Canolfan ar Ynys Môn yn cynnig cysur ysbrydol
- Cyhoeddwyd
"Nes i ddechrau yn ofnadwy o ifanc, mam oedd yr unig un oedd yn gwybod. Allwch chi ddim mynd i'r ysgol yn wyth oed a deud eich bod yn gallu siarad gyda phobl sydd wedi marw."
Dyna eiriau Islwyn Wyn Owen o Ynys Môn sy'n sôn am ei brofiad o weithio fel cyfryngwr (medium).
Pob nos Fawrth mae pobl yn dod at ei gilydd yng nghanolfan y Willow yng Nghaergybi ac yn profi rhywbeth cwbl wahanol i'r arfer.
Dyma ble mae nosweithiau ysbrydegaeth (spiritualism) a seicig yn digwydd, ble mae rhai pobl sydd wedi colli eu hannwyliaid yn dod i geisio cysylltu gyda nhw drwy'r byd ysbrydol.
Islwyn erbyn hyn yw ceidwad y ganolfan ers 15 mlynedd.
"Nes i ddechrau dod yma'n ifanc efo fy mam, roedd hi'n sensitif i'r byd ysbrydol hefyd. Roedd hyd yn oed fy nain a fy hen nain yn darllen dail tê, felly mae'r ddawn yn rhedeg drwy'r teulu," medd Islwyn.
Roedd profiad Islwyn o gymryd dros y ganolfan yn un anhygoel. Y tro cyntaf iddo gamu i mewn, daeth y cyn-berchennog ato a dweud mai ef oedd fod i gymryd y lle drosodd o hyn allan.
"Daeth y lady oedd yn rhedeg y lle ata i a deud fod y byd ysbrydol wedi dweud wrthi fy mod yn mynd y noson honno. Dyma hi'n gofyn i mi am gyfarfod y diwrnod wedyn a pan nes i droi fyny, fe roddodd hi'r gwaith papur a'r goriadau i'r ganolfan i mi.
"Dwi yma ers hynny, 15 mlynedd i gyd rŵan," medd Islwyn.
Mae cymuned y Willow yn golygu mwy 'na dim ond cwrdd pob nos Fawrth i geisio siarad gyda phobl sydd wedi pasio i'r ochr draw.
Mae sesiynau hyfforddi hefyd ble mae'r rhai sy'n credu fod ganddyn nhw'r ddawn yn gallu troi fyny er mwyn dysgu gan rai profiadol am sut i fynd ati i ddefnyddio'r gallu yn iawn.
Cyfryngwyr y dyfodol
Mae'r ganolfan yng Nghaergybi'n sicr yn datblygu cyfryngwyr newydd at y dyfodol.
Un o'r rheiny yw Arwel Jones o'r Fali. Daeth i ganolfan y Willow i geisio meistroli'r grefft ac erbyn hyn mae Arwel hefyd yn cynnig sesiynau Reiki, sy'n canolbwyntio ar drosglwyddo egni o un person i'r llall.
"Nes i ddod yma achos ro'n i wedi clywed fod 'na ddosbarthiadau yn cael eu cynnal i ddatblygu gallu pobl a sut i diwnio fewn yn iawn i'r byd ysbrydol.
"O'n i wastad yn meddwl fod 'na rhywbeth yna efo fi, ond do'n i ddim yn gwybod sut i'w ddefnyddio fo'n iawn, ond ers cael gwersi yn fan hyn dwi lot fwy hyderus rŵan.
"Dwi hefyd yn cynnig sesiynau Reiki i bobl. Dwi'n galw ar y byd ysbrydol i drosglwyddo egni i mi wedyn ei drosglwyddo i'r person sydd o'ch blaen," meddai.
Yn ogystal â Reiki mae sesiynau eraill yn cael eu cynnig fel rhai meddwlgarwch a myfyrio.
"Mae mwy i'r byd ysbrydol na chysylltu gyda'r ochr draw," medd Islwyn.
Yr un a sefydlodd y ganolfan yng nghanol y 1990au oedd Vera Mowbray o Gaergybi.
Hi ddewisodd yr enw Willow ac mae rheswm penodol am hynny.
Mae Vera bellach yn ei 80au ond yn dal i fynychu sesiynau nos Fawrth yn y ganolfan yn achlysurol.
