Ail-agor cysgodfa Aberystwyth wedi difrod storm

  • Cyhoeddwyd
Prom Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Ar ol i'r tonnau dorri wal y prom, fe wnaeth yr adeilad ddechrau suddo i dwll

Cafodd cysgodfa Aberystwyth ei ail-agor ddydd Sadwrn, wyth mis ers cael ei niweidio yn ddifrifol gan stormydd.

Fe wnaeth yr adeilad rhestredig ddisgyn yn rhannol drwy'r prom ar ôl i donnau enfawr daro'r dref.

Cafodd ei adeiladu tua 90 o flynyddoedd yn ôl, yn agos i safle hen faddondy.

Roedd y gysgodfa wedi goroesi stormydd cynt, ond roedd rhaid ei dynnu i lawr ar ôl gwyntoedd cryf a llanw uchel Ionawr 3.

Ffynhonnell y llun, Alun Williams
Disgrifiad o’r llun,

Cysgodfa newydd Aber

Cafodd y gysgodfa ei hail-agor gan Gadeirydd Cyngor Ceredigion, John Adams-Lewis, fel rhan o'r Ŵyl Môr i'r Tir.

Dywedodd bod y cyngor wedi derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i drwsio'r adeilad.

"O'r dechrau un, roedd y cyngor yn bwriadu ail-adeiladu ac adfer y promenâd i'w gyflwr gorau," meddai.

"Roedden ni am ddangos i bawb bod y sir yn gallu bownsio yn ôl ar ôl y difrod gafodd ei achosi a bod y sir, ac Aberystwyth, yn barod ar gyfer twristiaid yr haf."