Gwrthod cais i godi 18 o dai newydd yn ardal Botwnnog
- Cyhoeddwyd
Mae cais dadleuol i godi 18 o dai rhent mewn pentref ym Mhen Llŷn wedi'i wrthod - er gwaethaf rhybudd am gostau sylweddol i'r cyngor sir.
Fis diwethaf fe wrthododd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd â chefnogi'r datblygiad ym mhentref Botwnnog yn sgil pryderon yn lleol y byddai'n "berygl i'r Gymraeg a gwead y gymuned" a chwestiynau dros yr angen am dai.
Roedd swyddogion cynllunio wedi rhybuddio nad oedd rhesymau digonol dros wrthod, ond yn dilyn mis o gyfnod cnoi cil fe wnaeth y pwyllgor lynu at eu penderfyniad gwreiddiol mewn cyfarfod brynhawn Llun.
Barn swyddogion y cyngor oedd bod y cais yn un derbyniol, ond yn ôl y cyngor cymuned a'r aelod sir lleol nid yw'r datblygiad yn un addas ac nid oes digon o alw am y tai yn lleol.
Yn ôl Uned Strategol Tai Cyngor Gwynedd mae "angen uchel" yn ardal Botwnnog, gyda 34 teulu ar y rhestr aros am dai cymdeithasol a 14 ar y gofrestr Tai Teg o fewn ward Botwnnog yn unig.
Ond roedd Cyngor Cymuned Botwnnog wedi rhybuddio y byddai'r datblygiad o 18 o dai rhent fforddiadwy ger Cae Capel yn "berygl i'r Gymraeg a gwead y gymuned" ac yn "orddatblygiad".
Safbwynt y cyngor cymuned oedd nad oedd modd ei gefnogi heb sicrwydd y byddai'r tai yn cael eu clustnodi ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn unig.
Mewn cyfarfod yr wythnos ddiwethaf fe basiodd y cyngor cymuned gynnig o ddiffyg hyder yn adran gynllunio Cyngor Gwynedd yn sgil anfodlonrwydd nad oedd penderfyniad gwreiddiol y pwyllgor yn cael sefyll.
Ym mis Medi, pleidleisiodd saith aelod o'r pwyllgor cynllunio o blaid ei wrthod, a chwech o blaid ei ganiatáu.
Ond barn swyddogion cynllunio Gwynedd oedd y gallai gwrthod y cynnig – gyda'r safle wedi ei ddynodi ar gyfer tai yng Nghynllun Datblygu Lleol y sir – orfodi’r cyngor i dalu costau sylweddol i’r ymgeisydd pe bai unrhyw apêl i ddilyn yn llwyddiannus.
'Dim siawns mul o guro hwn'
Yn gynharach eleni bu’n rhaid i Gyngor Môn dalu costau o dros £16,000 i ymgeisydd wedi i gynghorwyr yno fynd yn groes i argymhelliad swyddogion drwy wrthod cais am 33 o dai fforddiadwy yng Ngwalchmai.
Roedd cynghorwyr hefyd wedi datgan pryder y byddai’n arwain at fwy o bobl ddi-Gymraeg yn yr ardal a phwysau ychwanegol ar isadeiledd.
Yn ôl swyddogion Gwynedd byddai “risg” wrth “wrthod cais am dai newydd heb dystiolaeth gadarn”, gan atgyfnerthu eu barn fod "dirfawr angen" ateb y galw am dai fforddiadwy yn y sir, a bod y safle wedi ei ddynodi'n benodol i adeiladu tai.
“Byddai hyn yn tanseilio polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol yn llwyr gan danseilio hygrededd y cyngor,” dywed adroddiad y swyddogion.
“Byddai risg sylweddol o dderbyn costau ar apêl pe gwrthodir y cais heb dystiolaeth a seiliau rhesymol dros wneud.”
Ond wrth annerch y pwyllgor dywedodd yr aelod lleol, Gareth Williams, ei fod wedi gobeithio byddai'r ymgeisydd wedi "newid ychydig ar y cais i leddfu pryderon yn lleol".
"Byddai caniatáu 18 o dai ym Motwnnog yn golygu cynnydd o 25% [ym maint] y pentref, ond dydy swyddogion ddim yn cytuno fod hwn yn or-ddatblygiad," meddai.
Gan hefyd gwestiynu ffigyrau'r cyngor dros y galw am dai cymdeithasol ym Motwnnog, dywedodd fod y polisïau cyfredol yn "ddiffygiol".
"Mae'n hanfodol i ni edrych ar bob cais yn ei rinwedd ei hun, ydy hyn yn ymddygiad afresymol? Mae'n rheswm berffaith deilwng i wrthod y cais dinistriol hwn heb boeni am gostau apêl."
Ychwanegodd: "Beth yw'r pwynt cynnal pwyllgor cynllunio a phleidleisio pan mae'r pennaeth cynllunio yn dweud wrthoch sut i bleidleisio?
"Gwrthod yr union gais yma y gwnaethoch chi fis diwethaf, ac mae dyletswydd statudol arnoch fel aelodau i wrthod unwaith eto."
Fe gynigiodd y Cynghorydd Gruffydd Williams y dylid gwrthod y cais oherwydd "ei fod yn groes i bolisi a byddai'n gwneud niwed arwyddocaol i'r iaith Gymraeg".
Gan honni y "byddai'n achosi niwed i gymeriad Botwnnog", dywedodd fod gwahaniaethau gyda'r cais yng Ngwalchmai a arweiniodd at Gyngor Môn yn gorfod talu costau.
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Jones fod dyletswydd ar Gyngor Gwynedd i "ddiogelu cynefinoedd Cymraeg" ac mai "nid tai haf yn unig" sy'n fygythiad i'r iaith.
Ond dywedodd y Cynghorydd Anne Lloyd Jones fod y llecyn tir wedi ei ddynodi i adeiladu tai a bod "risg uchel" pe bai'r pwyllgor yn gwrthod.
Ychwanegodd y Cynghorydd Edgar Owen: "Dwi ddim am ymddiheuro am drio cael tai fforddiadwy a helpu pobl leol i fyw lle maen nhw eisiau byw.
"Does ganddoch chi ddim siawns mul o guro hwn... Pan 'neith yr arolygydd sbïo arno 'neith basio fo'n syth."
Mewn pleidlais gofrestredig fe wnaeth y pwyllgor bleidleisio o saith i chwech i wrthod y cais.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Medi
- Cyhoeddwyd4 Medi