Crynodeb

  • Alan Llwyd yw'r Prifardd buddugol a hynny am y trydydd tro

  • Seremoni olaf yr Archdderwydd presennol - Myrddin ap Dafydd

  • Pedair yw enillwyr Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn

  • Athro Alan Shore yw enillydd y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg

  • Rownd derfynol Ymryson Barddas

  1. Dal i fwynhau ar y maeswedi ei gyhoeddi 16:16 Amser Safonol Greenwich+1 11 Awst 2023

    Mae rhai wrthi'n creu ffrindiau newydd...

    Mascot

    ... tra bod torf yn mwynhau caneuon cyfarwydd Bwncath yn stondin y Coleg Cymraeg...

    Torf ar y maes

    ... a geiriau caneuon y band i'w gweld ar ddillad rhai eraill, fel Gwenllian a Megan o Uwchaled!

    Dwy ferch ar y maes
  2. Pwy yw enillwyr ddydd Gwener hyd yma? 👑wedi ei gyhoeddi 16:14 Amser Safonol Greenwich+1 11 Awst 2023

    Mae'r ddau bafiliwn wedi gweld digon o gystadlu heddiw - a gallwch weld holl ganlyniadau'r dydd a chlipiau o'r perfformiadau yma.

    Disgrifiad,

    Maria a Gwenno ddaeth i'r brig yn y Grŵp Offerynnol Agored heddiw

  3. Mae'r ciwio wedi cychwyn ar gyfer y Cadeirio...wedi ei gyhoeddi 16:02 Amser Safonol Greenwich+1 11 Awst 2023

    Mae 'na gystadleuaeth am le yn y Pafiliwn i wylio'r prif ddefod - ond wyddoch chi bod modd gwylio'r cyfan yn fyw ar ein gwasanaeth ni, Sedd yn y Pafiliwn?

  4. Teulu o siaradwyr Cymraeg newydd 👏⭐️wedi ei gyhoeddi 15:57 Amser Safonol Greenwich+1 11 Awst 2023

    Lowri, Rhys a James sydd wedi dod i ymweld â’r Eisteddfod yr holl ffordd o Lundain.

    Mae’r teulu yn dysgu Cymraeg ac mae’r plant yn mynd i feithrinfa Gymraeg yn Llundain unwaith yr wythnos.

    “Y freuddwyd yw dod i fyw i Gymru ryw ddiwrnod” meddai James.

    Teulu ar y maes
  5. Am dro ar y maes?wedi ei gyhoeddi 15:52 Amser Safonol Greenwich+1 11 Awst 2023

    Dynes a chi ar faes yr Eisteddfod

    Lle sy'n well i ddod am dro nac ar faes y Brifwyl? Elin a Lucy’r ci o Borthmadog sy'n crwydro y prynhawn 'ma...

    Ci yn gorwedd ar y maes

    ... tra bod Gweni o Gerrigydrudion wrthi'n ymlacio!

  6. Llongyfarchiadau Pedair - Enillwyr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 👏🎵wedi ei gyhoeddi 15:39 Amser Safonol Greenwich+1 11 Awst 2023
    Newydd dorri

    Gwyneth Glyn, Gwenan Gibbard, Siân James a Meinir Gwilym yn derbyn eu gwobr gan Lisa Gwilym yn y Pafiliwn Mawr
    Disgrifiad o’r llun,

    Gwyneth Glyn, Gwenan Gibbard, Siân James a Meinir Gwilym yn derbyn eu gwobr gan Lisa Gwilym yn y Pafiliwn Mawr

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. Enillwyr Brwydr y Siantis!wedi ei gyhoeddi 15:38 Amser Safonol Greenwich+1 11 Awst 2023

    Tim Eifionydd
    Disgrifiad o’r llun,

    Dyma nhw - yr enillwyr yw tîm Eifionydd 👏

  8. Pwy enillodd Albwm y Flwyddyn 2022?wedi ei gyhoeddi 15:36 Amser Safonol Greenwich+1 11 Awst 2023

    Deuddeg gan Sywel Nyw ddaeth i'r brig yng Ngwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2022.

    Lewys Wyn yw Sywel Nyw, ac mae hefyd yn adnabyddus fel canwr a gitarydd Yr Eira.

    Sywel Nyw ar y llwyfan

    Mae Deuddeg yn gasgliad o 12 sengl a gafodd eu rhyddhau yn fisol yn 2021, ac yn Ionawr 2022 cafodd y senglau eu rhyddhau ar ffurf albwm.

    Y llynedd, am y tro cyntaf, cafodd enillydd y wobr ei enwi a'i anrhydeddu ym Mhafiliwn yr Eisteddfod - yn yr un seremoni â Thlws y Cerddor.

    Pwy fydd yn fuddugol eleni felly? Fe gawn ni'r ateb cyn hir gobeithio.

  9. Yr Athro Alan Shore yn derbyn y Fedal Wyddoniaethwedi ei gyhoeddi 15:27 Amser Safonol Greenwich+1 11 Awst 2023

    Cafodd ei anrhydeddu mewn seremoni ar lwyfan y Pafiliwn Mawr ym Moduan brynhawn Gwener.

