Ailagor Tafarn Sinc wedi ymgyrch gymunedol
- Cyhoeddwyd
Mae trigolion ardal Maenclochog a Rhosybwlch yng ngogledd Sir Benfro wedi bod yn dathlu ddydd Mawrth wrth i'r dafarn leol ailagor.
Ar ôl codi dros £325,000, y gymuned leol yw perchnogion newydd Tafarn Sinc.
Roedd pryder y byddai'r tafarn yn cau am byth ar ôl i'r cyn berchnogion fethu â dod o hyd i brynwr.
Yn wreiddiol cafodd y dafarn a bwyty ei rhoi ar y farchnad am £295,000.
Cafodd Cymdeithas Tafarn Sinc ei ffurfio ddiwedd Gorffennaf yn dilyn cyfarfod cyhoeddus ym Maenclochog, ac fe gafodd gefnogaeth yr actor Rhys Ifans.
Yn ôl cydlynydd y prosiect, y cynghorydd Cris Tomos, fe lwyddodd y fenter i godi £220,000 drwy werthu cyfranddaliadau.
"Y nod yw codi cronfa'r cyfranddaliadau i £375,200, a bydd modd prynu cyfranddaliadau tan o leiaf Mawrth 2018."
I ddathlu'r achlysur, Hefin Wyn, un o gyfarwyddwyr Cymdeithas Tafarn Sinc, wnaeth gyflwyno'r peint cyntaf i Ryan John, un o selogion y dafarn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2017