Lluniau'r dathlu wrth i Gymru gyrraedd Euro 2020

  • Cyhoeddwyd

Mae'r lluniau yma'n dweud y cyfan am y gorfoledd yng Nghaerdydd nos Fawrth wrth i Gymru guro Hwngari i gyrraedd pencampwriaeth Euro 2020.

bachgen yn dathluFfynhonnell y llun, Harry Trump
Disgrifiad o’r llun,

Eiliad arbennig i un Cymro ifanc

cefnogwyr yn dathluFfynhonnell y llun, Simon Stacpoole/Offside
Disgrifiad o’r llun,

Roedd na ganu byddarol yn y stadiwm

Y chwiban olaf
Disgrifiad o’r llun,

Y chwiban olaf!

Iwan Roberts a Dylan Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Sylwebwyr Radio Cymru Iwan Roberts a Dylan Griffiths yn methu â chuddio eu cynnwrf

Aaron Ramsey a'i freichiau yn yr awyrFfynhonnell y llun, Harry Trump
Disgrifiad o’r llun,

Ramsey, arwr y noson, a sgoriodd y ddwy gôl dros Gymru

Y chwarawyr yn dathluFfynhonnell y llun, Simon Stacpoole/Offside
Disgrifiad o’r llun,

Connor Roberts yn cerdded ar yr awyr

Chwaraewyr Cymru yn dathlu
Disgrifiad o’r llun,

Y chwaraewyr a'r dorf yn cyd-ddathlu

Sion Gwyn a'i fab Llew, o GaernarfonFfynhonnell y llun, Dafydd Gwyn
Disgrifiad o’r llun,

Sion Gwyn a'i fab Llew, o Gaernarfon

Dau o gefnogwyr CymruFfynhonnell y llun, Shaun Phillips
Disgrifiad o’r llun,

Shaun Phillips a'i daid Derek yn mwynhau'r achlysur

Cefnogwyr Cymru gyda banerFfynhonnell y llun, Kevin Owen
Disgrifiad o’r llun,

Cefnogwyr o Lanrug, ger Caernarfon, gyda baner Kieffer Moore, sy'n chwarae i Gymru gan bod ei daid yn dod o'r pentref

cefnogwr ifanc yn gweld ei arwyr
Disgrifiad o’r llun,

Un cefnogwr ifanc yn cael cip ar ei arwyr

Selogion pêl-droed CymruFfynhonnell y llun, Richard Grigg
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r selogion sydd wedi bod yn cefnogi Cymru dros y blynyddoedd wrth eu bodd gyda'r fuddugoliaeth

Bale a'r tîm gyda baner Wales, Golf, MadridFfynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Bale gyda baner allai godi gwrychyn yn Real Madrid

Joe Allen yn dathluFfynhonnell y llun, Harry Trump
Disgrifiad o’r llun,

Joe Allen yn edrych tua'r dorf wrth ddathlu

Ryan Giggs yn ddagreuol yn diolch i'r ffansFfynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Oes 'na ddeigryn yn llygaid Ryan Giggs wrth ddiolch i'r ffans?

Chwaraewyr ifanc CymruFfynhonnell y llun, Harry Trump
Disgrifiad o’r llun,

Y criw ifanc fydd yn arwyr newydd i Gymru yn haf 2020

Iwan Williams yn 2019 ac yn 2017Ffynhonnell y llun, Iwan Williams/Getty
Disgrifiad o’r llun,

Dwy noson, dau ymateb gwahanol, yr un het: Iwan Williams yn hapus yn y stadiwm nos Fawrth (chwith) ac yn teimlo'n wahanol iawn yn 2017 (dde) pan fethodd Cymru â chymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd yn Rwsia wedi colli 1-0 i Weriniaeth Iwerddon.

Oes gennych chi luniau o'r dathlu? Anfonwch at cymrufyw@bbc.co.uk neu at gyfrif @BBCCymruFyw, dolen allanol ar Twitter neu ein cyfrif Facebook, dolen allanol.

Hefyd o ddiddordeb: