Oriel: Effaith newid hinsawdd ar Gymru
- Cyhoeddwyd
Gyda chynhadledd COP26 yn digwydd yn Glasgow tan 12 Tachwedd, mae Cymru Fyw wedi casglu lluniau o rai o'r ardaloedd yng Nghymru sydd wedi cael eu taro yn ddrwg gan newid hinsawdd dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae nifer o'r ardaloedd dan sylw â gwaith eisoes wedi cwblhau, neu yn dal i ddisgwyl am waith, oherwydd difrod yn y gorffennol neu fygythiad yn y dyfodol.
Lefel y môr
Fel cenedl arfordirol, un o'r heriau mwyaf i Gymru yw lefel y môr yn codi.
Mae promenâd 100 oed Aberystwyth wedi cael ei daro'n wael gan stormydd gan achosi difrod gwerth miloedd o bunnau.
Yn 2014 chwalwyd lloches ar ôl i donnau ddifrodi'r morglawdd yn dilyn storm.
Mae nifer o leoliadau arfordirol eraill sydd dan fygythiad oherwydd môr uchel a thonnau cryf o ganlyniad i newid hinsawdd. Mae dros 400 o gartrefi o dan fygythiad o ganlyniad.
Un o'r rheiny yw pentref Y Felinheli ar lannau afon Menai yng Ngwynedd.
Mae cynllun lliniaru llifogydd gwerth £700,000 wedi cael ei gwblhau yno yn ystod haf 2021 er mwyn gwarchod hyd at 36 o dai a phedwar busnes preifat.
Ardal arall sydd mewn perygl yw pentref Fairbourne sy'n agos at aber afon Mawddach ger y Bermo, Gwynedd.
Ond ni fydd amddiffynfeydd llifogydd yn cael eu codi yno ac mae Cyngor Gwynedd wedi cydnabod efallai y bydd yn rhaid dechrau "dadgomisiynu" pentref Fairbourne yn 2045.
Tirlithriad
Ar draws i'r gorllewin ym Mhen Llŷn gwelwyd tirlithriad enfawr ym mhentref Nefyn ym mis Ebrill eleni.
Yn ôl arbenigwyr mae cysylltiad cadarn rhwng newid hinsawdd a'r llithriad. Mae môr uchel, newid tymheredd a glaw trwm yn achosi i'r clai meddal wanhau.
Llifogydd
Yn ogystal â lleoliadau arfordirol mae ardaloedd mewnol ar draws Cymru hefyd wedi cael eu heffeithio gan lifogydd trwm.
Mae lefelau afon Dyfi ger Machynlleth wedi bod yn codi'n aruthrol dros y blynyddoedd gan achosi difrod i Bont Dyfi ar yr A487 ac arwain at draffig a damweiniau.
Mae cynllun werth £46m i adeiladu pont newydd wedi cael ei gymeradwyo ac mae disgwyl i'r gwaith fod wedi ei gwblhau yn 2022.
I'r dwyrain yn Nyffryn Clwyd cafodd pont hynafol arall ei dinistrio ddechrau'r flwyddyn.
Dinistriwyd Pont Llannerch, sydd wedi ei rhestru fel pont Gradd 2, oherwydd llifogydd Storm Christoph ym mis Ionawr 2021. Ers hynny mae trigolion Trefnant a Thremeirchion wedi gorfod teithio saith milltir ychwanegol er mwyn croesi afon Clwyd.
Daeth ymgynghoriad i ben ym mis Hydref i edrych ar beth yw'r camau nesaf.
Mae effaith newid hinsawdd yn cyrraedd pobl a'u tai hefyd gan achosi miliynau o ddifrod i eiddo personol a busnesau mewn llawer o ardaloedd ar draws Cymru.
Mae'n dilyn yr achosion gwaethaf o lifogydd mae'r wlad wedi eu profi mewn dros 40 mlynedd pan darodd Storm Ciara a Storm Dennis yn 2020.
Ymhlith rhai o'r trefi gafodd hi waethaf oherwydd llifogydd oedd Llanrwst a Pontypridd.
Mae un ym mhob wyth tŷ yng Nghymru - tua 245,000 eiddo - o dan fygythiad oherwydd llifogydd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwario cyfanswm o £390m ar atal llifogydd rhwng 2016 a 2021 gan leihau'r peryg i dros 45,000 adeilad.
Bywyd gwyllt
Mae newid hinsawdd hefyd yn cael effaith ar fywyd gwyllt Cymru a'r cynefinoedd maen nhw'n dibynnu arnyn nhw.
Yn ôl ystadegau a gyhoeddwyd gan Senedd Cymru mae 17% o anifeiliaid gwyllt Cymru mewn perygl o ddiflannu.
Mae adar newydd o dde Ewrop wedi ymddangos yma oherwydd tywydd cynhesach yn yr ardal.
Mae'r Cwtiad Aur wedi bod yn breswylydd cyson yn yr ardal ond mae'r niferoedd yn gostwng.
Er hynny, mae'r aderyn wedi dechau bridio yn Eryri eto oherwydd gwaith adfer gan ffermwyr.
Mae'r tirweddau corslyd hyn bellach yn cael eu hystyried yn hanfodol yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd gan eu bod hyd yn oed yn well na choedwigoedd glaw wrth amsugno carbon deuocsid.
Ymhlith rhai o'r anifeiliaid eraill sydd mewn perygl mae draenogod, gwenyn, y wiwer goch a'r llygoden bengrwn.
Tan yn ddiweddar roedd y Barcud Coch hefyd bron a chyrraedd difodiant.
Ond mae ail-gyflwyno'r aderyn wedi bod yn llwyddiant ysgubol yng Nghymru gyda chynnydd mewn niferoedd y barcud wedi codi 1026% rhwng 1995-2014.
Mae modd gwylio degau ohonyn nhw bob diwrnod o'r flwyddyn yn cael eu bwydo mewn canolfannau fel Bwlch Nant yr Arian ger Aberystwyth neu Ffarm Gigrin ym Mhowys.
.