Crynodeb

  • Y Blaid Geidwadol wedi sicrhau mwyafrif

  • Ceidwadwyr wedi cipio nifer o seddi oddi wrth Llafur yn y gogledd-ddwyrain

  • Y Ceidwadwyr hefyd yn cipio Ynys Môn a Brycheiniog a Sir Faesyfed

  • Plaid Cymru yn cadw eu pedwar sedd; y Democratiaid Rhyddfrydol wedi colli eu hunig un yng Nghymru

  • Jeremy Corbyn yn dweud na fydd yn arwain Llafur mewn etholiad eto

  • Cyn-Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns yn cadw ei sedd; Jo Swinson yn colli i'r SNP

  1. Blaenau Gwent yn 'edrych yn dda' i Lafurwedi ei gyhoeddi 01:03 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Mae ffynhonnell o'r Blaid Lafur ym Mlaenau Gwent yn dweud ei bod yn "edrych yn dda" iddyn nhw ddal eu gafael yn y sedd.

    Ychwanegodd bod hynny er y pwysau gan bleidiau sy'n cefnogi Brexit, gyda'r etholaeth hon wedi pleidleisio'n gryf o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd.

  2. Jeremy Corbyn 'ddim yn gallu aros'wedi ei gyhoeddi 01:01 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Mae ymgeisydd Llafur ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, Tom Davies wedi dweud ei fod yn "drist dros ben".

    "Roedd canlyniad yr etholaeth yma wastad yn anochel - y prif bwnc ar y stepen drws oedd Brexit."

    Pan ofynnwyd iddo a fydd Jeremy Corbyn yn parhau fel arweinydd, dywedodd: "Amser a ddengys ond dydy hi ddim yn edrych yn debygol.

    "Mae hynny'n drist," meddai. "Fe wnes i ymuno â'r blaid oherwydd ef, ond dydw i ddim yn credu y bydd yn gallu aros."

  3. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 00:56 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Rhys Padarn Jones
    Cartwnydd

    Roedd cryn dipyn o sôn am bleidleisio tactegol yn yr ymgyrch yma, a welwn ni effaith hynny ymhen ychydig oriau?

    Pleidleisio tactegol
  4. Sylwebydd gwleidyddiol ar y farn yn Ewropwedi ei gyhoeddi 00:53 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Disgrifiad,

    Dadansoddiad Mared Gwyn, sy'n gweithio ym Mrwsel

  5. Caerffili: 'Addawol i Lafur' ond angen trafodaeth ehangachwedi ei gyhoeddi 00:51 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Dywedodd ymgeisydd Llafur Caerffili, Wayne David ei fod "wedi ei galonogi gyda'r sefyllfa yng Nghaerffili, yn enwedig o ystyried y cyd-destun yn y DU".

    "Mae'r sefyllfa ar draws y wlad yn edrych yn wael i Lafur ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n cael trafodaeth resymol ond dwys ar ble mae Llafur yn mynd nesaf."

    Mae 40,277 o bobl (63.76%) wedi pleidleisio yng Nghaerffili yn yr etholiad hwn. Dyma un o'r etholaethau ble'r oedd cytundeb etholiadol rhwng rhai o'r pleidiau eraill.

  6. Bryant yn 'ymddiheuro ar ran Llafur'wedi ei gyhoeddi 00:46 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Mae ymgeisydd y Blaid Lafur yn Rhondda, Chris Bryant wedi "ymddiheuro ar ran y blaid" am fethu â chyflawni buddugoliaeth.

    Dywedodd bod y blaid angen ailasesu ei safbwynt, ond ni aeth mor bell a dweud y dylai Jeremy Corbyn adael fel arweinydd.

    Bryant
  7. Llafur am 'dalu'r pris' am beidio cydweithiowedi ei gyhoeddi 00:43 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Mae AC Plaid Cymru, Helen Mary Jones wedi beirniadu'r Blaid Lafur am wrthod trafod gyda nhw a'r Democratiaid Rhyddfrydol er mwyn targedu ac amddiffyn seddi rhag y Ceidwadwyr.

    Dywedodd mai Llafur fydd yn "talu'r pris" am y diffyg cydweithio.

    Disgrifiad,

    Helen Mary Jones

  8. 'Gwên ar wyneb' y Ceidwadwyrwedi ei gyhoeddi 00:41 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Dim syndod efallai fod yr Aelod Cynulliad Ceidwadol, Suzy Davies yn dweud fod yr arolwg sy'n darogan mwyafrif i'w phlaid hi wedi rhoi "gwên ar fy ngwyneb".

    Mae'n ychwanegu ei bod hi'n obeithiol iawn y bydd hynny'n golygu ASau Ceidwadol benywaidd yng Nghymru i'r blaid am y tro cyntaf.

  9. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 00:36 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. 'Agos iawn yng Ngŵyr'wedi ei gyhoeddi 00:34 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Rhys Williams
    Gohebydd BBC Cymru yng Ngŵyr

    Mae ffynonellau Llafur yng Ngŵyr yn dweud ei fod yn "rhy agos i ddarogan", yn ôl ein gohebydd Rhys Williams.

    "Mae ffynhonnell Llafur wedi dweud wrtha i i fod yn "barod am noson hir" gan bod ail-gyfri' yn bosib."

  11. Gwerth y bunt yn codi ers 22:00wedi ei gyhoeddi 00:27 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Mae'r bunt wedi cryfhau yn sgil yr arolwg barn oedd yn awgrymu mwyafrif i'r Ceidwadwyr.

