Cyhuddo 31 o bobl wedi anhrefn yng Nghaerdydd y llynedd

Car ar danFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd ceir ar dân a chafodd gwrthrychau eu taflu at yr heddlu yn ystod yr anhrefn yn Nhrelái

  • Cyhoeddwyd

Mae 31 o bobl wedi eu cyhuddo o droseddau'n ymwneud â'r anhrefn gyhoeddus yn Nghaerdydd ym mis Mai y llynedd.

Cafodd heddlu terfysg a'r gwasanaethau brys eu galw i ardal Trelái y ddinas ar 22 Mai ar ôl i tua 100 i 150 o bobl ymgasglu wedi gwrthdrawiad angheuol yn yr ardal.

Bu farw Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15 yn y gwrthdrawiad.

Cafodd ceir eu rhoi ar dân a gwrthrychau, gan gynnwys tân gwyllt, eu taflu at yr heddlu.

Dywedodd Jenny Hopkins, Prif Erlynydd Gwasanaeth Erlyn y Goron Cymru: "Rydym wedi awdurdodi Heddlu De Cymru i gyhuddo 27 o ddiffynyddion o derfysg".

“Mae pedwar diffynnydd arall wedi’u cyhuddo o achosi, neu fygwth achosi, difrod troseddol," meddai.

Mae wyth o'r rhai sydd wedi eu cyhuddo rhwng 15 ac 17 oed.

Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd gyda Heddlu De Cymru, Danny Richards: "Yn ystod yr anhrefn cafodd nifer o gerbydau eu rhoi ar dan, cafodd eiddo ei ddifrodi, cafodd swyddogion eu hanafu ac roedd bobl leol wedi dychryn yn eu cartrefi.

"Rydyn ni'n ddiolchgar iawn am gefnogaeth y gymuned leol drwy gydol yr ymchwiliad, ac rydyn ni bellach yn aros i weld be fydd canlyniad y broses gyfreithiol."

Mae disgwyl y bydd y gwrandawiadau cyntaf yn cael eu cynnal yn Llys Ynadon Caerdydd ar 19-20 Medi.

Pynciau cysylltiedig