Mel Owen: Y torcalon o golli cyfeillgarwch
- Cyhoeddwyd
Mewn ffilmiau, nofelau, caneuon a chylchgronau mae ‘na sylw cyson i'r boen o orffen perthynas gyda cariad. Ond mae’r torcalon o brofi diwedd cyfeillgarwch yn gallu bod yr un mor boenus a niweidiol.
Yn ei hunangofiant newydd, Oedolyn(ish), mae’r comedïwr, cyflwynydd ac awdur Melanie Owen yn rhannu rai o’r gwersi mae hi wedi eu dysgu cyn iddi droi’n 30 oed.
Un o’r gwersi hynny ydy’r penderfyniad anodd o adael i gyfeillgarwch fynd – sylweddoli nad yw cyfeillgarwch yn llesol, a’r broses o gamu nôl o berson sy’n rhan allweddol o’i bywyd.
Yma mae Mel yn trafod mwy ar y boen o ddod â chyfeillgarwch i ben:
Ro’n i’n 4 mlwydd oed y tro cyntaf i fi gael ffrind gorau.
Ro’n i newydd symud i Gymru a doedd dim gair o Gymraeg gen i eto, ac yn ôl yr olwg ddryslyd ar wyneb y ferch arall pan wnes i ofyn i fenthyg ei purple crayon, baswn i’n dweud nad oedd ei geirfa Saesneg hi’n eang iawn.
Serch hynny, roedd gen i gâs pensil Groovy Chick ac roedd ganddi hi focs bwyd Groovy Chick ac ar sail hynny, a lot o bwyntio heb eiriau, dewisom fod yn ffrindiau gorau am byth.
Baswn i’n hoffi dweud ein bod ni dal yn BFFs, yn byw gyda’n gilydd, yn mynd am bougie brunches bob penwythnos ac yn mynd i briodi dau ddyn sy’n ffrindiau gorau hefyd, fel bod ni’n pedwar yn gallu byw mewn un tŷ mawr gydag arwydd dros y drws sy’n dweud ‘Friendship is Forever’.
Ond yn anffodus, y gwir amdani yw dw i wedi ei gweld hi unwaith yn y 17 mlynedd diwethaf - yn yr eil creision yn Morrisons Aberystwyth.
‘Y person pwysicaf yn y byd’
Ers gwahanu o fy nghyd Groovy Chick stan, dw i wedi mwynhau sawl cyfeillgarwch werthfawr gyda ffrindiau dw i wedi eu caru a’m holl galon. Bob tro mae rhywun yn croesi’r ffin o fod yn rhywun dw i’n nabod, i fod yn ffrind, dw i’n gwthio fy hunan mewn i chweched gêr ac yn eu trin fel y person pwysicaf yn y byd.
Falle fod hynny am fy mod i’n unig blentyn, ond dwi’n hoff iawn o gael ffrind gorau. Fy soulmate. Fy un. Fy mhartner mewn unrhyw drosedd (nid mod i am ddefnyddio’r erthygl ‘ma i gyfaddef i unrhyw droseddau, diolch yn fawr).
Mae cael cyfeillgarwch mor agos yn brofiad prydferth.
Ond y broblem ydy, os yw’r cyfeillgarwch yn dod i ben, mae’n dod â thorcalon erchyll nad o’n i wedi ei ddisgwyl.
Pan mae’n dod i gariadon, mae bob amser yng nghefn fy meddwl y gallai’r berthynas fynd o chwith - dwi’n gwybod nad oes yna warant ein bod ni’n mynd i bara am byth.
Ond gyda chyfeillgarwch, dw i’n credu yn fy nghalon bod ein bywydau’n mynd i blethu nes bo ni’n marw (ac wedyn, os ydyn ni’n cyrraedd y nefoedd, gallen ni barhau i fod yn ffrindiau gorau angylaidd - yn cymryd selfies ar gymylau ac yn yfed beth bynnag yw coctêl y dydd San Pedr).
Rydw i’n ymrwymo i fy ffrindiau gorau gyda phob elfen o fy ysbryd, felly pan mae hynny’n dod i ben…mae fy mywyd a fy iechyd meddwl yn cwympo’n rhacs.
Ac mae cyfeillgarwch yn gallu cwympo i ddarnau am sawl rheswm torcalonnus.
Weithiau mae yna rhyw frad dramatig, emosiynol sy’n tanio brwydr ffrwydrol (dwi’n gyfarwydd â hyn).
Weithiau mae bywydau chi jest yn symud i gyfeiriadau gwahanol (dwi’n gyfarwydd â hyn hefyd).
Weithiau rydych chi’n sylweddoli fod y cyfeillgarwch, mewn gwirionedd, yn hynod wenwynig (ie…hwn hefyd).
