Crynodeb

  • Y Blaid Geidwadol wedi sicrhau mwyafrif

  • Ceidwadwyr wedi cipio nifer o seddi oddi wrth Llafur yn y gogledd-ddwyrain

  • Y Ceidwadwyr hefyd yn cipio Ynys Môn a Brycheiniog a Sir Faesyfed

  • Plaid Cymru yn cadw eu pedwar sedd; y Democratiaid Rhyddfrydol wedi colli eu hunig un yng Nghymru

  • Jeremy Corbyn yn dweud na fydd yn arwain Llafur mewn etholiad eto

  • Cyn-Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns yn cadw ei sedd; Jo Swinson yn colli i'r SNP

  1. Sut mae'n edrych dros y wlad?wedi ei gyhoeddi 23:45 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2019

    Mae ffynhonnell Geidwadol ym Mro Morgannwg yn dweud eu bod yn “ofalus o hyderus”. Ond dywed ei bod hi’n anodd barnu oherwydd “amseroedd cythryblus” yn yr ardal.

    Dywed ffynonellau Plaid Cymru y gallan nhw fod yn drydydd yng Nghastell-nedd, perfformiad cryf gan y Torïaid, ond efallai y bydd Llafur yn cael eu hachub wrth i Blaid Brexit hollti’r bleidlais

    Cyfri
  2. 'Ni yw'r parti i Gymru'wedi ei gyhoeddi 23:41 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2019

    S4C

    Rhys Thomas, ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, wedi synnu gyda'r gefnogaeth i'r Ceidwadwyr, yn enwedig yn llefydd fel Doc Penfro.

    Dywedodd fod yr etholiad yma, ar y cyfan, yn un anodd i Blaid Cymru, ond y bydd rhai'r Cynulliad "mor wahanol i hwn".

    Disgrifiad,

    Rhys Thomas, ymgeisydd Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro

  3. Plaid Cymru yn 'ffyddiog' yng Ngheredigionwedi ei gyhoeddi 23:37 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2019

    Sara Gibson
    Gohebydd BBC Cymru yng nghyfrif Ceredigion

    "Canran y bleidlais Geidwadol yng Ngheredigion yn llawer yn uwch na 2017, ac mae sïon y gallan nhw ddod yn ail.

    "Mae Plaid Cymru yn ffyddiog eu bod yn mynd i ddal gafael ar y sedd."

    "Mae’n ymddangos bod y gefnogaeth i’r Democratiaid Rhyddfrydol lawer yn is na’r arfer.

    "Gallan nhw orffen yn bedwerydd."

  4. Mae'r cyfri' ar waithwedi ei gyhoeddi 23:34 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2019

    Rhys Padarn Jones
    Cartwnydd

    Y cyfri ar waith
  5. 'Agos eithriadol ar Ynys Môn'wedi ei gyhoeddi 23:30 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2019

    Nia Thomas
    Gohebydd BBC Cymru yng nghyfrif Ynys Môn

    "Mae hi'n agos eithriadol ar Ynys Môn rhwng Llafur, y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru, meddai un o gynrychiolwyr Llafur wrthai."

    Aled ap Dafydd ydy ymgeisydd Plaid Cymru yno, gyda Mary Roberts ar ran y Blaid Lafur a Virginia Corsbie yn sefyll i'r Ceidwadwyr.

    Nia T
  6. Canlyniad cyntaf y nosonwedi ei gyhoeddi 23:29 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2019

    Mae canlyniad cyntaf y noson wedi cyrraedd, a hynny yn Newcastle upon Tyne Central.

    Chi Onwurah sydd wedi cadw'r sedd i'r Blaid Lafur, gyda'r Ceidwadwyr yn ail.

  7. 'Get Brexit Done'wedi ei gyhoeddi 23:28 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2019

    'Get Brexit Done' - ydy Jacob a Gwenno yn cytuno mai dyma oedd neges arwyddocaol yr ymgyrch?

  8. Plaid Cymru'n 'dawel hyderus' yn Arfonwedi ei gyhoeddi 23:22 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2019

    Tomos Lewis
    Gohebydd BBC Cymru yng nghyfrif Arfon

    "Mae ymgeisydd Plaid Cymru, Hywel Williams wedi cyrraedd y cyfrif yn Arfon, gyda'r blaid yn dweud eu bod yn dawel hyderus.

    "Arfon oedd y sedd fwyaf ymylol yng Nghymru yn yr etholiad yn 2017, gyda Llafur 92 pleidlais yn unig y tu ôl."

    Hywel
  9. 'Crabb yn gyfforddus ym Mhreseli Penfro'wedi ei gyhoeddi 23:19 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2019

    Aled Scourfield
    Gohebydd BBC Cymru yng nghyfrif Preseli Penfro

    "Mae’r Ceidwadwyr yn ennill dros 70% o’r bleidlais mewn rhannau o Hwlffordd yn ôl fy ffynonellau i.

    "Stephen Crabb yn edrych yn gyfforddus ar y funud."

  10. 'Ddim yn wych' i Blaid Cymru ym Mlaenau Gwentwedi ei gyhoeddi 23:18 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2019

    Mae ymgyrch Plaid Cymru i adeiladu ar eu henillion yn etholiad Cynulliad Cymru ym Mlaenau Gwent yn yr etholiad cyffredinol yma wedi cael eu disgrifio fel rhai sydd "ddim yn edrych yn wych" gan ffynonellau Plaid.

    Pan ofynnwyd iddyn nhw am eu gobeithion i symud ymlaen i gadarnle Llafur, ar ôl dod o fewn 650 pleidlais i gipio’r sedd yn etholiad Cynulliad 2016, fe wnaethon nhw ddisgrifio pleidlais San Steffan fel "mater wahanol".

