Tafarn y Mochyn Du yng Nghaerdydd yn cael ei werthu

  • Cyhoeddwyd
mochyn duFfynhonnell y llun, Google

Mae tafarn enwog y Mochyn Du yng Nghaerdydd wedi cael ei werthu i gwmni o Lundain, Brewhouse and Kitchen.

Fe gadarnhaodd prif weithredwr y cwmni, Kris Gumbrell wrth BBC Cymru Fyw eu bod wedi cwblhau'r pryniant ddydd Mercher, gan ychwanegu'r dafarn at 17 o safleoedd maen nhw eisoes yn rhedeg yn Lloegr.

Dywedodd y perchennog blaenorol, Gareth Huws ei fod wedi cael "15 mlynedd hapus iawn yn y Mochyn" a'i fod yn "diolch i'r cwsmeriaid am eu cefnogaeth ar hyd y blynyddoedd".

Ychwanegodd un Mr Gumbrell, ei fod "wrth ei fodd" â'r dafarn a'i fod yn "hynod gyffrous" i gymryd yr awenau.

'Cymro balch'

Mae'r Mochyn Du, sydd wedi ei leoli ger maes criced Gerddi Soffia, yn adnabyddus am ei hethos Gymraeg, a dywedodd Mr Gumbrell ei fod yn awyddus i gadw at yr ymdeimlad hwnnw.

"Dydw i ddim yn siarad Cymraeg ond dwi wrth fy modd efo'r ffaith ei fod yn dafarn ddwyieithog, ac rydyn ni wedi ymgorffori hynny yn ein cynllun busnes," meddai.

"Rydw i'n fachan o Gaerdydd felly dwi wrth fy modd â'r lle. Rydyn ni wedi bod yn edrych am leoliad yng Nghaerdydd ers rhyw dair blynedd, a phan ddaeth y cyfle roedd rhaid i ni ei gymryd.

"Rydyn ni'n bragu ein cwrw ein hunain yn ein tafarndai, felly rydyn ni'n gobeithio cynnig ystod ehangach o gwrw yn y dyfodol gan gynnwys cynnyrch bragwyr lleol."

Ffynhonnell y llun, Brewhouse and Kitchen
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Kris Gumbrell y byddai ethos Gymreig y dafarn yn cael ei chadw

Ychwanegodd Kris Gumbrell fod y cwmni'n bwriadu gwario'n sylweddol ar adnewyddu'r dafarn "rywbryd yn y flwyddyn newydd", ond na fyddai unrhyw beth yn newid am y tro a bod staff wedi cael sicrwydd ynglŷn â'u swyddi.

Dywedodd Gareth Huws ei fod yn hyderus y byddai ymdeimlad Cymreig y dafarn yn parhau dan y perchnogion newydd.

"Dwi'n falch o ddeall bod y Mochyn yn pasio 'mlaen i Gymro balch, ac y bydd y staff a'r rhinweddau ieithyddol yn parhau," meddai Mr Huws.

Cafodd Brewhouse and Kitchen eu sefydlu yn 2011, a'r Mochyn Du fydd y lleoliad cyntaf i gael ei redeg gan y cwmni yng Nghymru.