Ac weithiau maen nhw’n gwneud rywbeth sy’n achosi rhwyg anadferadwy yn eich ymddiriedaeth ynddyn nhw (ie…dwi’n dechrau meddwl tybed os mai fi yw’r broblem).
Cefnogaeth
Yr her fwyaf wrth ddioddef y torcalon yma ydy’r cwestiwn at bwy y dylen i droi am gefnogaeth a bach o gymorth.
Os oes ‘na gariad sydd wedi torri fy nghalon, dwi’n troi at fy ffrind gorau sydd yna gyda breichiau agored yn barod i fy nhrwsio - ond beth os mai’r ffrind yna sydd wedi torri fy nghalon yn y lle cyntaf? Pwy sy’n mynd i fy rhoi nôl at ei gilydd bryd ‘ny?
Mae ‘torri lan’ gyda ffrind yn gallu teimlo fel un o’r profiadau mwyaf unig, yn enwedig gan nad oes llawer o gydymdeimlad gan bobl ar y tu allan.
Pan mae perthynas rhamantus yn dod i ben, mae pobl yn tecstio i ofyn os ydw i’n iawn, maen nhw’n llenwi fy DMs gyda dyfyniadau ysbrydoledig, maen nhw’n dod i fy nhŷ gyda hufen ia, blodau, gwin a rhestr hir wedi ei lamineiddio o resymau pam nad oedd rhyw ddyn bang average mewn Ford Fiesta yn werth fy amser ta beth.
Ond pan mae cyfeillgarwch yn cwympo’n ddarnau, mae yna ddisgwyliad i bawb jest delio gyda fe ar ben ei hunain fel pe na bai’n golled drychinebus.
Ry’n ni’n gweld ffilmiau a rhaglenni teledu anhygoel o’r poen sy’n dod o ysgariad neu frad rhamantus (shoutout i Doctor Foster…dwi dal heb ddod dros yr olygfa o’r dinner party) ond lle ma’r BAFTAs a’r Oscars i’r storïau am gyfeillgarwch sydd wedi cwympo’n ddarnau? (sori, dwi ddim yn cyfri Bride Wars…ffilm waethaf Anne Hathaway o bell ffordd, a dw i’n dweud hynny fel rhywun wnaeth dioddef 90 munud o Rio 2).
Rydyn ni’n fwy ymwybodol nawr nag erioed o’r blaen pa mor beryglus ydy unigrwydd. Ac ers y pandemig (sori i godi’r pwnc), mae llawer ohonom ni wedi arfer gyda bywyd ynysig.
Ond mae cyfeillgarwch yn llesol, ac yn ychwanegu sbrincl o hud i’n bywydau na ddylem ni geisio byw hebddo.
Mae yna nosweithiau dirifedi pan dw i jest eisiau cuddio mewn ystafell dywyll, yn llefain mewn i glustog achos y diwrnod / wythnos / degawd dwi’n cael, ond ar ôl jest mymryn o amser gyda fy ffrindiau gorau, dw i’n dechrau teimlo fel person cyflawn eto. Fel bod bywyd, dweud y gwir, yn eitha bendigedig.
Achos os oes gen i’r ffrindiau yna wrth fy ochr, does dim byd mor ddrwg â hynny.
Colled
Dyna pam mae colli’r ffrindiau yna yn fy mrifo gymaint. Base unrhyw seciolegydd hanner call, neu’n llythrennol unrhyw un sy’n gwylio fideos self-help ar TikTok, yn dweud mod i’n or-ddibynnol ar fy ffrindiau ac, i ddweud y gwir, digon teg.
Ydw, dwi eisiau llychio gymaint o gariad a sy’n bosib atyn nhw a byth gadael i nhw fynd.
Ond weithiau, oherwydd rhywbeth sydd tu allan i fy reolaeth - fel brad, celwydd, neu’n llythrennol jest bywyd yn ein gwahanu – mae’n rhaid i fi dderbyn bod y cyfeillgarwch wedi dod i ben.
Yn ystod fy ugeiniau, dw i wedi dysgu lot o wersi - y pwysicaf ohonyn nhw yw i fyth adael i fy nghariad at rywun arall amharu ar fy hunan barch.
Pan mae rhywun yn dangos i chi pwy ydy nhw go iawn, mae’n rhaid i chi gredu nhw…hyd yn oed pan fod hynny’n golygu bod rhaid i chi ddod a’ch cyfeillgarwch hollbwysig i ben.
Mae’n syndod ei bod wedi cymryd 29 blwyddyn gyfan i mi ddysgu hyn. 29 flwyddyn yn llawn o gamgymeriadau!
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2023