Hogia'r Bonc yn eu holl ogoniant 😎wedi ei gyhoeddi 14:10 Amser Safonol Greenwich+1 11 Awst 2023

Sbectols 'mlaen... mae Hogia'r Bonc yn diddanu.
Alan Llwyd yw'r Prifardd buddugol a hynny am y trydydd tro
Seremoni olaf yr Archdderwydd presennol - Myrddin ap Dafydd
Pedair yw enillwyr Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn
Athro Alan Shore yw enillydd y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg
Rownd derfynol Ymryson Barddas
Sbectols 'mlaen... mae Hogia'r Bonc yn diddanu.
Y gystadleuaeth sydd ymlaen a'r hyn o bryd yw'r Unawd Tenor 25 oed a throsodd, sydd yn amlwg yn un poblogaidd ymysg y dyrfa.
Cofiwch, gallwch wylio'r holl gystadlu o adref ar Sedd yn y Pafiliwn.
BBC Radio Cymru
Mae'n rhaid i bobl fod yn "rhesymol" o ran tagfeydd o amgylch maes y Brifwyl, medd y Prif Weithredwr.
"Does dim disgwyl i chi 'neud yr un daith yn yr un amser â phe bai neb ar yr heol," dywedodd Betsan Moses wrth raglen Dros Ginio BBC Radio Cymru.
"Ry'n ni’n ymwybodol iawn… wrth i ni ddod o hyd i’r tiroedd sy’n addas, ma' hefyd y rhwydwaith trafnidiaeth yn gorfod gweithio fel watch.
"Mi oedd 'na adegau pan, oherwydd y niferoedd, mi oedd rhaid i bobl fod yn aros am ychydig," meddai, "ond doedd hyn ddim yn digwydd drwyddi draw".
Cyngor gwych ar furlun o'r diweddar Dyfrig Topper Evans ger Caffi Maes B.
Mae torf dda wedi ymgynnull y tu allan i’r Babell Heddwch i wrando ar Meinir Gwilym a'i gitâr
Ewch draw i'r Tŷ Gwerin am 14:00 am wledd o alawon morol
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Un sydd wedi bod yn brysur iawn yr wythnos hon yw'r clocsiwr, Tudur Phillips.
Mae Tudur hefyd yn ŵr i Anni Llŷn, sef cyflwynydd y Corn Hirlas eleni.
Gyda'r Brifwyl yn un lleol i'r teulu, mae'n siwr eu bod wedi cael 'Steddfod arbennig.
Mae sylw eisoes wedi cael ei roi i Steve Eaves a Manon Steffan Ros yr wythnos hon – ond heddiw tro aelod arall o’r teulu yw hi.
Y prynhawn ‘ma ym mhabell Encore fe fydd Lleuwen Steffan yn cyflwyno ei phrosiect diweddaraf ar emynau llafar Cymru ac fe fydd yn perfformio rhai ohonyn nhw.
Ysbryd y Nos, Mistar Duw, Pishyn, Cân yn Ofer, Smo Fi Ishe Mynd... mae rhestr caneuon Edward H Dafis yn ddiddiwedd.
Ym mhabell Encore am 17:00 heddiw bydd sesiwn i ddathlu hanner canrif y band, gyda Geraint Cynan a Cleif Harpwood.
Edward H Dafis yn 1986
Manon Wyn Williams fydd yn holi enillydd y Fedal Ddrama, Cai Llewelyn Evans, yn y Babell Lên am 15:55.
Cai Llewelyn Evans yw enillydd Medal Ddrama Eisteddfod 2023
'Nabod y dyn tu ôl y sbectol? Y Welsh Whisperer!
Begw ac Angharad sy’n joio’r canu ar y maes ☀️
Hefyd yn joio mae Wil, Twm a Guto o Flaenau Ffestiniog - gan fwynhau cael lifft yn y cart o amgylch y lle!
Mae hi'n ddiwrnod ffres ar faes y Brifwyl - beth felly am dywydd weddill y dydd? Megan o griw Tywydd S4C sydd â'r diweddaraf.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Bore 'ma, cafodd dau sydd wedi gwneud llawer i'r Urdd dros y blynyddoedd, eu hurddo i'r Orsedd - Siân Eirian, cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, a Dyfrig Davies, cadeirydd yr Urdd.
(Maen nhw'n ei chael yn anodd dod o hyd i wisg ddigon mawr i urddo Mistar Urdd, yn anffodus)
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae yna alw ar y llywodraeth i wneud mwy i sicrhau bod gofal iechyd cyfrwng Cymraeg ar gael i bawb.
Read MoreUrddo aelodau newydd i Orsedd Cymru
Yn dilyn eu perfformiad yn Gig y Pafiliwn neithiwr, sut brofiad mae'r artistiaid Dom James a Lloyd Lewis yn cael yn yr Eisteddfod?
Tybed beth fydd yn tynnu dŵr i ddannedd yr Eisteddfodwyr heddiw?
Côr y Penrhyn sy’n codi'r to ar hyn o bryd...