Mwynhau gwylio'r seremoni ar y maeswedi ei gyhoeddi 10:39 Amser Safonol Greenwich+1 11 Awst 2023

Dyma Swyn a'i mam o Landeilo'n mwynhau gwylio Seremoni'r Orsedd
Alan Llwyd yw'r Prifardd buddugol a hynny am y trydydd tro
Seremoni olaf yr Archdderwydd presennol - Myrddin ap Dafydd
Pedair yw enillwyr Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn
Athro Alan Shore yw enillydd y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg
Rownd derfynol Ymryson Barddas
Dyma Swyn a'i mam o Landeilo'n mwynhau gwylio Seremoni'r Orsedd
Cân werin hudolus gan Llinos Haf Jones - neu Llinos Bont Goch - cyn derbyn y gorseddogion newydd...
Fe ddaeth Llinos i'r brig yng Ngwobr Goffa Osborne Roberts ddydd Iau.
Croeso cynnes i'r gorseddogion newydd gan rai o blant Llŷn ac Eifionydd!
Ar ddiwrnod digon cymylog, mae aelodau'r Orsedd yn dod â'r lliw i'r maes
Mae’r Archdderwydd yn cyfarch y gynulleidfa, ac yn gofyn iddyn nhw gymryd sedd.
Ac wedyn yn cofio bod angen gofyn i bawb sefyll eto am yr emyn agoriadol!
Mae'n orlawn!
Mae Gons (Goronwy) Davies wedi bod yn stiwardio yn y Brifwyl ers 1987 🤩
Bu'n helpu i gadw trefn ar bethau cyn seremoni'r Orsedd bore 'ma.
Gons Davies
Mererid Hopwood fydd yn cymryd yr awenau'r flwyddyn nesaf.
Bu'n siarad â Cymru Fyw am ei gobaith o ysbrydoli merched eraill.
Mae 'na ambell wyneb cyfarwydd yma...
Y dawnswyr a chyflwynydd y Corn Hirlas, Anni Llŷn, i'w gweld yma hefyd
Gobeithio fydd y gwynt ddim yn rhy gryf i ddalwyr y faner bore 'ma!
Mae Sarah ac Ann sydd wedi dechrau'n gynnar y bore 'ma i wneud yn siwr fod paneidiau a bisgedi yn barod i ymwelwyr Pabell Cytûn.
Fe fydd mwyafrif o’r 50 sy’n cael eu derbyn i'r Orsedd er anrhydedd yn cael eu hurddo bore 'ma.
Maen nhw’n cael eu hanrhydeddu am eu "cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i'w cymunedau lleol".
Aled Hughes, yr Athro Laura McAllister a Geraint Lloyd yw rhai o'r gorseddogion newydd
Yn eu plith mae’r darlledwyr Aled Hughes a Geraint Lloyd, yn ogystal â'r Athro Laura McAllister.
Ymysg eraill fydd yn ymuno â'r Orsedd eleni mae un o sefydlwyr Sesiwn Fawr Dolgellau, Ywain Myfyr, y cerddor Mari Lloyd Pritchard a phennaeth Urdd Derwyddon Môn, Kristoffer Hughes, neu 'Maggi Noggi'.
Dyma sut orffennodd y cyfan yn y Pafiliwn Mawr neithiwr ✨
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae'r wythnos yn tynnu at ei therfyn... ac mae hyd yn oed yr arwyddion wedi dechrau blino!
Dyma lle fydd rhagor o aelodau newydd yr Orsedd yn cael eu derbyn bore 'ma mewn seremoni arbennig arall.
Gallwch ddarllen rhestr lawn o bawb sy'n cael eu hurddo eleni yma.
Awel go gryf a chymylau sy'n croesawu Eisteddfodwyr y bore 'ma...
... ond gobeithio y cawn weld mwy o'r awyr las 'ma wrth i'r dydd fynd yn ei flaen!
Ymunwch â ni ar ddydd Gwener yr Eisteddfod ym Moduan i ddilyn y cyfan unwaith eto.
Dyma fydd ein tudalen fyw olaf o'r Brifwyl eleni - ac mae'n argoeli i fod yn ddiwrnod prysur.
Fe fydd rhagor o aelodau yn cael eu derbyn i'r Orsedd y bore 'ma a'r brif seremoni y prynhawn 'ma fydd y Cadeirio.
Fe ddown ni â'r holl straeon newyddion, digwyddiadau, lluniau a fideos o'r maes i chi. Byddai'n braf iawn cael eich cwmni eto 🎪