    Read More
  10. Pwy fydd yn ennill Albwm y Flwyddyn?wedi ei gyhoeddi 15:25 Amser Safonol Greenwich+1 11 Awst 2023

    Yn y Pafiliwn Mawr am 15:30 fe fydd enillydd Albwm y Flwyddyn yn cael ei gyhoeddi - a dyma'r naw ddaeth i'r brig...

    • Adwaith - Bato Mato
    • Sŵnami - Sŵnamii
    • Pedair - Mae 'na Olau
    • Rogue Jones - Dos Bebes
    • Cerys Hafana - Edyf
    • Fleur de Lys - Fory ar ôl Heddiw
    • Kizzy Crawford - Cariad y Tir
    • Dafydd Owain - Uwch Dros y Pysgod
    • Avanc - YN FYW (Live)

    Disgrifiad,

    Deuddeg gan Sywel Nyw ddaeth i'r brig yn 2022

    Y beirniaid eleni oedd Iwan Teifion Davies, Marged Siôn, Gwenno Roberts, Mirain Iwerydd, Dom James, Dafydd Hughes ac Aneirin Jones.

    Bwriad y wobr, sy'n cael ei threfnu ar y cyd gyda BBC Radio Cymru, yw "dathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg" yng Nghymru ar hyn o bryd.

  11. Dysgwr Cymraeg yn 'Steddfod 2007 > cynghori dysgwyr eraill yn 'Steddfod 2023wedi ei gyhoeddi 15:11 Amser Safonol Greenwich+1 11 Awst 2023

    Ewch draw i Maes D am 17:00 am gyngor gan y Doctor Cymraeg ynglŷn â dysgu Cymraeg.

    Nid yw’r post yma ar Instagram yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Instagram
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges instagram

    Caniatáu cynnwys Instagram?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges instagram
  12. Maes prysur a'r haul yn tywynnu...wedi ei gyhoeddi 15:07 Amser Safonol Greenwich+1 11 Awst 2023

    maes
  13. Gwenwch - mae Cymru Fyw ar y maes! 📸wedi ei gyhoeddi 15:00 Amser Safonol Greenwich+1 11 Awst 2023

    Mae criw Cymru Fyw wedi bod yn crwydro Boduan drwy'r wythnos - tybed y'ch chi wedi cael eich dal ar gamera?

    Gallwch weld ein lluniau o'r maes ddoe yma - neu holl luniau'r Brifwyl hyd yn hyn yma.

    Menywod
  14. Pwy sy'n cael hwyl arni ym Mrwydr y Shantis?wedi ei gyhoeddi 14:54 Amser Safonol Greenwich+1 11 Awst 2023

    Tîm Arfon yn cystadlu...

    Brwydr y Shantis

    ...y gynulleidfa'n pleidleisio...

    PleidleisioFfynhonnell y llun, b
  15. Ysbeidiau heulog... yn wir!🌞🎺wedi ei gyhoeddi 14:45 Amser Safonol Greenwich+1 11 Awst 2023

    Ym mhabell Prifysgol Bangor mae Band Pres Llarregub yn diddanu

  16. Trafod y pynciau sy'n bwysig 'Rwan Nawr'wedi ei gyhoeddi 14:39 Amser Safonol Greenwich+1 11 Awst 2023

    Heno am 19:30 fe fydd Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Clwyd yn cyflwyno pum dramodydd, pum drama fer ac un papur newydd byw – yn syth o’r wasg!

    Mali Ann Rees ar lwyfan
    Disgrifiad o’r llun,

    Mali Ann Rees (dde) yw un o'r criw y tu ôl i Rwan Nawr

    Yn ôl y trefnwyr ‘Rwan nawr’ mae’n noson o adloniant yn trafod pynciau llosg – ac yn cynwys ysgrifennu Cymraeg “mwyaf ffres yn ymateb i'r byd rwan... neu nawr".

    Gan Hannah Daniel, Mali Ann Rees, Manon Steffan Ros, Llyr Titus a Kallum Weyman – gyda Rhian Blythe a Daniel Lloyd yn cyfarwyddo.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. Cau ardal Treantur ar y maes oherwydd y gwyntwedi ei gyhoeddi 14:26 Amser Safonol Greenwich+1 11 Awst 2023

    Byddwch yn ofalus!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Oes 'na rywun yn dathlu pen-blwydd mawr ar y maes?wedi ei gyhoeddi 14:24 Amser Safonol Greenwich+1 11 Awst 2023

    Shan yn 70
    Disgrifiad o’r llun,

    Os felly... pen-blwydd hapus Shan!

  19. Yr holl fwrlwm yn fyw ar y radio 📻wedi ei gyhoeddi 14:13 Amser Safonol Greenwich+1 11 Awst 2023

    Cofiwch fod BBC Radio Cymru hefyd yn dod â'r diweddaraf yn fyw o Foduan!

    Cliciwch yma i wrando.