Oriel luniau: Tafarndai eiconig y Cymry
- Cyhoeddwyd
Ar 22 Awst 1988, daeth Deddf Trwyddedu 1988 i rym, a oedd yn caniatáu i yfwyr allu 'yfed drwy'r dydd'.
Roedd tafarndai bellach yn gallu bod ar agor yn ddi-baid o 11am tan 11pm, yn hytrach na gorfod cau am ychydig oriau yn y prynhawn.
Wrth gwrs, byddai nifer o'n tafarndai eiconig Cymreig wedi buddio o'r oriau newydd yma.
Anfonodd Cymru Fyw ddau ffotograffydd sychedig ar helfa dafarn go arbennig gyda'r nod o ddal awyrgylch a chymeriad unigryw rhai o'r llefydd hanesyddol yma sydd wedi tyfu'n rhan o'n llên gwerin.
Lluniau: Iolo Penri ac Aled Llywelyn.
Black Boy, Caernarfon
Un o'r tafarndai hynaf yng ngogledd Cymru, mae'r Black Boy ar Stryd Pedwar a Chwech wedi bod yn croesawu teithwyr i Gaernarfon ers dechrau'r 15fed ganrif.
Yn ystod gwaith adfer yn yr ystafell fwyta yn ddiweddar, daeth gweithwyr o hyd i esgid plentyn, sawl cetyn clai ac esgyrn anifail o dan y llawr pren.
Yr Hen Lew Du, Aberystwyth
"Llew du, lle da iawn..."
Yn ôl cylchgrawn Barn, Tachwedd 2000: "Dyma dafarn sydd ar nos Sadwrn yn cynnig defod gymdeithasol bwysig i gannoedd o bobl ifanc wrth iddynt dyrru i'r un man ar yr un amser i siarad â'r un bobl, unigolion na fyddent yn cwrdd â hwy o gwbl yn aml iawn ond yn y dafarn arbennig yma. Mewn cymdeithas wasgaredig fel y gymdeithas Gymraeg dyma'r math o brofiad torfol sydd yn helpu diffinio beth yw ystyr 'perthyn'."
Cann Office, Llangadfan
Robert Thomas a'i wraig Rachel yw perchnogion presennol y gwesty ond mae'r lleoliad wedi bod yn rhan o hanes Dyffryn Banw ers 1310.
Yn ôl rhai ffynonellau, daw teitl anarferol y dafarn o'r enw Cae yn y fflos. Ond mae eraill yn argyhoeddedig bod y dafarn wedi benthyg ei henw gan yr arwydd gwreiddiol â grogai tu allan - sef darlun o dri tancard (neu cann). Roedd y ddelwedd yn mynegi'n glir i bobl anllythrennog y 17eg ganrif, mai tŷ tafarn oedd hwn.
Yr Eagles, Llanuwchllyn
Gyda'i welydd cerrig, trawstiau isel a lle tân agored, mae'r Eagles yn dafarn Gymreig traddodiadol. Tŷ fferm oedd hi'n wreiddiol ac erbyn heddiw mae'r adeilad hefyd yn cynnwys siop sy'n gwerthu nwyddau o bob math.
Be' gymrwch chi? Perchnogion yr Eagles, Eleri a Meirion Pugh, wrth y bar gyda Thabo Mitchell a Dochan Gwyn Roberts.
Dyffryn Arms (Tafarn Bessie), Cwmgwaun
Mae drysau'r Dyffryn Arms wedi bod ar agor ers 1845.
Mae'r dafarn wedi bod yn nheulu Bessie erioed. Dechreuodd weini cwrw yma pan oedd yn 20 oed ac mae wedi bod yn rhedeg y lle ers 45 o flynyddoedd.
Twll yn y wal yw'r bar ac mae'r cwrw'n cael ei arllwys o jwg yn y modd traddodiadol.
Dyw'r celfi yn y parlwr heb newid ers y 1920au. Does dim cerddoriaeth na theledu lloeren - ond mae pob amser groeso cynnes Cymraeg i ymwelwyr sy'n cyrraedd o bedwar ban byd.
Y Glôb, Bangor Ucha'
Mae'r Glôb wedi bod yn dafarn eiconig i fyfyrwyr Cymraeg Bangor ers yr 1970au. Wedi ei lleoli i fyny un o strydoedd bach Bangor Ucha', yn ei hanterth doedd hi ddim yn anarferol gweld pobl yn ciwio i lawr y stryd i ddod i mewn erbyn last orders.
Yn 2015, dathlodd ei landlord Gerallt Williams 21 mlynedd o fod yn gyfrifol amdani.
Tafarn y Fic, Llithfaen
Ers 30 mlynedd, pobl lleol sydd wedi bod yn rhedeg y Fic - mae'n un o'r tafarndai cymunedol hynaf yn Ewrop.
Erbyn heddiw mae'n adnabyddus hefyd fel lleoliad pwysig yn yr ardal ar gyfer gigs a phob math o adloniant Cymraeg.
Saith Seren, Wrecsam
Cafodd canolfan Gymraeg Wrecsam ei sefydlu yn hen adeilad enwog y Seven Stars ar Stryd Caer yn sgil ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â'r dre' yn 2011 pan gafodd apêl i ariannu'r fenter ei lansio. Daeth pobl leol i'r adwy unwaith eto pan ddaeth y ganolfan o dan fygythiad yn 2015.
Erbyn heddiw, mae'r Saith Seren wedi ennill ei phlwy fel canolbwynt adnabyddus lleol ar gyfer pob math o ddigwyddiadau Cymraeg gan gynnwys cerddoriaeth fyw.
Yr Anglesey, Caernarfon
Mae'r Anglesey yn cefnu ar waliau Castell Caernarfon ar lan y Fenai. Lle delfrydol i wylio haul ola'r p'nawn yn machlud dros y dŵr.
Ond mae'n well gan rhai fod wrth y bar!
Mae'r dafarn yn cynnal noson meic agored yn wythnosol.
Tafarn Sinc, Rhosybwlch ger Maenclochog
'Ces mi beint 'na dwe!' Mae'r dafarn wedi ei henwi, wrth gwrs, ar ôl y deunydd a ddefnyddiwyd i'w hadeiladu.
Y gymuned leol yw perchnogion Tafarn Sinc ar ôl codi dros £325,000 i wneud yn siŵr fod y drysau'n ailagor fis Tachwedd diwethaf.
Roedd yna bryder fod y gloch wedi'i chanu am y tro olaf wedi i'r cyn berchnogion fethu â dod o hyd i brynwr.
Adeiladwyd y gwesty gwreiddiol, sef y Precelly Hotel, yn 1876 fel atyniad i ddenu twristiaid i'r rheilffordd oedd newydd agor. Cafodd ei hailagor ar ei newydd wedd yn 1992 ac mae'r dafarn dal yn atyniad i dwristiaid sy'n cael eu swyno gan ei naws unigryw Gymraeg.
Hefyd o ddiddordeb: