Iechyd da o'r Mochyn Du!
- Cyhoeddwyd
Bydd un o dafarnau Cymraeg mwya' poblogaidd Caerdydd yn newid ei henw cyn bo hir, ond wyddoch chi y bydd 'na groeso Cymreig i'w gael o hyd yn Y Mochyn Du?
Yr unig dro yn y gynffon (mochyn) ydy y bydd yn rhaid i chi deithio i ben draw'r byd i'r Wladfa ym Mhatagonia i fwynhau peint neu wydraid bach. Elen Davies, sy'n astudio cwrs Newyddiaduraeth a Chymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd sy'n egluro mwy...
Yr haf hwn, es i a phedwar myfyriwr sy'n astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd am fis o brofiad gwaith i'r Wladfa.
Wedi pythefnos prysur yn Nhrevelin ac Esquel yn cynorthwyo mewn ysgolion, cynnal nosweithiau Siôn a Siân, helpu mewn gwersi Cymraeg i oedolion, pa beth gwell na pheint oer yn Y Mochyn Du?
Na, nid y dafarn boblogaidd ger Gerddi Soffia yng Nghaerdydd ond y dafarn newydd sbon agorodd ar 20 Gorffennaf yn y Gaiman.
Gyda phâr ifanc wrth y llyw, Matias Lobos ac Ezequiel Crespo, mae'r dafarn newydd yn mynd o nerth i nerth, gyda chwrw lleol, tapas ar y fwydlen a'r Gymraeg yn cael ei mwynhau tan oriau mân y bore.
''Mae Tafarn Las y Gaiman wedi cau ers blynyddoedd bellach ond roedden ni'n gweld galw ymhlith y bobl leol am le i gyfarfod,'' meddai Matias.
Er mai Sbaeneg yw iaith gynta' Matias ac Ezequiel maen nhw yn medru ychydig o'r Gymraeg.
Torri syched
Mae 'na naws Cymreig i'r Mochyn Du ym Mhatagonia, gydag enw Cymraeg, baner Cymru'n ganolbwynt a chredwch neu beidio, gwydr peint o'r Mochyn Du gwreiddiol yn hawlio'i le uwchben y bar.
Er bod y dafarn yng Nghaerdydd yn newid ei henw, dywedodd y perchnogion ym Mhatagonia wrtha' i eu bod nhw am barhau â'r enw 'fel atgof a theyrnged i Gymru'.
Ers yr agoriad swyddogol, mae llwyth o Gymru yn barod wedi torri syched yn y dafarn, ac ambell un wedi dod o Gaerdydd yn awyddus i gymharu.
Peint... yn y Gymraeg
''Mae hi'n dafarn fodern iawn, gydag awyrgylch gyfeillgar a Chymreig.'' Dyna oedd barn Osian Morgan, myfyriwr Cymraeg o Brifysgol Caerdydd, a aeth yno i ddathlu wedi Eisteddfod yr Ifanc yn y Gaiman.
''Er nad oedd y perchnogion yn rhugl, roedden nhw yn dysgu Cymraeg, ac roedd cael archebu peint yn y Gymraeg ochr arall i'r byd yn brofiad anhygoel!
''Byswn i'n argymell i unrhywun sy'n ymweld â'r Wladfa i ymweld â'r dafarn unigryw hon am beint neu ddau''.
Mae'r dafarn ar agor bob nos Iau i Sul, felly os ydych chi'n hiraethu am beint yn y Mochyn Du... ewch i Batagonia!