Terfysg Trelái: Dau yn pledio'n euog

Car wedi ei losgi Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd ceir eu rhoi ar dân a gwrthrychau, gan gynnwys tân gwyllt, eu taflu at yr heddlu

  • Cyhoeddwyd

Mae 19 o bobl wedi ymddangos o flaen Llys y Goron Caerdydd i wynebu cyhuddiadau'n ymwneud â'r anhrefn gyhoeddus yn Nhrelái yng Nghaerdydd ym mis Mai 2023.

Fe wnaeth Kyle Telemaque 19 oed, a Jumana Fouad 18 oed, bledio'n euog i'r cyhuddiad o derfysg, tra bod 16 o bobl wedi pledio'n ddi-euog i'r un cyhuddiad.

Cafodd heddlu terfysg a'r gwasanaethau brys eu galw i ardal Trelái ar 22 Mai y llynedd ar ôl i tua 100 i 150 o bobl ymgasglu wedi gwrthdrawiad angheuol yn yr ardal.

Bu farw Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15 yn y gwrthdrawiad.

Cafodd ceir eu rhoi ar dân a gwrthrychau, gan gynnwys tân gwyllt, eu taflu at yr heddlu.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd gwrandawiad pellach ar 1 Tachwedd i ystyried y camau nesaf

Fe blediodd Kyle Telemaque yn euog hefyd i ddwy drosedd yn ymwneud â chyffuriau.

Er i McKenzie Danks bledio'n ddi-euog i'r cyhuddiad o derfysg, fe gyfaddefodd i gyhuddiad o ymosod, am guro dau heddwas.

Roedd y cyhuddiad yn nodi fod y rhai gafodd eu cyhuddo wedi defnyddio "trais anghyfreithlon at ddiben cyffredin tra'r oedden nhw gyda'i gilydd" a bod "12 neu fwy o bobl yn defnyddio neu fygwth trais anghyfreithlon" a bod hynny'n golygu fod eraill yn "poeni am eu diogelwch".

O ystyried nifer y bobl sydd wedi eu cyhuddo, mae'n debygol y bydd dau wrandawiad ar wahân y flwyddyn nesaf - un yn para pedair wythnos, a'r llall yn para pum wythnos.

Bydd gwrandawiad pellach ar 1 Tachwedd eleni i ystyried y camau nesaf yn y broses gyfreithiol.

Mae pob un gafodd eu cyhuddo wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Bydd y rhai sydd wedi pledio'n euog yn cael eu dedfrydu ar ddyddiad arall.