  11. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 23:13 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2019

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. Corbyn yn wynebu anniddigrwydd yng Nghymru?wedi ei gyhoeddi 23:09 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2019

    Dywedodd yr Athro Laura McAllister, wrth siarad ar raglen Etholiad 2019 BBC Wales: “Mae eironi yma os yw'r canlyniadau hyn yn wir.

    "Efallai bod Llafur yn edrych ar gael mwyafrif ei ASau yng nghymoedd de Cymru - y rhan o Gymru sydd fwyaf gwrthwynebus i Jeremy Corbyn.

    "Bydd yn ddiddorol sut mae hynny’n chwarae allan i’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, sydd ei hun yn gefnogwr i Jeremy Corbyn."

    Laura McAllister
  13. 'Johnson am gael cefnogaeth i adael yr UE'wedi ei gyhoeddi 23:04 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2019

    Laura Kuenssberg
    Gohebydd Gwleidyddol y BBC

    "Os yw'r arolwg barn yn gywir, ac mae Boris Johnson wedi sicrhau mwyafrif, yna bydd ganddo gefnogaeth ASau i gymryd y DU allan o'r Undeb Ewropeaidd fis nesaf.

    "Ond nid yn unig hynny, os yw'r ffigyrau'n gywir gallai olygu pum mlynedd arall o lywodraeth Geidwadol.

    "Ar ôl pedwar colled yn olynol i Lafur - ar ôl nifer o flynyddoedd ble maen nhw wedi symud yn bellach i'r chwith - byddai hon yn golled ddifrifol a hanesyddol."

    Arolwg
  14. 'Trychinebus' i Lafurwedi ei gyhoeddi 22:59 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2019

    Richard Wyn Jones
    Athro Gwleidyddiaeth Cymru

    Mae'r Athro Richard Wyn Jones yn dweud bod yr arolwg barn yn "drychinebus" i Lafur, ac hefyd yn gofyn ai dyma fydd diwedd dominyddiaeth y blaid yng Nghymru?

    Disgrifiad,

    Ymateb yr arolwg barn

  15. Llafur i golli holl seddi yn y gogledd?wedi ei gyhoeddi 22:56 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2019

    Yr Athro Roger Awan-Scully
    Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru

    Awgrymodd y sylwebydd gwleidyddol, yr Athro Roger Awan-Scully nad oedd hi'n "annirnadwy - er hyd yn hyn yn bell iawn o sicrwydd" y gallai'r Blaid Lafur yng Nghymru golli eu "holl seddi seneddol i'r gogledd o'r cymoedd".

  16. 'Dim yn edrych yn dda' yng Ngogledd Caerdyddwedi ei gyhoeddi 22:53 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2019

    Felicity Evans
    Golygydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Mae ffynonellau Ceidwadol wedi dweud wrth BBC Cymru "nad yw pethau'n edrych yn dda" iddynt yn sedd Gogledd Caerdydd.

    Roedd y sedd yn un o dargedau'r blaid yn yr ymgyrch.

  17. Yr arolwg barn: Ymateb pobl ifancwedi ei gyhoeddi 22:51 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2019

    Mae un o'n gohebwyr wedi bod yn holi barn dau berson ifanc - Jacob a Gwenno - yng nghanolfan Chapter yng Nghaerdydd i gael eu hymateb i'r arolwg barn o'r gorsafoedd pleidleisio.

    Dywedodd Jacob ei fod "wedi fy llorio" gan y mwyafrif sy'n cael ei ddarogan i'r Ceidwadwyr, a bod Llafur wedi cael "crasfa".

    Dywedodd Gwenno ei bod yn "torri fy nghalon" ynglŷn â'r arolwg.

    Disgrifiad,

    Ymateb Jacob a Gwenno

  18. Pwy wnaiff ennill y ras i Rif 10?wedi ei gyhoeddi 22:42 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2019

    Rhys Padarn Jones
    Cartwnydd

    Mae'r artist Rhys Padarn Jones yn mynd i fod yn darlunio i ni drwy'r nos, wrth i stori'r noson ddatblygu.

    Arhoswch gyda ni i ddarganfod pwy fydd yn ennill y ras i Rif 10!

    Pwy wnaiff ennill y ras i Rif 10?
  19. Gweld 'gwendid' Llafur yn y canlyniadau?wedi ei gyhoeddi 22:37 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2019

    Vaughan Roderick
    Golygydd Materion Cymreig y BBC

    Er bod sefyllfa'r Blaid Lafur wedi bod yn "fregus" yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf, meddai Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru, Vaughan Roderick, maen nhw wedi bod yn "wydn" yn nhermau dal seddi.

    Ond ychwanegodd: "Efallai taw hwn yw'r tro cyntaf mae'r gwendid yna'n mynd i ddangos yn y canlyniadau."

  20. Llafur oddi ar y map yn y gogledd-ddwyrain?wedi ei gyhoeddi 22:33 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2019

    Bethan Lewis
    Gohebydd BBC Cymru yng nghyfrif Bro Morgannwg

    Mae'r Athro Roger Awan-Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru yng nghyfrif Bro Morgannwg heno - sedd cyn-Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns.

    Mae'r Athro Awan-Scully yn darogan y bydd y Ceidwadwyr yn gwneud cynnydd arwyddocaol yng Nghymru - gan ragweld y bydd Llafur o bosib yn cael ei dileu oddi ar y map yng ngogledd ddwyrain Cymru.

    Scully