Perchnogion tafarn yn diolch am gefnogaeth wedi tân
- Cyhoeddwyd
Yn dilyn tân a ddinistriodd rhan helaeth o dafarn ger Aberystwyth mae'r perchnogion wedi diolch am "bob arwydd o gefnogaeth" ac yn dweud y byddant yn ailadeiladu'r dafarn.
Newydd brynu Y Ffarmers yn Llanfihangel-y-Creuddyn oedd y perchnogion Caitlin Morse a Lewis Johnston, a nos Sadwrn fe ddywedon nhw: "Dolur calon yw gorfod dweud bod Y Ffarmers wedi dioddef tân ofnadwy.
"Rydym yn ddiolchgar na chafodd neb unrhyw niwed.
"Bydd y dafarn annwyl ar gau tra ein bod yn ei hailadeiladu, ac ailadeiladu a wnawn yn ddi-os.
"Diolch o waelod calon am bob arwydd o gefnogaeth."
Cafodd y gwasnaethau tân eu galw i dafarn y Ffarmers am 07:26 fore Sadwrn.
Ni chafodd neb ei anafu yn y tân a'r gred oedd nad oedd unrhyw un yn y dafarn ar y pryd.
Mae cannoedd o negeseuon wedi cael eu hanfon ar y cyfryngau cymdeithasol yn cydymdeimlo â'r perchnogion newydd ac yn eu cefnogi.
Wrth ymateb i'r tân ddydd Sadwrn dywedodd Julie Williams, warden yn yr eglwys leol, fod y dafarn "wastad yn ganolbwynt pethau" a bod y tân wedi bod yn "sioc ac yn siom".
Yn y gorffennol mae'r dafarn wedi ennill gwobrau blaenllaw ac wedi ymddangos mewn llawlyfrau nodedig.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2018