Ailgylchu gwastraff babanod
- Cyhoeddwyd
Cynghorau Caerdydd a Sir Fynwy fydd ymhlith yr awdurdodau cyntaf yn y Deyrnas Unedig i anfon clytiau babanod i'w hailgylchu.
Bydd y cynghorau Cymreig yn casglu clytiau o 2,500 o deuluoedd.
Safle yn West Bromwich fydd yn ailgylchu dros gyfnod prawf o chwe mis.
Bydd cwmni Knowaste yn diheintio'r cewynnau cyn ailgylchu plastig a ffibrau.
Mae cynghorau Caerdydd a Sir Fynwy wedi bod yn casglu'r nwyddau ar wahân.
Dywed y cwmni eu bod yn gallu ailgylchu hyd at 95% o'r nwyddau fydd yn cael eu casglu.
Gwastraff
Dywed Roy Brown, prif weithredwr Knowaste, mai hwn yw'r tro cyntaf i'r cwmni dderbyn gwastraff o'r fath gan gynghorau.
Dywedodd y cynghorydd Bryan Jones, aelod o Gabinet Sir Fynwy: "Mae cewynnau a gwastraff tebyg yn cyfrif am tua 5% o wastraff - mae hynny'n 2,375 o dunelli bob blwyddyn.
"Pe bai'r gwastraff yma yn cael ei dynnu o safleoedd tirlewni mae'n gwella'r amgylchedd ac yn costio llai."