Tafarnwraig o Sir Benfro yn dathlu carreg filltir
- Cyhoeddwyd
Wrth i bobl ardal Abergwaun ddathlu'r Hen Galan, fe fydd dydd Gwener hefyd yn ddiwrnod arbennig i dafarnwraig leol.
Mae Bessie Davies wedi bod yn cadw tafarn y Dyffryn Arms yng Ngwm Gwaun ers 45 o flynyddoedd, ac yn parhau i weini cwrw o'r gasgen yn y modd traddodiadol.
Mae ei theulu wedi bod yn rhedeg y dafarn adnabyddus ers 1845.
Heddiw fe fydd pobl Cwm Gwaun yn dathu ei charreg filltir arbennig a hefyd y 'flwyddyn newydd' gan fod pobl yr ardal yn dal i nodi hen galendr Galendr Julianaidd ac yn dathlu'r Hen Galan.