Crynodeb

  • Alan Llwyd yw'r Prifardd buddugol a hynny am y trydydd tro

  • Seremoni olaf yr Archdderwydd presennol - Myrddin ap Dafydd

  • Pedair yw enillwyr Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn

  • Athro Alan Shore yw enillydd y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg

  • Rownd derfynol Ymryson Barddas

  1. Traed yn blino ar ôl crwydro'r maes?wedi ei gyhoeddi 12:16 Amser Safonol Greenwich+1 11 Awst 2023

    Dim problem... os ydy Mam yn teimlo'n glên... ac yn gryf!

    Mam a merch ar y maes
    Disgrifiad o’r llun,

    Mali a Prydwen o’r Bala yn mwynhau'r maes fore Gwener

  2. Edrych 'nôl ar y cystadlu hyd yma... 🥇wedi ei gyhoeddi 12:12 Amser Safonol Greenwich+1 11 Awst 2023

    Dyw hi ddim yn 'Steddfod heb y cystadlu, ac y'n ni wedi bod yn cadw golwg ar holl ganlyniadau'r Brifwyl ym Moduan.

    Ewch i'n tudalen ganlyniadau i weld pwy ddaeth i'r brig a chlipiau o'r perfformiadau!

    Disgrifiad,

    Côr Cambria ddaeth i'r brig yn nghystadleuaeth y Côr Dysgwyr ddoe

  3. Pwy ti'n ei alw'n bengwin?!wedi ei gyhoeddi 12:06 Amser Safonol Greenwich+1 11 Awst 2023

    Guto, Noa a Taid wedi dod dros y caeau o Gilgwyn i gael blas ar yr Eisteddfod.

    Guto, Noa a Taid
    Disgrifiad o’r llun,

    Guto, Noa a Taid

  4. A yw wyth diwrnod o 'Steddfod yn rhy hir?wedi ei gyhoeddi 11:55 Amser Safonol Greenwich+1 11 Awst 2023

    Mewn sgwrs yn ardal Maes D am strategaeth yr Eisteddfod, mae’r prif weithredwr Betsan Moses yn dweud eu bod yn awyddus i drafod sut ddylai’r ŵyl edrych yn y dyfodol.

    Sgwrs ar y maes

    Ond bydd yr Eisteddfod hefyd yn gorfod edrych ar bethau o safbwynt costau, ac ystyried beth sy’n gynaliadwy.

    “Ydi wyth diwrnod yn rhy hir?” meddai, wrth gyfeirio at un esiampl.

    “Mae hwnna’n rhywbeth bydd y bwrdd yn gorfod edrych arno.”

    Mae’n dweud bod llawer o bethau sy’n cael eu llogi ar gyfer yr Eisteddfod yn gorfod cael cytundebau o bythefnos.

    “Mae ‘na reswm pam bod lot o wyliau yn bump diwrnod,” meddai.

  5. Mae'r cystadlu wedi dechrau ar lwyfan y Pafiliwn Mawrwedi ei gyhoeddi 11:45 Amser Safonol Greenwich+1 11 Awst 2023

    Cystadleuaeth gynta'r dydd yw'r Grŵp Offerynnol Agored, cyn cystadlaethau'r Unawdau dros 25 tan ganol y prynhawn.

    Gallwch wylio'r cyfan ar Sedd yn y Pafiliwn.

    Ysgol Delyn Derwent
    Disgrifiad o’r llun,

    Ysgol Delyn Derwent oedd y cyntaf i gystadlu yn y Grŵp Offerynnol Agored

  6. 'Profiad cwbl anhygoel'wedi ei gyhoeddi 11:43 Amser Safonol Greenwich+1 11 Awst 2023

    BBC Radio Cymru

    "Mae 'di bod yn fraint ac anrhydedd cael gweithio efo cenedlaethau o blant a phobl ifanc," dywedodd Siân Eirian ar Radio Cymru ar ôl cael ei hurddo.

    "Wrth edrych yn ôl mae wedi bod yn brofiad cwbl anhygoel."

    Sian Eirian

    Un arall gafodd ei hurddo oedd yr Athro Laura McAllister a dywedodd ei fod yn "golygu cymaint iddi".

    "Mae'n hynod o arbennig i fi yn bersonol - cael rhywbeth gan eich cenedl eich hun i gydnabod be' 'dan ni gyd yn 'neud i sicrhau'r iaith, ond hefyd sicrhau statws Cymru ar lwyfan y byd.

