Terfysg Trelái: 17 o bobl yn y llys
- Cyhoeddwyd
Mae 17 o bobl wedi ymddangos yn y llys wedi eu cyhuddo o droseddau'n ymwneud â'r anhrefn gyhoeddus yn Nhrelái yng Nghaerdydd ym mis Mai 2023.
Cafodd heddlu terfysg a'r gwasanaethau brys eu galw i ardal Trelái ar 22 Mai y llynedd ar ôl i tua 100 i 150 o bobl ymgasglu wedi gwrthdrawiad angheuol yn yr ardal.
Bu farw Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15 yn y gwrthdrawiad.
Cafodd ceir eu rhoi ar dân a gwrthrychau, gan gynnwys tân gwyllt, eu taflu at yr heddlu.
Y rhai fu'n ymddangos yn y llys ddydd Iau wedi'u cyhuddo o derfysg (riot) oedd:
Lianna Tucker, 18 o Drelái
Michaela Gonzales, 26 o Drelái
Jaydan Baston, 20 o Gaerau
Harvey James, 18 o'r Tyllgoed
Jumana Fouad, 18 o Drelái
Jordan Webster, 28 o Drelái
Kieron Beccano, 25 o Sain Ffagan
Luke Williams, 30 o Drelái
Jayden Westcott, 20 o Drelái
Zayne Farrugia, 24 o Gaerau
Kyle Telemaque, 18 o Drelái
Connor O’Sullivan, 25 o Gaerau
Callum O’Sullivan, 23 o Drelái
Ashdon O’Dare, 26 o Drelái
Jordan Bratcher, 26 o Lanisien
Jamie Jones, 23 o Lanrhymni
McKenzie Danks, 21 o Gaerau
Mae McKenzie Danks hefyd yn wynebu dau gyhuddiad o ymosod ar heddwas. Mae'n gwadu'r cyhuddiadau hynny.
Ni wnaeth yr un o'r diffynyddion gyflwyno ple i'r cyhuddiad o derfysg, ac fe gafon nhw oll eu rhyddhau ar fechnïaeth ddiamod cyn eu hymddangosiad nesaf yn Llys y Goron Caerdydd ar 21 Hydref.
Ond fe wnaeth un diffynnydd - Ryan Knight, 19 o Sblot - fethu ag ymddangos yn y llys, ac fe gafodd gwarant ei gyhoeddi ar gyfer ei arestio.
Cyn i’r gwrandawiad ddechrau, dywedodd y Barnwr Stephen Harmes fod yr achosion yn ymwneud ag anhrefn "o ganlyniad i ddau fachgen yn anffodus yn colli eu bywydau ar eu beic trydan".
“Mae wedi cymryd peth amser,” ychwanegodd.
32 o heddweision wedi'u hanafu
Yn amlinellu eu hachos yn erbyn y diffynyddion, dywedodd Alex Orndal KC ar ran yr erlyniad fod 33 o bobl wedi cael eu hanafu yn yr anhrefn - 32 o heddweision ac un aelod o'r cyhoedd.
Ychwanegodd fod amryw o bethau wedi cael eu taflu at yr heddlu, gan gynnwys cerrig, fframiau gwely a thân gwyllt.
Dywedodd fod un heddwas wedi cael ei daro gan "fom petrol", ond na chafodd unrhyw un anafiadau difrifol.
Mae disgwyl i ragor o bobl ymddangos yn y llys ddydd Gwener, wedi i Wasanaeth Erlyn y Goron gyhuddo 31 o bobl yr wythnos ddiwethaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Medi
- Cyhoeddwyd23 Mai 2023
- Cyhoeddwyd23 Mai 2023