    Cododd y bunt 3% i $1.35, ei lefel uchaf ers mis Mai'r llynedd - gyda gobeithion y gallai mwyafrif leihau ansicrwydd dros Brexit.

    Mae Boris Johnson wedi addo gadael yr Undeb Ewropeaidd erbyn 31 Ionawr os yw'n brif weinidog.

  12. Mwy yn pleidleisio? Dim hyd yma...wedi ei gyhoeddi 00:19 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Er yr holl sôn bod canran uchel wedi pleidleisio yn yr etholiad yma, dydy hynny ddim yn cael ei adlewyrchu yn Nyffryn Clwyd.

    Dyma oedd etholaeth gyntaf yng Nghymru i gyhoeddi'r ganran sydd wedi pleidleisio - 66%, sydd 2% yn llai nag yn 2017.

    Yn Arfon mae 1% yn fwy wedi pleidleisio - 69% - tra bod y nifer sydd wedi taro pleidlais yn Ynys Môn (70%) a Bro Morgannwg (72%) ar yr un lefel ag yn 2017.

    Ond mae llai wedi pleidleisio yn Nhorfaen (59.8%) a Merthyr Tudful a Rhymni (57%).

  13. A welwn ni newidiadau i Swyddfa Cymru?wedi ei gyhoeddi 00:14 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Wrth siarad gyda BBC Cymru dywedodd Chris Wilkins – cyn-ymgynghorydd i Theresa May pan oedd hi'n brif weinidog – bod trafodaethau eisoes wedi bod yn Whitehall am “newidiadau o fewn peirianwaith y llywodraeth”.

    Ychwanegodd: “Maen nhw am wneud pethau yn wahanol.

    "Dwi’n darogan fan hyn, ond o bosib y gallen nhw ystyried gweinidog dros yr Undeb yn hytrach na gweinidogion gwladol arwahan.”

  14. 'Addawol' i Blaid Cymru yn Arfonwedi ei gyhoeddi 00:08 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Ymgeisydd Plaid Cymru yn Arfon, Hywel Williams, yn dweud ei bod hi wedi bod yn ymgyrch "gref iawn" a'r un "mwyaf trefnus yn fy adeg i".

    "Mae hi'n edrych yn addawol," meddai.

    Dywedodd er bod yr ymgyrch wedi bod yn un "arlywyddol", ei bod hi wedi bod yn gyfle da i arweinydd ei blaid, Adam Price gael llwyfan ehangach.

    Disgrifiad,

    Hywel Williams, ymgeisydd Plaid Cymru yn Arfon

  15. Dydy rhai aelodau Llafur ddim am aros am y canlyniadau...wedi ei gyhoeddi 00:04 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. Y diweddara' gan Garry yn Glasgowwedi ei gyhoeddi 23:59 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2019

    Garry Owen
    Gohebydd arbennig BBC Cymru

    Mae'r arolwg barn wedi awgrymu canlyniad da iawn i'r SNP yn Yr Alban heno 'ma, ac fe fydd ein gohebydd arbennig, Garry Owen yn dod â'r diweddara' i ni o Glasgow wrth i'r noson ddatblygu.

    Ond dyw hi ddim yn newyddion da o'r Alban ar hyn o bryd, gyda'r heddlu'n cynnal ymchwiliad yn Stirling ymysg honiadau gan un pleidleisiwr.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. Plaid yn 'hyderus' yn Arfonwedi ei gyhoeddi 23:54 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2019

    Gohebydd ITV Cymru, Guto Llewelyn yn trydar o'r cyfrif yng Nghaernarfon.

    92 o bleidleisiau oedd rhwng Hywel Williams a Mary Griffiths Clarke yn Arfon yn 2017 – y canlyniad agosaf yng Nghymru.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Fydd cynrychiolydd Llafur yn bwyta ei het?wedi ei gyhoeddi 23:52 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2019

    Catrin Heledd
    Gohebydd BBC Cymru yng nghyfrif De Caerdydd a Phenarth

    Cynrychiolydd o’r Blaid Lafur yn dweud y bydd e’n "bwyta fy het" os na fydd Stephen Doughty yn cadw ei afael ar Dde Caerdydd a Phenarth.

    “Mwy o bleidleisiau i’r Toriaid na fydden ni wedi hoffi ond mae pethau yn edrych yn dda," meddai.

  19. Llafur yn 'gyfforddus' yng Ngogledd Caerdyddwedi ei gyhoeddi 23:49 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2019

    Cennydd Davies
    Gohebydd BBC Cymru yng nghyfrif Caerdydd

    "Yn ôl ffynhonnell o’r blaid Geidwadol mae disgwyl i Lafur ennill etholaeth ymylol Gogledd Caerdydd yn gyfforddus.

    "Ychwanegodd bod Boris Johnson yn 'marmite figure'."

  20. 'Llafur yn fwy hyderus am Dde Clwyd na Wrecsam'wedi ei gyhoeddi 23:47 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2019

    Carl Roberts
    Gohebydd BBC Cymru yng nghyfrif Wrecsam

    Yn Wrecsam, ble mae Llafur yn amddiffyn etholaethau Wrecsam a De Clwyd, mae’r blaid yn fwy gobeithiol o gadw gafael ar De Clwyd nac ydyn nhw o gadw Wrecsam.

    "Yn ôl ymgeisydd Plaid Brexit yn Ne Clwyd, Jamie Adams, maen nhw wedi llwyddo i ennill pleidleisiau Llafur yn hytrach na’r Ceidwadwyr."