"Nes i ddechrau'r grŵp yn y 90au," medd Vera.
"Roedd 'na alw'n lleol gan fod sawl un yn teimlo fod ganddyn nhw'n ddawn ond ddim yn siŵr sut i'w ddefnyddio.
"Willow ydi enw fy nhywysydd ysbrydol i, sef yr ysbryd sy'n fy nghadw i'n ddiogel ac yn fy arwain ac yn rhoi'r wybodaeth i mi.
"Dyna pam fod yr enw wedi cael ei roi ar y lle.
"Dros y blynyddoedd dwi wedi bod yn rhoi dosbarthiadau ac wedi meithrin sawl un i wybod sut i fynd ati i ddefnyddio'r gallu sydd ganddyn nhw.
"Mae pawb yn wahanol a galluoedd pawb yn amrywio, felly mae'n braf gweld pobl yn datblygu," meddai.
'Gweld ysbryd fy nhaid'
Mae Islwyn wedi bod yn datblygu'r ddawn o gysylltu gyda phobl o'r ochr draw ers ei ugeiniau.
Er ei fod yn gwybod yn wyth oed fod rhywbeth yn wahanol a bod ganddo allu nad oedd gan bobl eraill, nid aeth ati i ddysgu mwy am y ddawn nes ei fod yn oedolyn.
"Ges i'r profiad cyntaf o weld ysbryd yn wyth oed. Nes i weld fy nhaid oedd wedi pasio yn sefyll fy ystafell wely un noson."
"Do'n i erioed wedi cwrdd â fy nhaid, ond o'n i'n gwybod mai fo oedd yno a dyma fo'n deud wrthai fod popeth am fod yn iawn ac nad oedd geni reswm i fod ofn."
Yn ogystal â siarad gydag annwyliaid sydd wedi pasio i'r ochr draw, mae Islwyn hefyd yn gallu gweithio'n seicig, sy'n golygu ei fod yn gallu gweld neu deimlo pethau sydd ar y ffordd i chi drwy "fod yn eich egni."
"Weithiau dwi'n gallu defnyddio offer sydd berchen i rywun fel goriadau car eu beth bynnag a dwi'n gallu gweithio oddi ar yr egni sydd ar yr offer."
"Pan dwi'n cysylltu gyda annwyliaid pobl dwi'n gweld nhw yng nghornel fy llygaid a dydyn nhw byth yn ymddangos pan oedden nhw ar ei gwaethaf, maen nhw wastad yn ymddangos pan oedden nhw yn iach ac ar ei cryfaf," meddai.
Er bod cymuned y Willow yn un gyfeillgar iawn, nid yw bod yn gyfryngwr wastad yn hawdd.
"Os yda ni'n postio rhywbeth ar social media mae 'na rhai pobl yn postio ac yn deud mai lol ydio i gyd.
"Fel arfer dydi'r bobl yma erioed wedi bod mewn unrhyw noson na phrofi'r hyn ryda ni'n gynnig.
"Be dwi wastad yn deud wrth bobl ydi dewch i'w drio fo, ella newch chi ei fwynhau o, ella newch chi ddim.
"Dewch hefo meddwl reit agored i drio mwynhau. Os yda chi'n teimlo nad ydach chi wedi cael be' ydach chi eisiau allan ohono fo, rydych chi wedi cael noson o'r tŷ a chwrdd â phobl sy'n agored i wahanol bethau," meddai.
O ran y dyfodol mae Islwyn yn gobeithio gallu cynnig mwy o wasanaethau seicig a defnyddio ei ddawn fel cyfryngwr yn amlach.
Mae'n teithio'r wlad ac yn cael ei wahodd i sesiynau tebyg o amgylch Prydain.
Mae hefyd yn edrych ymlaen at ddyfodol canolfan y Willow.
"Mae'r lle yma llawn pobl sydd fel teulu i mi, rydan ni'n gymuned hapus a dwi wedi cwrdd â phobl amazing yn gwneud hyn.
"Ar fy siwrne mae cymaint o bobl wedi fy helpu a phobl dwi rŵan yn ei gweld fel teulu," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd
- Cyhoeddwyd31 Hydref