    Laura McAllister
  7. Ymweliad â'r Eisteddfod... ym mhen draw'r bydwedi ei gyhoeddi 11:34 Amser Safonol Greenwich+1 11 Awst 2023

    Cafodd Mared Elin Dafydd sioc ar ei hymweliad ag Awstralia yn ddiweddar, pan gafodd wahoddiad i fynd i'r Eisteddfod... a hynny ochr arall y byd!

    "Doedd pobl ddim i'w weld yn ymwybodol ei fod e wedi dod o Gymru!"

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  8. Eisteddfod: 'Angen mwy o statws i gerddoriaeth werin'wedi ei gyhoeddi 11:30 Amser Safonol Greenwich+1 11 Awst 2023

    Mae rhai telynorion wedi lleisio'u siom nad oes cystadleuaeth i unawdwyr offerynnol gwerin yn y Tŷ Gwerin.

    Read More
  9. Edrych ymlaen at Eisteddfod 2024!wedi ei gyhoeddi 11:27 Amser Safonol Greenwich+1 11 Awst 2023

    Bethan a Huw o Creigiau sy’n edrych ymlaen i groesawu’r Eisteddfod flwyddyn nesa' i Rondda Cynon Taf!

    “Ni’n edrych ymlaen yn fawr i gael yr Eisteddfod yn ein ardal ni! Ma fe’n gyffrous!”

    Bethan a Huw
  10. Llenyddiaeth gwyddonias yn Gymraegwedi ei gyhoeddi 11:24 Amser Safonol Greenwich+1 11 Awst 2023

    Yn ffan o lyfrau ffuglen gwyddonias ac arswyd Cymraeg? Ewch draw i'r Babell Lên am 12:00 er mwyn clywed sgwrs rhwng Llŷr Titus, Iestyn Tyne a Peredur Glyn.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. Eisiau dawns?wedi ei gyhoeddi 11:21 Amser Safonol Greenwich+1 11 Awst 2023

    Dyma aelodau o Gymuned Dawnsfa Cymru, sydd wedi bod yn perfformio ar y Maes yn ystod yr wythnos

    Welsh Ballroom Community
  12. Pwy sydd wedi ennill prif seremonïau'r Brifwyl hyd yma?wedi ei gyhoeddi 11:11 Amser Safonol Greenwich+1 11 Awst 2023

    Prif ddefod dydd Gwener yw'r Cadeirio - ond ry'n ni eisoes wedi gweld sawl un o brif wobrau'r Eisteddfod yn cael eu trosglwyddo i'r enillwyr.

    Pwy felly sydd wedi dod i'r brig?

    Y Goron

    Gwobr Goffa Daniel Owen

    Dysgwr y Flwyddyn

    Y Fedal Ryddiath

    Y Fedal Ddrama

    Disgrifiad,

    Rhys Iorwerth yn cael ei holi wedi iddo ennill Y Goron ddydd Llun

  13. Chwarae plant ar y Maeswedi ei gyhoeddi 11:05 Amser Safonol Greenwich+1 11 Awst 2023

    Mae Elsi o Landwrog yn dangos bod mynd o hyd mewn teganau hen ffasiwn...

    Elsi o Landwrog

    ... tra bod Cian, Meilir, Ela a Lwsi yn cael hwyl ar y gêm Connect 4.

    Cian, Meilir, Ela a Lwsi
  14. Y seremoni ar ben... ymlaen i'r Cadeirio y prynhawn 'ma!wedi ei gyhoeddi 11:02 Amser Safonol Greenwich+1 11 Awst 2023

    A oes heddwch? Gyda chlec y cledd, mae Cylch yr Orsedd bellach wedi cau am eleni.

    Orsedd

    Mae’r seremoni nawr yn gorffen gyda phawb yn gyd-ganu Hen Wlad Fy Nhadau.

    Fe fydd yr Orsedd wrth eu gwaith yn ddiweddarach y prynhawn 'ma ar gyfer y brif seremoni - Y Cadeirio.

