Storm Barra yn arwain at golli pŵer a thrafferthion teithio
- Cyhoeddwyd
Mae gwyntoedd cryfion Storm Barra wedi achosi i "gannoedd" golli eu cyflenwad trydan ar draws gogledd Cymru, ac achosi trafferthion teithio i eraill.
Dywedodd Scottish Power amser cinio ddydd Mercher fod "ychydig gannoedd o gwsmeriaid" heb drydan, ond eu bod yn gobeithio ei adfer i bawb erbyn diwedd y prynhawn "ar yr hwyraf".
Roedd nifer o bobl wedi bod heb bŵer ar draws y gogledd dros nos ac yn ystod y bore, gan gynnwys ym Mhwllheli, Penygroes, Caernarfon, Dinorwig, Aberdyfi a Llai.
Roedd cannoedd o gwsmeriaid Western Power Distribution wedi bod heb drydan mewn ardaloedd gwasgaredig ar draws de Cymru ddydd Mawrth, ond roedd pawb wedi cael eu cyflenwad yn ôl erbyn bore Mercher.
Daeth rhybudd melyn am wynt i ben am 18:00 nos Fercher ar gyfer rhannau helaeth o'r gorllewin a'r de.
Ond roedd sawl rhybudd am lifogydd, dolen allanol dal mewn grym nos Fercher.
Bu'n rhaid i ddau long ohirio docio ym Mhorthladd Caergybi nos Fercher o ganlyniad i'r gwyntoedd cryfion.
Mae disgwyl i longau'r Stena Adventurer a'r Irish Ferries Ulysses angori yn ddiweddarach nos Fercher, ac mae dau gwch tynnu yn barod i'w cynorthwyo.
O ganlyniad i'r tywydd gwael, roedd y Stena Adventurer yn dal i forio ddydd Mercher, ryw 12 awr wedi ei amser docio o 08:00.
Cafodd bwyd ac ystafelloedd eu rhoi i gyrwyr cargo a theithwyr am ddim.
Brynhawn Mawrth dywedodd y Swyddfa Dywydd bod gorsaf dywydd Aberdaron wedi cofnodi gwyntoedd o hyd at 86mya, ac roedd hyrddiad arall o 82mya am 04:00 fore Mercher.
Mae hynny'n gryfach na chyflymder y gwynt yn ystod Storm Arwen - yr adeg honno cofnodwyd hyrddiad o 81mya yn Aberporth.
Mae amryw o rybuddion llifogydd, dolen allanol mewn grym gan Gyfoeth Naturiol Cymru hefyd - gan fwyaf o amgylch yr arfordir o ganlyniad i lanw garw oherwydd y gwynt.
Dywedodd Richard Griffiths o Westy Richmond yn Aberystwyth ar Dros Frecwast fore Mercher fod y storm wedi achosi cryn dipyn o ddifrod i brom y dref.
"Mae'n wael ofnadwy, mae wedi gwneud difrod i ansawdd y prom. Mae wedi twrio i mewn i wal y prom a'i godi a chwalu twll mawr ynddi," meddai.
"Mae lot o ddifrod i'r prom. Dim byd na ellid ei drwsio, ond mae mess llwyr yma y bore 'ma."
Mae'r amodau wedi gorfodi nifer o fyrdd i gau ar draws y wlad, gan gynnwys hen Bont Hafren - yr M48 - yr A497 rhwng Efailnewydd a Phwllheli yng Ngwynedd, a'r A487 yn Niwgwl, Sir Benfro.
Mae degau o wasanaethau trên wedi cael eu canslo hefyd oherwydd y storm, gyda Thrafnidiaeth Cymru yn newid eu hamserlenni ar y mwyafrif o lwybrau "oherwydd effeithiau disgwyliedig Storm Barra".
Bydd Ysgol Dyffryn Conwy yn Llanrwst ynghau ddydd Mercher am eu bod wedi colli eu cyflenwadau trydan a nwy, a dyw llinellau ffôn yr ysgol ddim yn gweithio chwaith.
Fe fydd Ysgol Bryngwyn yn Llanelli hefyd ar gau wedi i'r gwynt achosi difrod i ran o do'r ysgol brynhawn Mawrth.
Ychwanegodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr y gallai'r tywydd eu gorfodi i leihau oriau eu canolfannau profi am Covid.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2021