Stori'r Eisteddfod mewn lluniau

  • Cyhoeddwyd

Fe ddaeth miloedd i Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy i gystadlu, mwynhau a chymdeithasu.

Aelod o'r Orsedd yn canuFfynhonnell y llun, Ffotonant

Er gwaethaf y tywydd cymysg roedd digonedd o uchafbwyntiau. Dyma stori'r wythnos drwy gamerâu Cymru Fyw...

Criw pasbort

Roedd croeso go anarferol i ymwelwyr ar ddiwrnod cyntaf yr Eisteddfod. Roedd Dafydd yn rhan o brosiect celf i roi pasbort dinasyddiaeth Bwrdeistref Rydd Llanrwst i Eisteddfodwyr.

Criw tu ôl y bar Syched

Roedd y criw yma o Sir Gâr yn barod am wythnos brysur o waith ym mar Syched!

Ceri a Gruffudd o Riwlas

Roedd y tywydd yn gymysg ddydd Sul. Dyma Ceri o Rhiwlas ger Bangor yn gwneud yn siŵr nad oedd ei mab Gruffudd yn llosgi yn yr haul rhwng y cawodydd.

Gyda'r nos daeth torf enfawr i fwynhau Bryn Fôn ar un o nosweithiau sych prin yr wythnos.

Bryn FonFfynhonnell y llun, FFOTONANT

Roedd dydd Llun yn ddiwrnod i'w gofio i Cyfryngfab, Siryf a Cadno sef y darlledwr Aled Samuel a'r chwaraewyr rygbi Ken Owens a Jonathan Davies. Roedden nhw, a 34 arall, yn cael eu croesawu i'r Orsedd fore Llun gan yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd, a hynny am eu cyfraniad arbennig i Gymru.

Cadno, Siryf a Chyfryngfab sef y chwaraewyr rygbi Jonathan Davies a Ken Owens a'r darlledwr Aled Samuel, yn mwynhau'r seremoni. // Broadcaster Aled Samuel and Wales rugby legends Ken Owens and Jonathan Davies soak up the atmosphere.Ffynhonnell y llun, Ffotonant

Roedd yn ddiwrnod i'w gofio i Guto Dafydd hefyd wrth iddo ennill y Goron. Fe aeth ymlaen i gipio Gwobr Goffa Daniel Owen hefyd ar y dydd Mawrth!

Da iawn dad! Y bardd buddugol Guto Dafydd gyda'i blant Nedw a CasiFfynhonnell y llun, Ffotonant
Disgrifiad o’r llun,

Da iawn dad! Bardd y Goron Guto Dafydd gyda'i blant Nedw a Casi

Roedd hi'n gymharol sych ar y Maes ddydd Mawrth gyda cyfle i fwynhau pizza a pheint wrth Lwyfan Radio Cymru.

Criw ifanc yn eistedd yn ardal Llwyfan y Maes

Ar lwyfan y Pafiliwn, roedd cyfle i anrhydeddu y diweddar Maureen Hughes. Derbyniodd Bleddyn ei gŵr dystysgrif Llywydd Anrhydeddus yr Eisteddfod ar ei rhan gan Lywydd y Llys, Eifion Lloyd Jones.

Anrhydeddu Maureen Hughes

Doedd dim teilyngdod yng nghystadleuaeth Tlws y Cerddor ddydd Mercher, ond roedd digon o gyfle i glywed doniau cerddorol yn ystod y dydd. Roedd Ysgol Dyffryn Conwy yn llawn cyffro wrth baratoi i agor cystadleuaeth y corau ieuenctid.

Côr Ysgol Dyffryn Conwy yn paratoi i fynd ar y llwyfan // Ysgol Dyffryn Conwy choirs ready to take the stage

Ai dyma Eisteddfodwr ifancaf yr wythnos? Wil, sy'n wyth wythnos oed, gyda'i dad Prys Evans ar y maes ddydd Mercher.

Babi wyth wythnos oed gyda'i dad ar y maes

Roedd Maes yr Eisteddfod eleni yn llawn digwyddiadau a pherfformiadau amrywiol. Ddydd Iau daeth criw 'Rygbi: Annwyl i Mi / Dear to Me' i'r Maes. Roedd eu dawns awyr agored yn dathlu rygbi yng Nghymru.

rygbi

Fe gafodd Magi a Gweno o Ryd-y-Main ger Dolgellau gyfle i eistedd yn un o geir y gyrrwr rali lleol, Elfyn Evans

rali

Ddydd Gwener daeth y newyddion fod Maes B wedi ei ganslo oherwydd y rhagolygon tywydd garw. Cafodd Gwenno Parry (dde) a'i ffrind Alys wybod fore Gwener nad oedden nhw'n gallu mynd yno.

"O'n i'n meddwl 'sa nhw 'di gallu deud wrth bobl neithiwr neu'n gynnar bore 'ma fel ein bod ni'n gwybod i beidio trafferthu dod."

Gwenno Parry (dde) a'i ffrind Alys

Draw ar lwyfan y Pafiliwn, Jim Parc Nest oedd enillydd poblogaidd iawn y Gadair. Dywedodd y beirniaid fod "lliwiau a haenau ei 'stori ganfas' yn amlygu ei feistrolaeth ar holl gyweiriau a rhythmau'r Gymraeg".

Fe oedd yr Archdderwydd hefyd yn amlwg wedi ei blesio!

Yr Archdderwydd yn gwenu ar y Prifardd // The Archdruid smiling at the chair winnerFfynhonnell y llun, ffotoNant

Oherwydd y tywydd glawog ddydd Sadwrn, roedd hi ychydig gwacach ar y Maes... ond roedd hi'n brysur iawn gefn llwyfan wrth i gannoedd o ddynion ymgynnull i gysgodi rhag y glaw a'r mwd cyn iddyn nhw gystadlu â'u corau yng nghystadleuaeth y corau meibion.

Aelod o gor yn sythu tei-bo canwr arall // A choir member straightening the bow-tie of another member

Er y glaw, roedd yna dal ddigon o bobl yn crwydro - pob un â'i got law a'i ymbarel. Roedd Mari yn ddigon ffodus i allu osgoi gwlychu ei thraed drwy gael ei chario ar gefn ei thad - o na fyddai pawb yr un mor lwcus!

Plentyn yn cael ei gario ar gefn ei dad // A young child being carried on his father's back

Bu'n rhaid i gig olaf Llwyfan y Maes, sef Dafydd Iwan, symud i'r Pafiliwn. Yng Ngwesty'r Eryrod yn nhref Llanrwst ei hun, roedd cyn-aelod Y Cyrff, Mark Roberts, gyda'i fand, MR yn cloi wythnos a hanner gyda'r dywediad enwog oedd ar wefusau, crysau t ac arwyddion drwy'r wythnos.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan BBC Cymru Fyw

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan BBC Cymru Fyw

Diolch Llanrwst!

Paentiad o Cymru, Lloegr a Llanrwst

Hefyd o ddiddordeb: