Oriel luniau: Effaith Stormydd Arwen a Barra ar Gymru
- Cyhoeddwyd
Dros yr wythnosau diwethaf mae dwy storm wedi taro glannau Cymru. Mae Storm Arwen a Storm Barra wedi pasio erbyn hyn, ond mae'r difrod gafodd ei achosi yn amlwg.
Dyma rai o'r lluniau mae ambell i ffotograffydd wedi eu rhannu gyda Cymru Fyw sy'n dangos effaith y stormydd ar arfordir Cymru:

Dyma'r difrod gafodd ei achosi gan Storm Barra yn Llanfairfechan.

Storm Arwen yn achosi tonnau uchel ar arfordir Ynys Môn.

Dyma'r olygfa yn harbwr Aberaeron wrth i Storm Barra chwythu o Fae Ceredigion.

Roedd llong sy'n cario teithwyr o Gaergybi i Ddulyn wedi mentro allan mewn tonnau mawr yn ystod Storm Arwen.

Yr enfys yn nghanol Storm Barra uwchben Aberdaron.

Roedd y llanw'n uchel iawn ym Mae Trearddur ar Ynys Môn cyn i Storm Arwen daro.

Roedd Storm Barra yn achosi tonnau uchel ym Mhenarth, Bro Morgannwg, nos Fawrth.

Roedd y tonnau yn chwipio dros y morglawdd yng Nghaergybi yn ystod Storm Arwen.

Goleudy Penmon yn sefyll yn gadarn yn erbyn gwynt Storm Arwen.

Storm Barra wedi gadael ei hôl ar y prom yn Aberystwyth...

Roedd y tonnau wedi difrodi'r cysgodfan ar y prom unwaith eto, ar ôl iddo gael ei ddifrodi'n wael gan storm yn 2014.
Hefyd o ddiddordeb: