, hyd at 250 o linellau ar y testun 'Llif'.
Fe fydd y buddugol yn cael Cadair, er cof am Dafydd Orwig, a £750.