T James Jones yw enillydd y Gadair yn yr Eisteddfod
- Cyhoeddwyd
Cododd wyneb cyfarwydd iawn i'w draed ar ganiad y Corn Gwlad ddydd Gwener wrth i T James Jones ddod i'r brig yng nghystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy.
Derbyniodd Jim Parc Nest - i roi iddo'i enw barddol - y Gadair am awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd, heb fod dros 250 o linellau ar y teitl Gorwelion.
Dywedodd y beirniaid fod ei awdl "gryn dipyn ar y blaen yn y ras am y gadair eleni, o safbwynt ei huchelgais, ei chyfeiriadaeth, ei meddylwaith a'i mydryddiaeth".
Roedd saith wedi ymgeisio am y Gadair.
Y beirniaid eleni oedd Myrddin ap Dafydd, Llion Jones ac Ieuan Wyn.
'Cerdd ddramatig a dyfeisgar'
Wrth draddodi'r feirniadaeth, dywedodd Llion Jones: "Os ydach chi wedi gwneud eich sỳms, fe fyddwch chi'n gwybod fod yna un bardd yn dal i redeg. Wil Tabwr ydi'r bardd hwnnw, a diolch amdano.
"Drama fydryddol ar gynghanedd sydd gan Wil, ac ynddi, cawn bortread llachar o Iolo Morganwg, y saer maen o Drefflemin a thad Gorsedd y Beirdd, ac yng ngeiriau ei gofiannydd, yr hanesydd Geraint Jenkins, 'un o'r Cymry mwyaf deallus a chreadigol a welwyd erioed'.
"Dyma gerdd, sydd yn y pen draw, yn clodfori'r ysbryd creadigol a radical oedd yn rhan o anian Iolo, ac sydd, yn ôl y bardd ac Iolo fel ei gilydd, yn anhepgor i oroesiad cenedl.
"Ym marn gytûn y tri ohonom, mae cerdd Wil Tabwr gryn dipyn ar y blaen yn y ras am y gadair eleni, o safbwynt ei huchelgais, ei chyfeiriadaeth, ei meddylwaith a'i mydryddiaeth.
"Mae lliwiau a haenau ei 'stori ganfas' yn amlygu ei feistrolaeth ar holl gyweiriau a rhythmau'r Gymraeg.
"Ond dydi Wil ddim wedi'i gwneud hi'n hawdd i ni'r beirniaid ychwaith. Mae'r gwaith mewn cynghanedd gyflawn yn sicr, ac yn cynnwys nifer o gynganeddion dolennog cywrain iawn, ond mae'r cwestiwn a ydi hi'n awdl neu gasgliad o gerddi yn destun seiat ddifyr.
"Oni bai iddo ddewis gosod y rhestr o gyflawniadau Iolo fel talp o ryddiaith, fe fyddai Wil hefyd wedi herio un arall o amodau'r gystadleuaeth trwy fynd dros drothwy'r 250 o linellau. Ond does dim dwywaith mai gan Wil y mae'r weledigaeth eleni.
"Mae Wil Tabwr wedi canu cerdd ddramatig a dyfeisgar sy'n gwbl deilwng o gadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy.
"Mae'n siŵr y byddai Iolo ei hun yn ei elfen wrth feddwl y caiff ei orsedd heddiw anrhydeddu bardd sy'n dal i ganu 'uwch düwch dibyn' ac sy'n mynnu dangos bod rhyw olau yn rhywle dan yr olew o hyd."
Ail Gadair
Yn wreiddiol o Gastellnewydd Emlyn, mae Jim Parc Nest bellach wedi ymgartrefu yn Radur, Caerdydd.
Mae'n gyn-Archdderwydd ac felly'n hen gyfarwydd â'r prif seremonïau ar lwyfan y Brifwyl.
Dyma'r eilwaith iddo ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol, yn dilyn ei lwyddiant yn Eisteddfod Sir y Fflint 12 mlynedd yn ôl yn 2007.
Mae hefyd wedi ennill Coron yr Eisteddfod ddwywaith, yn Abergwaun yn 1986 a Chasnewydd yn 1988.
Yn fardd cyhoeddedig, dramodydd llwyfan, radio a theledu, ef yw awdur Dan y Wenallt, ei gyfieithiad o Under Milk Wood, Dylan Thomas.
Fe ddywedodd ei fod yn gwerthfawrogi cefnogaeth ac ysbrydoliaeth teulu agos ac estynedig, ynghyd â ffrindiau, a hefyd ymchwil angenrheidiol Yr Athro Geraint Jenkins a'i gydweithwyr i fywyd a gwaith y 'Digymar Iolo'.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Awst 2019
- Cyhoeddwyd8 Awst 2019
- Cyhoeddwyd7 Awst 2019
- Cyhoeddwyd6 Awst 2019
- Cyhoeddwyd5 Awst 2019