    Disgrifiad,

    Yr anthem genedlaethol i gloi'r seremoni

  15. Pwy arall sy'n cael eu hurddo?wedi ei gyhoeddi 10:57 Amser Safonol Greenwich+1 11 Awst 2023

    Mae arweinydd Cymru a’r Byd, Esyllt Nest Roberts de Lewis, yn rhywun sydd wedi chwarae rhan flaenllaw mewn addysg Gymraeg ym Mhatagonia, ac yn cael ei hurddo dan yr enw Esyllt Nest.

    Orsedd

    Mae Carlo Rizzi, arweinydd Opera Cenedlaethol Cymru, yn cael ei dderbyn i’r Orsedd fel Carlo ap Luigi.

    Mae un o sylfaenwyr Sesiwn Fawr Dolgellau, Ywain Myfyr, hefyd yn ymuno â’r Orsedd heddiw - wedi i’w fab, Gruffydd Sion Ywain, gael ei urddo ddydd Llun.

  16. Beth fyddai eich enw barddol chi?wedi ei gyhoeddi 10:51 Amser Safonol Greenwich+1 11 Awst 2023

    Wrth i'r Orsedd dderbyn yr aelodau newydd, mae 'na un cwestiwn pwysig i'w ateb - beth fyddai eich enw barddol chi?

    Lois o griw Cymru Fyw fu'n holi'r union gwestiwn ar y maes yr wythnos hon...

    Nid yw’r post yma ar Instagram yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Instagram
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges instagram

    Caniatáu cynnwys Instagram?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges instagram
  17. Nifer o gefnogwyr yn y dorf!wedi ei gyhoeddi 10:50 Amser Safonol Greenwich+1 11 Awst 2023

    Mared ac Eldra o Uwchmynydd sydd yn gwylio’r seremoni i gefnogi nifer o bobl leol, gan gynnwys “chwaer Nain ac fy athrawes Ysgol Sul” 🤩

    Mared ac Eldra
  18. Ambell wyneb (a llais!) cyfarwydd arall...wedi ei gyhoeddi 10:49 Amser Safonol Greenwich+1 11 Awst 2023

    Mae'r darlledwr Geraint Lloyd wedi ei urddo fel Geraint o Ledrod.

    Geraint Lloyd

    Mae’r cyflwynydd, John Roberts hefyd yn cael ei urddo, gyda’i enw yn gyfeiriad at ei raglen ar Radio Cymru - Sion Bwrw Golwg.

    Mae dau gyn bêl-droediwr Cymru wedi cael eu hurddo hefyd - Yr Athro Laura McAllister, sydd nawr yn ffigwr amlwg mewn gweinyddiaeth pêl-droed (Laura o Benybont), a John Mahoney, oedd yn rhan o’r tîm gyrhaeddodd wyth olaf Euro 1976 (Sion Treganna).

  19. Gwrando ar Gig y Pafiliwn... o'ch soffa! 🎵wedi ei gyhoeddi 10:42 Amser Safonol Greenwich+1 11 Awst 2023

    Roedd y Pafiliwn Mawr yn orlawn neithiwr ar gyfer Gig y Pafiliwn, a'r egni'n uchel.

    Wedi colli'r hwyl? Cofiwch fod modd gwrando'n ôl ar BBC Radio Cymru.

    Nid yw’r post yma ar Instagram yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Instagram
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges instagram

    Caniatáu cynnwys Instagram?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges instagram
  20. Mae'r gorseddogion cyntaf wedi'u derbyn...wedi ei gyhoeddi 10:41 Amser Safonol Greenwich+1 11 Awst 2023

    Elain Wyn Tomos o Gaernarfon yw’r cyntaf i gael ei derbyn i’r Orsedd eleni - dan yr enw Elain Wyn.

    Y tri cyntaf i gael eu hurddo i’r Wisg Las yw’r gwleidydd Mabon ap Gwynfor (Mabon ap Gwynfor), prif lyfrgellydd Cymru Pedr ap Llwyd (Llwyd Ardudwy), ac Anwen Butten, capten tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad (Anwen Cellan).

    Gorseddogion newydd

    Mae ‘na ddau â chysylltiadau blaenllaw gyda’r Urdd hefyd yn cael eu hurddo - Dyfrig Davies (Dyfrig Blaengwyddon Fach) a Sian Eirian (Sian Eirian).

    Mae Kristoffer Hughes yn cael ei urddo i’r Orsedd fel Llŷr Môn. Ond byddwch chi o bosib yn fwy cyfarwydd ag ef fel y perfformiwr drag Maggi Noggi!